Mae hwb ar-lein newydd yn cynnwys cannoedd o adnoddau i helpu i gael plant i fod yn actif wedi’i sefydlu i helpu athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu Citbag, cartref ar gyfer adnoddau addysgu a hyfforddi sydd wedi’u creu gan arbenigwyr mewn datblygiad corfforol plant.
Mae Citbag yn cynnwys cynhyrchion enwog Campau'r Ddraig a Chwarae i Ddysgu sydd ar gyfer disgyblion oedran cynradd.
Mae’r platfform wedi cael ei gefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru.
citbag.sport.wales
citbag.chwaraeon.cymru
“Os byddwn ni’n rhoi’r sgiliau priodol, hyder a phrofiadau chwaraeon o ansawdd da i bobl ifanc, maen nhw’n fwy tebygol o fwynhau chwaraeon a bod yn actif am weddill eu hoes,” meddai Prif Weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.
“Mae’r adnoddau hyn wedi bod yn cefnogi gwersi Addysg Gorfforol a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion ers peth amser, ac rydyn ni’n gwybod o siarad ag arbenigwyr yn y maes y bydd eu defnydd yn bwysig iawn ar gyfer y cwricwlwm newydd.
“Roedden ni eisiau eu gwneud nhw mor hawdd i athrawon gael gafael arnyn nhw â phosib a dyma’r tro cyntaf i ni gael un platfform pwrpasol yn gartref iddyn nhw i gyd.”
Mae’r adnoddau ar Citbag ar gyfer plant a phobl ifanc i gefnogi cymhelliant, hyder, cymhwysedd corfforol a gwybodaeth a dealltwriaeth, sy’n ganolog i lythrennedd corfforol.
O straeon i gael y rhai ieuengaf i symud ac i fod yn actif i gemau hwyliog i helpu ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad; dysgu chwaraeon-benodol drwy chwaraeon fel rygbi a chriced; a gymnasteg neu symud creadigol mwy arbenigol i blant hŷn.
Mae Jan English yn ymgynghorydd addysg yng Nghymru ac yn awdur llawer o'r adnoddau. Dywedodd:
“Mae’r adnoddau wir yn addas o hyd a byddant yn siŵr o ffynnu yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd ffocws clir ar ddysgwyr yn ymgysylltu mwy ac yn fwy brwdfrydig, gan addasu gweithgareddau i ddiwallu eu hanghenion, eu galluoedd a'u diddordebau.
“Gyda chymaint o adnoddau wedi’u cynhyrchu dros bron i ddau ddegawd, mae athrawon yn gallu dewis a chymysgu’r hyn sy’n gweddu orau iddyn nhw a’u disgyblion.”
Mae defnyddwyr yn cofrestru i gael cyfrif am ddim i gael mynediad i Citbag gyda mwy o adnoddau'n cael eu hychwanegu ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi 2022.