Mae Clwb Pêl Rwyd Llewod Llambed yn glwb sy’n mynd yr ail filltir er mwyn ymgysylltu â’r gwahanol bobl yn ei gymuned.
Dyma pam ei fod wedi cael £1,807 o arian y Loteri Genedlaethol gan Gronfa Cymru Actif. Cafodd arian ar gyfer offer, cyrsiau hyfforddi a llogi lleoliad ar gyfer grŵp oedran newydd i'w alluogi i barhau â'r gwaith anhygoel mae’n ei wneud.
Dyma chwe ffordd mae’n gwneud gwahaniaeth a pham wnaethon ni gefnogi ei gais.
Hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg a sesiynau dwyieithog
Gyda mwy na 75% o’u haelodau’n siaradwyr Cymraeg gyda 10% arall yn dysgu, mae Llewod Llambed yn cynnig pêl rwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yr ardal yn gallu cael mynediad at bêl rwyd yn eu hiaith gyntaf, nod y clwb yw cynyddu nifer yr hyfforddwyr a’r dyfarnwyr sy’n siarad Cymraeg drwy gyrsiau hyfforddi sy’n cael eu cefnogi gan Gronfa Cymru Actif. Da iawn, y Llewod!
Defnyddiwch y Gymraeg yn eich clwb hefyd.
Ymgysylltu â ffoaduriaid
Mae'r Llewod eisiau croesawu ffoaduriaid o Syria, Afghanistan ac Wcráin i'r gymuned drwy eu hannog i ymuno â phêl rwyd yn eu clwb.
Gan gysylltu â Swyddog Ailsefydlu Ffoaduriaid Cyngor Ceredigion, y gobaith yw darparu amgylchedd diogel i ferched a phlant sydd wedi ailsefydlu wneud ffrindiau newydd a theimlo'n gartrefol yn Llanbedr Pont Steffan, a hefyd mwynhau manteision pêl rwyd.
Dywedodd hyfforddwr y clwb, Alex Fox: “Mae chwaraeon yn adnodd pwerus iawn wrth integreiddio pobl i’r gymuned a goresgyn pob math o rwystrau, felly roedden ni’n teimlo bod hynny’n bwysig iawn.”
Ac rydyn ni’n cytuno!
Sesiynau blasu i blant ysgolion cynradd
Gyda dim ond dau dîm – iau a hŷn, derbyniodd Llewod Llambed arian y Loteri Genedlaethol gan Gronfa Cymru Actif i sefydlu tîm dan 11 oed a darparu lle i ferched ysgol gynradd chwarae pêl rwyd yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae’r clwb yn cynnig sesiynau ‘Cyrraedd a Chwarae’ i ddisgyblion cynradd yn y gobaith y bydd mwy o ferched lleol yn gwirioni ar bêl-rwyd, gan dyfu o genawon i Lewod a chwarae i’w 50au a thu hwnt, yn union fel nifer o’r chwaraewyr presennol.
Dydi hi ddim yn deg gadael i’r oedolion gael yr hwyl i gyd, nac ydi?