Mae'r ddau fis nesaf yn gyfnod arwyddocaol i reolwr tîm pêl droed y dynion yng Nghymru, Ryan Giggs, ac i fos y merched, Jayne Ludlow.
Mae carfan Ludlow yn rhoi cychwyn i'w hymgyrch i gymhwyso am Ewro 2021 gyda thrip i Ynysoedd Faroe ar Awst 29.
Ac mae tîm y dynion yn dychwelyd at geisio cymhwyso ar gyfer Ewro 2020 pan fyddant yn croesawu Azerbaijan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 6.
Mae'r ddau dîm yn gobeithio cyrraedd rowndiau terfynol eu twrnameintiau, ond mae'n dasg anodd bob amser mewn pêl droed rhyngwladol, fel mae hanes wedi dangos.
Dechreuodd dynion Giggs yn llawn optimistiaeth ond maent wedi llithro i golli cefn wrth gefn yn erbyn Croatia a Hwngari fis Mehefin, ac mae eu cyfle i sicrhau lle yn y twrnamaint yr haf nesaf yn fain. Does dim lle i fwy o lithro fwy na thebyg.
Mae Cymru yn bedwerydd yng Ngrŵp E, chwe phwynt ar ôl y tîm ar y blaen, Hwngari, sydd wedi chwarae un gêm yn rhagor.
Mae'n ymddangos bod y seren Gareth Bale yn ôl yn rhan o gynlluniau Zinedine Zidane yn Real Madrid a bydd yn hwb mawr i Giggs.
Mae Aaron Ramsey, sydd eto i chwarae yn yr ymgyrch ar ôl dioddef o anaf i linyn y gar, wedi chwarae am y tro cyntaf yn ddiweddar i'w glwb newydd, Juventus, a bydd yn dychwelyd at ddyletswyddau rhyngwladol (cafwyd cadarnhad ers hyn na fydd yn heini).