Goleuadau ynni effeithlon newydd yn Ystrad Mynach
Bydd cyllid gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn helpu i oleuo’r ffordd i’r rhai sydd eisiau bod yn actif yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach. Bydd £97,500 yn cael ei fuddsoddi mewn goleuadau ynni-effeithlon cwbl fodern ar ei chaeau pêl droed a rygbi.
Bydd y cyllid yn sicrhau bod y caeau yn fodern, yn addas i bwrpas ac yn effeithlon o ran ynni fel eu bod yn gallu gwasanaethu cymunedau lleol yn well, gan gynnwys Bedwas, Trethomas a Machen.
Cefnogi Ffensio Cadair Olwyn yng Nghymru
Eisiau bod yn ffensiwr cadair olwyn? Bydd grant o £18,000 yn cael ei fuddsoddi mewn offer ffensio cadair olwyn hynod arbenigol fel bod y gamp yn gynhwysol ac ar gael i bawb yng Nghymru.
Bydd y grant yn trawsnewid cyfleoedd ar gyfer ffensio cadair olwyn gan fod yr offer yn aml yn rhy ddrud i unigolion neu glybiau ei brynu.
Dywed Ffensio Cymru y bydd y grant yn ei helpu i ddenu pobl newydd i'r gamp a'i fod bellach yn paratoi i hyfforddi hyfforddwyr a chyflwyno sesiynau cymunedol.
Helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae cyrtiau pêl rwyd a llifoleuadau newydd ar eu ffordd i Ben-y-bont ar Ogwr a byddant yn cefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol.
Mae grant o £99,436 wedi'i gytuno yn amodol ar ganiatâd cynllunio er budd pobl ifanc yn Ysgol Bryn Castell a Darpariaeth Amgen Y Bont, sy’n uned cyfeirio disgyblion. Mae’n cyflwyno darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
Yn brosiect hynod bwysig, bydd y cyllid yn sicrhau bod y disgyblion yn cael mynediad at weithgarwch corfforol mewn gofod sydd wedi’i ddylunio gan y cyngor ysgol. Bydd y cyfleuster hefyd yn cefnogi rhaglenni merched a genethod cymunedol, gan gynnwys Cynghrair Pêl Rwyd Iau Pen-y-bont ar Ogwr lle mae 384 o ferched yn cystadlu.
Canolfan Hamdden Amlwch i gael ei thrawsnewid
Bydd Canolfan Hamdden Amlwch yn cael ei hailwampio fel bod pobl leol yn gallu parhau i fwynhau amrywiaeth o chwaraeon. Bydd grant o £90,000 gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn talu am newid lloriau prif neuadd y cyfleuster o’r 1970au.
Dywed Cyngor Sir Ynys Môn y bydd y prosiect yma’n helpu i foderneiddio'r lleoliad sydd eisoes yn cael cefnogaeth dda gan y gymuned leol.
Yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion lleol yn ystod y dydd a chan y gymuned leol gyda'r nos ac ar benwythnosau, bydd cymryd rhan mewn chwaraeon a chadw'n heini yn fwy deniadol fyth yn Amlwch cyn bo hir.
Gwelliannau i lethr sgïo yr Urdd yn Llangrannog
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn £75,000 i wneud gwaith sylweddol ar ei lethr sgïo yn Llangrannog, sy'n cael ei fwynhau gan 25,000 o bobl ifanc ledled Cymru bob blwyddyn.
Bydd y ganolfan sgïo yng Ngheredigion yn cael ei hadnewyddu yn awr gyda matiau newydd, llwybrau sgïo newydd a gwell ffensys i sicrhau bod miloedd o bobl ifanc yn gallu parhau i roi cynnig ar chwaraeon y gaeaf.
Trac pwmpio newydd yn Llandeilo
Mae trac pwmpio newydd sbon a chynhwysol ar ei ffordd i Landeilo yn dilyn y newyddion bod Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn dyfarnu grant o £37,000 i Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llandeilo.
Bydd yn cael ei adeiladu ym Mharc Le Conquet yn y dref a disgwylir iddo gynyddu nifer y bobl sy’n neidio ar eu beiciau ac yn hogi eu sgiliau. Bydd y trac yn cael ei ddylunio i fod yn gynhwysol a bydd beiciau a threiciau wedi'u haddasu ar gyfer pobl ag anableddau ar gael. Bydd cyfleuster gwefru e-feiciau ar gael hefyd.
Bydd monitro digidol yn asesu nifer yr ymwelwyr a bydd sgriniau digidol yn hyrwyddo atyniadau lleol i ymwelwyr. Mae'r cynghorau'n ffyddiog bod digon o alw ar ôl iddyn nhw ddarparu trac pwmpio symudol yn 2021 i gyd-fynd â Llandeilo yn cynnal cam tri y Tour of Britain.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i BMXwyr brwd deithio i Ben-bre neu Gaerfyrddin i fwynhau eu camp.
Yn ogystal â’r cyhoeddiad hwn am grantiau cyfalaf, mae Chwaraeon Cymru – mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru – yn darparu buddsoddiad i brosiectau chwaraeon drwy Gronfa Cymru Actif sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol, a Chronfa Lle i Chwaraeon sy’n rhoi arian cyfatebol ar gyfer Cyllid Torfol. Mae'r ddwy raglen grant yn agored o hyd i geisiadau.