Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cael ei ddefnyddio i helpu i greu Clwb Pêl Fas Dall cyntaf Cymru.
Mae Dreigiau De Cymru yn Abertawe wedi cael ei sefydlu gan RBI Cymru, sefydliad sy’n ymroddedig i ddarparu mwy o gyfleoedd i chwarae pêl fas a phêl feddal ledled Cymru.
Y llynedd, dyfarnwyd grant o £4550 i RBI gan Gronfa Cymru Actif – sy’n defnyddio arian y loteri – er mwyn iddynt allu prynu’r offer sydd ei angen i gynnal sesiynau Pêl Fas Dall yn Abertawe yn ogystal â sesiynau pêl fas ieuenctid yn y Barri.
Ers hynny mae'r ddau sesiwn wedi cynyddu mewn poblogrwydd, gan arwain at greu dau glwb sy'n tyfu'n gyflym.
Dywedodd Holly Ireland, Cyfarwyddwr RBI Cymru: “O’n sesiynau Pêl Fas Dall cychwynnol, rydyn ni wir wrth ein bodd ein bod ni wedi denu digon o chwaraewyr yn raddol fel ein bod ni nawr yn gallu creu tîm Pêl Fas Dall a fydd yn cystadlu yn y gynghrair Pêl Fas Dall genedlaethol. Mae hyn mor bwerus oherwydd bod y chwaraewyr yn y tîm newydd yma mor gyffrous am fod yn rhan o rywbeth cadarnhaol, ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cynrychioli eu gwlad mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd.”
Ychwanegodd Holly: “Yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud ydi rhoi cyfle i bawb deimlo eu bod nhw’n perthyn mewn chwaraeon. Ni ddylai neb fod â rhwystr i chwarae.”
Mewn Pêl Fas Dall, mae pob chwaraewr yn gwisgo feisor i wneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn chwarae gyda'r un lefel o nam ar y golwg. Mae'r gamp yn cael ei chwarae gyda phêl sydd â chloch ynddi, ac mae'r batiwr yn taflu'r bêl ato'i hun cyn ei tharo. Ym mhob safle, mae hwylusydd yn swnio sŵn gwahanol - bîp neu glapiwr - i helpu'r chwaraewr i wybod i ba gyfeiriad i redeg ar ei ffordd ... gobeithio ... at rediad cartref!