Mae clwb golff yng Ngwynedd a welodd ei incwm yn gostwng mwy na £100,000 yn ystod 2020 yn edrych y tu hwnt i Covid-19 yn hyderus, ar ôl troi at y dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
Mae Clwb Golff Porthmadog yn gwrs traddodiadol gyda golygfeydd godidog o arfordir Bae Ceredigion ac Eryri. Fe'i sefydlwyd yn 1905 gan James Braid, dylunydd cwrs athrylithgar yn ei ddydd, ac mae'n apelio at aelodau lleol ffyddlon ac ymwelwyr.
Ond mae gan y clwb broblem – bynceri blêr. Mae cwningod yn cloddio i ymylon y bynceri’n gyson ac yn gwaethygu’r erydiad naturiol, tra bod y golffwyr eu hunain hefyd yn achosi i'r bynceri erydu. Nid yw tywydd enwog Cymru yn helpu chwaith.
Bynceri golff synthetig yw’r ateb, felly gwnaeth y clwb gais am grant gwerth £25,000 o Gronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru tuag at y gost sylweddol o osod y dechnoleg batent sy'n cynyddu mewn poblogrwydd ledled y byd golff yn ei lle. Nid yn unig bydd y bynceri newydd yn gwella apêl weledol y cwrs, ond bydd faint o waith cynnal a chadw sydd ei angen yn llai. Mae'r gwaith i fod i gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer cynnal Pencampwriaeth Timau Cymru yn y clwb yn 2022.
Meddai Ysgrifennydd y Clwb, Gwilym Jones: "Mae bynceri neu beryglon yn helpu i wneud y cwrs yn gystadleuol ac yn apelgar. Rydyn ni’n ddibynnol iawn ar incwm ymwelwyr felly mae'n bwysig bod y cwrs yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda fel bod pobl eisiau dod yn ôl dro ar ôl tro."
"Mae'r incwm yma gan ymwelwyr yn helpu i wneud golff yn fforddiadwy i bobl leol. Mae'n golygu ein bod ni’n gallu cadw'r ffioedd tanysgrifio i bris rhesymol."
Daeth yr arian a ddyfarnwyd i Glwb Golff Porthmadog o elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif, sy'n darparu grantiau o rhwng £300 a £50,000 i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19.
Gan feddwl am y cyfyngiadau symud presennol, efallai y bydd llawer o glybiau a sefydliadau chwaraeon unwaith eto'n gweld elfen 'Diogelu' Cronfa Cymru Actif fel cymorth i'w groesawu'n fawr. Yn ogystal â bod yn agored i helpu ymgeiswyr newydd i dalu eu costau sefydlog (e.e. rhent, cyfleustodau) tra maent yn delio â cholli refeniw yn ystod y cyfnod hwn, mae'r cyllid hefyd yn agored i unrhyw glybiau sydd wedi derbyn cyllid Diogelu yn flaenorol, ar yr amod bod o leiaf dri mis wedi mynd heibio ers eu dyfarniad diwethaf.
Mae proses ymgeisio Cronfa Cymru Actif wedi'i symleiddio fel ei bod bellach yn haws i glybiau wneud cais am y cyllid sydd arnynt ei angen. Mae grantiau ar gael o hyd hefyd i helpu clybiau i baratoi i wneud eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Ers dechrau'r pandemig, mae mwy nag 800 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru wedi elwa o gyfran o fwy nag £1.8m drwy Gronfa Cymru Actif, ac mae mwy ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru ei ddosbarthu diolch i arian gan Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol.