Bydd unrhyw un sydd wedi mwynhau gwylio Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd dwbl Cymru, yn gwybod bod Taekwondo yn gamp gyswllt i raddau helaeth. Nid yw'n syndod felly bod Covid-19 wedi achosi rhai problemau amlwg i glybiau cymunedol ledled y wlad.
Ac eto, mae clwb sy’n aelod o Taekwondo Cymru – Little Mill yn Sir Fynwy - wedi goresgyn yr her hon drwy ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflwyno ei sesiynau. Ac mae wedi gwneud cais llwyddiannus am grant o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i roi'r syniadau hyn ar waith.
Dyma Sarah Farthing, sy'n rhedeg y clwb yn Neuadd Bentref Little Mill, i egluro: "Rydyn ni’n dysgu Taekwondo steil Olympaidd. Mae'n gamp gyswllt lawn sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ymladd ac mae'n rhyngweithiol iawn, felly mae cadw pellter cymdeithasol wedi gwneud hyn yn amhosib! Mae ein haelodau ni wedi bod yn anhygoel ac wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar eu ffitrwydd, ond heb y cyswllt maen nhw wedi gweld y profiad yn ailadroddus ac yn ddiflas. Yn y bôn, nid yw wedi bod yn adlewyrchiad cywir o'r gamp.
"Fe wnaethon ni gais i Gronfa Cymru Actif i'n galluogi ni i fuddsoddi mewn cit newydd sbon, gan gynnwys bagiau ergydio, hyfforddiant golau adweithio a bocsys neidio. Gan ddefnyddio'r cymhorthion hyfforddi yma, rydyn ni’n gallu cynllunio sesiynau cyffrous a deinamig gyda llawer o amrywiaeth. Rydyn ni’n gallu bod yn greadigol iawn gyda nhw. Er enghraifft, fe allwn ni greu gorsafoedd hyfforddi bach lle gall yr aelodau gwblhau driliau a rowndiau wedi'u hamseru. Mae'r cymhorthion hyfforddi yn ardderchog ar gyfer ymwrthedd hefyd - mae'n teimlo'n llawer mwy realistig wrth gicio bag ergydio yn hytrach na chicio'r aer, ac mae'n fwy diogel hefyd."
Bydd y cymhorthion hyfforddi ar gael i bob aelod eu defnyddio. Hefyd mae'r clwb yn bwriadu cyflwyno 'swigod chwaraeon' i'r rhai dan ddeg oed, unwaith y byddant yn cael cymysgu gyda'i gilydd eto, fel ei fod yn gallu gwahodd plant oddi ar y rhestr aros i ddechrau hyfforddi.
Unwaith y bydd yn gallu ailddechrau, mae'r clwb hefyd yn gobeithio denu mwy o ferched i'r gamp. Mae’n bwriadu arddangos y cymhorthion hyfforddi newydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn taflenni i ddangos sut maent yn cael eu defnyddio ac i gael merched i deimlo’n gyffrous am roi cynnig arni. Gallai'r Jade Jones nesaf fod rownd y gornel!
Daeth y £3,064 o gyllid a ddyfarnwyd i Taekwondo Cymru – Little Mill o elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif sy'n darparu grantiau rhwng £300 a £50,000 i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19.
Ers dechrau'r pandemig, mae mwy nag 800 o glybiau a sefydliadau chwaraeon wedi elwa o gyfran o fwy na £2.1m drwy Gronfa Cymru Actif, ac mae mwy ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru ei ddosbarthu diolch i arian gan Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol.