Mae Chwaraeon Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Parkwood Leisure fel y partner comisiynu a ffafrir i weithio ochr yn ochr â hwy yn y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai o fis Ionawr 2023 ymlaen yn dilyn proses gaffael helaeth.
Nod y bartneriaeth gyda’r darparwr rheoli hamdden arobryn yw sicrhau bod gan y Ganolfan ym Mhlas Menai ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau’r cyfleuster ac arfordir trawiadol Gogledd Cymru.
Mae Parkwood Leisure yn arbenigo mewn datblygu a gweithredu cyfleusterau hamdden, canolfannau atyniadau ymwelwyr, cyrsiau golff, safleoedd treftadaeth a theatrau ar ran cleientiaid awdurdodau lleol. Ers eu ffurfio yn 1995, maent wedi ehangu ac maent bellach yn un o'r darparwyr mwyaf profiadol o ddarpariaeth rheoli hamdden yn y DU. Eu cenhadaeth yw creu a chynnal partneriaethau cynaliadwy, parhaol i helpu i greu cymunedau lleol hapusach ac iachach.
O 30 Ionawr 2023 ymlaen bydd Parkwood Leisure yn gweithredu’r Ganolfan o ddydd i ddydd am gyfnod cychwynnol o ddeng mlynedd. Bydd yr adeiladau a'r tir yn parhau i fod yn eiddo i Chwaraeon Cymru. Bydd grŵp partneriaeth strategol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Parkwood Leisure a staff sy'n gweithio ym Mhlas Menai yn monitro perfformiad y bartneriaeth. Yn ogystal â datblygu a gwella'r gwasanaethau presennol mae'n rhaid i'r bartneriaeth ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth y staff.