Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi rhaglen fawr o ddysgu a datblygu ar gyfer y sector chwaraeon a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2020.
Bydd y Rhaglen Gyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth (CLIP) yn darparu mynediad rheolaidd i gyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Mae'r rhaglen yn ddull gweithredu ar y cyd gan dimau cyfathrebu a dirnadaeth Chwaraeon Cymru a bydd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth sydd â'u ffocws ar feysydd fel dangos tystiolaeth o effaith, defnyddio data, cyfryngau cymdeithasol a defnyddio technoleg mewn marchnata.
Bydd CLIP yn cael cymorth ariannol gan Chwaraeon Cymru er mwyn sicrhau bod y sesiynau'n fforddiadwy ar gyfer yr amrywiaeth o sefydliadau sy'n rhan o sector chwaraeon Cymru.
Mae'n dilyn cyfnod prawf llwyddiannus gyda 100% o'r rhai a oedd yn bresennol yn dweud bod y sesiynau dysgu o werth mawr a 95% yn dweud eu bod wedi profi'n fuddiol eisoes i'w gwaith.
Bydd sesiynau ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein, gyda dosbarthiadau ymarferol yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y wlad, i wella mynediad.