Mae'r Flwyddyn Newydd yn dod, gan gynnig gobaith ac addewid ond, i rai, gall yr amser yma o'r flwyddyn fod yn anodd. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, mae Chwaraeon Cymru a Mind Cymru wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at y manteision iechyd meddwl sylweddol o symud mwy a bod yn actif.
Bydd y ddau sefydliad cenedlaethol yn dangos astudiaethau achos, ymchwil ac enghreifftiau real o bŵer ymarfer corff i leihau straen, unigrwydd, gorbryder ac iselder.
Ymhlith y rhai sy’n rhannu eu stori mae Bob o Bowys a oedd yn teimlo ar goll ar ôl i’w wraig, Mary, farw ym mis Hydref 2020: “Doeddwn i ddim wedi deffro ar fy mhen fy hun ers 51 o flynyddoedd,” meddai Bob. “Mae wedi bod yn anodd iawn ymdopi â byw heb rywun.” Cysylltodd â sefydliad Mind yn lleol ac mae wedi bod yn mynychu Teithiau Cerdded a Sgyrsiau bob wythnos; ac mae bod yn yr awyr agored, gyda rhywun i siarad â nhw, yn helpu.
Yn y cyfamser, yng Nghaerdydd, mae Shekira yn siarad yn agored am fyw gyda gorbryder a sut gall ymarfer corff helpu i reoli ei theimladau. Ers hynny mae hi wedi sefydlu dosbarth dawns, gan annog eraill i wella eu hiechyd meddwl drwy ddawnsio.
Ac ym Mhontypridd, mae Alex wedi ymdopi â phroblemau iechyd meddwl amrywiol fel iselder ysbryd, gorbryder ac Anhwylder Gorfodol Obsesiynol (OCD). Yn awyddus i ddysgu beth allai ei helpu, daeth o hyd i bŵer ymarfer corff ac mae bellach yn aelod brwd o Glwb Beicio Merthyr Tudful, gan gymryd rhan mewn teithiau beicio grŵp ar y penwythnos yn ogystal â digwyddiadau treialon amser.