Heddiw mae Chwaraeon Cymru wedi enwi’r Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Brian Davies OBE, fel eu Prif Swyddog Gweithredol newydd.
Penodwyd Davies i’r rôl yn dilyn proses recriwtio hynod gystadleuol a gefnogwyd gan yr ymgynghorwyr annibynnol, Goodson Thomas.
Yn uchel iawn ei barch, mae Davies wedi arwain y gwaith o weddnewid dull o weithredu’r sefydliad gyda chwaraeon perfformiad uchel yn y gorffennol, gan gyflwyno dull hynod gymeradwy a mwy cynaliadwy o ddatblygu athletwyr. Bu hefyd yn arwain Tîm Cymru fel Chef de Mission yn un o’u Gemau Cymanwlad mwyaf llwyddiannus yn Glasgow 2014, gan ennill OBE yn anrhydedd am wasanaethau i chwaraeon yn fuan wedyn.
Yn gyn-chwaraewr gyda’r Saracens, mae gan y Prif Swyddog Gweithredol newydd fwy na 25 mlynedd o brofiad yn y sector chwaraeon, gan ailymuno â Chwaraeon Cymru yn 2008 fel Rheolwr Perfformiad Uchel, yn dilyn cyfnod gyda Golff Cymru. Bydd yn ymgymryd â’r rôl newydd yn dilyn cyfnod o 18 mis fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Brian:
“Mae’n anrhydedd enfawr cael y cyfle i barhau i arwain Chwaraeon Cymru. Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle mae tasg fawr o’n blaen ac mae angen i ni drefnu’r gwahaniaethau i gael effaith wirioneddol yn erbyn hyn, ond rydw i’n credu bod gennym ni bobl wych yn gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru, sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ei hanfod i’r sector ac i bobl Cymru."
Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson:
"Drwy gydol ei gyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, mae Brian wedi arwain y sefydliad drwy bandemig y coronafeirws ac mae wedi goruchwylio nifer o newidiadau gweithredol mawr i roi’r sefydliad a’r sector mewn sefyllfa i gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yn well.
Fel sector, rydym yn ymwybodol bod llawer y mae’n rhaid i ni ei wneud o hyd os ydym am greu cenedl wirioneddol actif, lle mae pawb yn cael y cyfle i elwa o fod yn gorfforol actif. Rydw i’n gwbl hyderus, er bod gennym yn sicr rai heriau anodd o’n blaen, y bydd angerdd, gwybodaeth a didwylledd Brian yn ased wrth i ni barhau i gamu ymlaen tuag at hyn."
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“Mae’n bleser gen i groesawu Brian Davies i rôl Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru. Mae Brian wedi chwarae rhan hanfodol yn arwain y sefydliad dros dro ers 2021. Mae’n cyfrannu cyfoeth o brofiad a gwybodaeth fanwl am chwaraeon yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef i gyflawni'r uchelgeisiau rydym yn eu rhannu ar gyfer y sector.”
Mae’r penodiad wedi’i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru a daw i rym ar unwaith.