Main Content CTA Title

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Cyngor gan y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd

Mae'n Ramadan - y Mis Sanctaidd ar y calendr Islamaidd! Yn ystod y mis yma, mae Mwslimiaid yn cadw at gyfnod o ymprydio lle maen nhw'n ymatal rhag bwyd a diod rhwng toriad y wawr a machlud haul.

Mae maeth a hydradu’n rhannau pwysig o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a dyna pam y gall ymprydio gael effaith. Nid yw hyn yn golygu bod pobl Fwslimaidd yn rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff drwy gydol Ramadan.

Beth yw Ramadan?

Ramadan yw nawfed mis y calendr lleuad Islamaidd, ac mae’n cael ei gadw gan Fwslimiaid ledled y byd fel cyfnod o ymprydio, myfyrio ysbrydol, elusen a gweddi. Mae'n gyfnod o ddefosiwn a mewnsyllu crefyddol dwysach. 

Pryd mae Ramadan yn cael ei gynnal?

Mae’r dyddiad yn newid bob blwyddyn yn dibynnu ar weld y lleuad cilgant newydd. Eleni, mae Ramadan rhwng Chwefror 28ain hyd at benwythnos Mawrth 31ain.

Mae diwedd Ramadan yn cael ei nodi gan ŵyl o'r enw Eid al-Fitr, sy'n amser ar gyfer gweddi, dathlu, undod teuluol a gwledd.

Pam mae Mwslimiaid yn ymprydio yn ystod Ramadan?

Mae Mwslimiaid yn credu bod ymprydio yn ystod Ramadan yn eu helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a thosturi Duw tuag at y rhai mewn angen.

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan.

Sut i addasu chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan?

Er mwyn sicrhau bod Mwslimiaid yn gallu parhau i fwynhau manteision chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o sut i addasu chwaraeon a hyfforddiant. 

  • Byddwch yn sensitif ac yn llawn dealltwriaeth - Dylai hyfforddwyr a chyd-chwaraewyr fod yn sensitif i arferion diwylliannol a chrefyddol cyfranogwyr Mwslimaidd. Byddai dymuno “Ramadan Mubarak”, sy'n golygu “Ramadan Bendithiol”, yn golygu llawer. Byddai hefyd yn garedig gwneud addasiadau ar gyfer amseroedd gweddïo a darparu gofod preifat i gyfranogwyr weddïo. Dylid ystyried hyn drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond ar gyfer Ramadan.
  • Addasu dwysedd a hyd - Yn ystod Ramadan, dylid addasu dwysedd a hyd y gweithgarwch corfforol. Efallai y bydd angen i hyfforddwyr addasu eu sesiynau hyfforddi ar gyfer eu cyfranogwyr Mwslimaidd. Gall hyn helpu i arbed ynni ac osgoi dadhydradu.
  • Addasu amser yr ymarfer corff – Os oes modd, dylid cynnal hyfforddiant yn ystod oriau nad ydynt yn ymprydio er mwyn helpu i gynnal lefelau egni. Os gwneir yr hyfforddiant yn ystod yr oriau ymprydio, dylai fod yn ysgafnach ac yn llai dwys. Mae'n well bod hyn yn digwydd yn gynnar yn y bore ar ôl ailgyflenwi neu'n hwyr gyda'r nos cyn ail-lenwi â thanwydd.
  • Monitro iechyd a lles - Yn ystod Ramadan, gall athletwyr fod yn fwy agored i ddadhydradu, blinder, a phroblemau iechyd eraill. Dylai hyfforddwyr ac arweinwyr fonitro iechyd a lles yr athletwyr sy'n ymprydio yn fanwl a sicrhau nad ydynt yn gorymarfer.
Mae batiwr yn derbyn bowlen tra bod wicedwr yn aros y tu ôl i'r bonion.
Roedd sesiynau rhad ac am ddim hwyr y nos ym mis Ebrill yng Ngerddi Sophia yn caniatáu i Fwslimiaid a oedd yn arsylwi Ramadan chwarae criced ar ôl torri eu hympryd.

Cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Gall fod yn heriol cynnal trefn reolaidd o weithgarwch corfforol i gadw'n iach yn ystod Ramadan. Dyma rai pethau i'w hystyried ar gyfer y rhai sy'n ymprydio yn ystod y Mis Sanctaidd. 

  • Cymryd seibiant a gorffwys – Os ydych chi’n hyfforddi ar eich pen eich hun neu’n cystadlu fel rhan o dîm, dylai fod mwy o seibiannau i orffwys ac adfer wrth wneud ymarfer corff yn ystod yr ympryd.
  • Cael digon o orffwys - Mae'n hanfodol trefnu amser gorffwys digonol yn ystod y cyfnod ymprydio er mwyn rhoi cyfle i'r corff adfer. Oherwydd gweddïau hwyr y nos a blinder, gall cysgu am gyfnod byr iawn yn ystod y prynhawniau fod yn fuddiol iawn.
  • Bwyta'n iach - Wrth dorri'r ympryd ar fachlud haul, dylid canolbwyntio ar fwyta bwydydd iach, llawn maethynnau fel ffrwythau, llysiau, grawn cyflawn, a phroteinau heb lawer o fraster i gadw'ch corff yn llawn tanwydd am gyfnod hirach.
  • Hydradu’n gyson - Yfwch ddigon o ddŵr a defnyddiwch ddigon o electrolytau ar ôl machlud haul i gadw wedi hydradu wedyn drwy gydol y dydd.
  • Gofyn am gyngor meddygol - Os yw cyfranogwr yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol, mae'n hanfodol ymgynghori â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn ymprydio i hyfforddi yn ystod Ramadan.

Chwaraeon ar gyfer menywod Mwslimaidd

Mae'n bwysig ystyried anghenion menywod a merched Mwslimaidd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, nid yn unig yn ystod Ramadan, ond drwy gydol y flwyddyn.

Ymatebodd dros 140 o fenywod Mwslimaidd i arolwg gan Foundation 4 Sports oedd yn ceisio deall sut i lunio gweithgareddau yn ystod sesiynau Ramadan. 

Wrth gynllunio gweithgareddau chwaraeon ar gyfer menywod a merched Mwslimaidd, gellir dysgu gwersi o'r arolwg a gofyn am gyngor gan y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd.

Pethau i’w hystyried

Bydd creu amgylchedd lle mae menywod Mwslimaidd yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn cynyddu'r tebygolrwydd o’u cael i gymryd rhan.  Dyma rai awgrymiadau.

Gwahanu

Byddai’n well gan y rhan fwyaf o fenywod Mwslimaidd gymryd rhan mewn chwaraeon gyda dim ond menywod. Er bod rhai gweithgareddau chwaraeon ar draws y sector chwaraeon yn agored i fenywod, mae cael sesiynau ar gyfer menywod a merched yn unig yn caniatáu i gyfranogwyr ymarfer mewn dillad y maent yn fwy cyfforddus ynddynt gan amddiffyn eu gwyleidd-dra ar yr un pryd. 

Hyfforddwyr Benywaidd

Dylai hyfforddwyr neu hwyluswyr mewn sesiynau i fenywod a merched yn unig ar gyfer y gymuned Fwslimaidd hefyd fod yn fenywod a merched. Bydd menywod Mwslimaidd sy'n gwisgo dillad mwy addas ar gyfer ymarfer corff, yn teimlo'n fwy cyfforddus yn ymgysylltu â menywod ac yn cymryd rhan o flaen hyfforddwyr benywaidd.

Bydd y chwiorydd a'r dyfarnwyr pêl-droed, Eleeza a Rosheena Khan yn rhai o'r hyfforddwyr benywaidd a fydd yn cynnal sesiynau Ramadan i ferched yn y Ganolfan Genedlaethol eleni.

Cyfathrebu 

Peidiwch â chymryd yn ganiataol sut y byddai'n well gan fenywod Mwslimaidd gymryd rhan mewn chwaraeon - siaradwch â nhw a deall eu hanghenion. Gofynnwch pa chwaraeon yr hoffent roi cynnig arnynt, yr amseroedd gorau ar gyfer sesiynau ac a oes unrhyw beth yn eu hatal rhag cymryd rhan, megis cludiant.

Cynhaliodd Foundation 4 Sports arolwg i ddeall dewisiadau menywod a merched Mwslimaidd yng Nghaerdydd cyn y sesiynau Ramadan i ferched yn unig yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.  Roedd yr wybodaeth yn llywio’r gweithgareddau, y broses amserlennu, y staffio a’r paratoadau amgylcheddol ar gyfer sesiynau sydd ar gael i fenywod a merched. 

Mae dyn Mwslimaidd yn cymryd ei ergyd gwasanaeth yn chwarae tennis bwrdd

Pa chwaraeon a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn ystod Ramadan?

Mae chwaraeon a sefydliadau ledled Cymru yn helpu pobl i gadw’n heini yn ystod Ramadan drwy gynnig sesiynau chwaraeon hwyr y nos. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal ar ôl oriau ymprydio i wneud yn siŵr bod y gymuned Fwslimaidd yn gallu parhau i fwynhau manteision chwaraeon, pan mae’r lefelau egni'n uwch.

Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn ystod Ramadan:

Sesiynau Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Mae’r sesiynau Ramadan hanner nos yn ôl yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. Bydd Foundation 4 Sport Coaching yn cynnal pêl-droed, badminton, pêl-fasged, jiwdo a thennis bwrdd dros bedwar penwythnos yn ystod Ramadan. Heriwch eich hun gyda rhywfaint o brofi athletwyr yn yr ardal perfformiad uchel hefyd!

Dyddiadau a sesiynau (11yp - 1yb):

  • Nos Wener 28ain Chwefror – Pêl-droed a Thennis Bwrdd
  • Nos Sadwrn 1af Mawrth (sesiynau i ferched yn unig) – Badminton, Pêl-fasged a Thennis Bwrdd
  • Nos Sul 2il Mawrth – Pêl-fasged a Thennis Bwrdd
  • Nos Iau 6ed Mawrth – Badminton, Pêl-droed, Jiwdo a Thennis Bwrdd
  • Nos Sadwrn 8fed Mawrth (sesiynau i ferched yn unig) – Badminton, Pêl-fasged, Jiwdo a Thennis Bwrdd
  • Nos Sul 9fed Mawrth – Pêl-fasged, Badminton a Thennis Bwrdd
  • Nos Wener 14eg Mawrth – Pêl-fasged, Jiwdo a Thennis Bwrdd
  • Nos Sadwrn 15fed Mawrth (sesiynau i ferched yn unig) – Badminton, Pêl-fasged, Jiwdo a Thennis Bwrdd
  • Nos Sul 16eg Mawrth – Futsal, Pêl-fasged a Thennis Bwrdd
  • Nos Wener 21ain Mawrth – Pêl-fasged, Jiwdo a Thennis Bwrdd
  • Nos Sadwrn 22ain Mawrth (sesiynau i ferched yn unig) – Badminton, Pêl-fasged, Jiwdo a Thennis Bwrdd
  • Nos Sul 23ain Mawrth – Pêl-droed a Thennis Bwrdd

Dewch draw rhwng 11pm ac 1am i roi cynnig ar chwaraeon gwahanol.

Pêl-droed

Gall cymunedau Mwslimaidd fwynhau pêl-droed hwyr y nos mewn pedwar lleoliad gwahanol ledled Cymru. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn cynnal y sesiynau rhwng 11pm ac 1am yn y lleoliadau canlynol:

  • Caerdydd – Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru 
    • Nos Wener 28ain Chwefror
    • Nos Iau 6ed Mawrth
    • Nos Wener 14eg Mawrth
      • Nos Sul 16eg Mawrth – Twrnamaint Futsal Hanner Nos
    • Nos Sul 23ain Mawrth
  • Casnewydd – Felodrom Geraint Thomas 
    • Nos Wener 28ain Chwefror
    • Nos Wener 7fed Mawrth
    • Nos Wener 14eg Mawrth
    • Nos Wener 21ain Mawrth
  • Abertawe – Mosg Abertawe
    • Nos Sadwrn 1af Mawrth
    • Nos Sadwrn 8fed Mawrth
    • Nos Sadwrn 15fed Mawrth
    • Nos Sadwrn 22ain Mawrth
  • Wrecsam – Ysgol Uwchradd Rhosnesni 
    • Nos Wener 28ain Chwefror
    • Nos Wener 7fed Mawrth
    • Nos Wener 14eg Mawrth
    • Nos Wener 21ain Mawrth

Cofrestrwch eich presenoldeb ar Ap Spond ar gyfer Twrnamaint Futsal CaerdyddCasnewydd ac Abertawe.

Jiwdo

Gallwch hefyd fwynhau sesiynau Ramadan hanner nos yn y dojo yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. Mae Jiwdo Cymru yn cynnal sesiynau i ferched yn unig a dynion yn unig ar gyfer y gymuned Fwslimaidd.

  • Nos Iau 6ed Mawrth (11yp - 1yb) - Dynion
  • Nos Sul 9fed Mawrth (12yb - 1yb) - Merched
  • Nos Wener 14eg Mawrth (11yp - 1yb) - Dynion
  • Nos Sul 16eg Mawrth (12yb - 1yb) - Merched
  • Nos Sul 23ain Mawrth (12yb - 1yb) - Merched

Mae croeso i aelodau presennol Jiwdo Cymru ymuno, a bydd gis (gwisg) jiwdo yn cael ei darparu yn ystod y sesiynau blasu sy’n cael eu cynnal gan Foundation 4 Sports Coaching.

Golff

Mae Golff Cymru yn agor y maes ymarfer sy'n cael ei bweru gan dechnoleg a'r ardal gêm fer yng Nghlwb Golff y Parc yng Nghasnewydd ar nosweithiau Gwener yn ystod Ramadan. Gyda thechnoleg tracio pêl, gallwch ddilyn eich pêl wrth iddi deithio trwy'r awyr ganol nos.

Gall y gymuned Fwslimaidd hogi ei sgiliau neu roi cynnig ar golff ar y 7fed, y 14eg a’r 21ain o Fawrth.

Cofrestrwch eich diddordeb gyda Golff Cymru ar gyfer y sesiynau Ramadan Hanner Nos.

Criced

Dros bedair noson yn ystod Ramadan, bydd Twrnamaint Pêl Dâp yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Griced Genedlaethol. Mae Criced Cymru wedi gwahodd timau o'r gymuned leol yng Nghaerdydd i gymryd rhan.

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [javascript protected email address].

Diolch i’r Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd am gynnig y cyngor a’r wybodaeth yma ar gyfer y clybiau cymunedol ac ar gyfer cyfranogwyr chwaraeon Mwslimaidd yng Nghymru. 

Newyddion Diweddaraf

Academi dartiau’n taro’r targed gyda phobl ifanc

Mae academi dartiau’n boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc wrth i effaith Luke Littler gydio.

Darllen Mwy

Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd

Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried…

Darllen Mwy

Adnodd newydd yn mapio caeau artiffisial yng Nghymru

Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn falch o lansio adnodd newydd sbon ar gyfer y sector chwaraeon…

Darllen Mwy