Natasha Cockram sy’n dal record Cymru yn y marathon. Mae'n dod o Gasnewydd ond mae wedi symud i Norfolk yn ddiweddar felly mae hi’n edrych ymlaen yn arw at gael cystadlu ym mhrifddinas Cymru. Newidiodd i'r marathon yn 2018. Bydd yn defnyddio Hanner Marathon Caerdydd fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.
Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd yn dod yn ôl i rasio yn fy ardal fy hun. Y tro diwethaf i mi redeg Hanner Marathon Caerdydd oedd yn 2017 ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel. Mae'r llwybr yn mynd â chi heibio'r holl bethau gwych yr ydym oll yn eu caru am Gaerdydd. Rwyf eisoes wedi cyrraedd y safon ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ond bydd y penwythnos hwn yn feincnod da i mi weld lle'r ydw i ar hyn o bryd. Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd yn wych cael rasio drwy strydoedd Caerdydd eto."