Main Content CTA Title

Clybiau chwaraeon i dalu llai am eu biliau ynni diolch i grantiau Chwaraeon Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Clybiau chwaraeon i dalu llai am eu biliau ynni diolch i grantiau Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi dyfarnu £1m i helpu cyfleusterau clybiau chwaraeon cymunedol i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon – gan arbed miloedd o bunnoedd i glybiau gan sicrhau budd i’r amgylchedd hefyd.

Mae pum deg wyth o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael Grant Arbed Ynni y byddant yn ei ddefnyddio i dalu am fesurau a fydd yn lleihau eu biliau cyfleustodau yn sylweddol. 

Bydd mwy na hanner y clybiau a lwyddodd i sicrhau’r arian yn gosod paneli solar, tra bydd eraill yn gwella eu systemau insiwleiddio, yn gosod goleuadau LED a synwyryddion symud arbed ynni, yn gwella eu systemau gwresogi a dŵr poeth, yn ogystal â sicrhau ffynonellau dŵr cynaliadwy.

Roedd clybiau'n gallu gwneud cais am grantiau hyd at uchafswm o £25,000. 

Meddai Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Mae’n wirioneddol bwysig i ni fod gan Gymru glybiau chwaraeon sy’n gynaliadwy'n ariannol a all fod o fudd i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu drwy ddarparu gweithgareddau fforddiadwy.

“Fodd bynnag, mae llawer o glybiau chwaraeon sy’n rhedeg safleoedd wedi cael trafferth mawr oherwydd effaith ariannol yr argyfwng costau byw, felly rydym yn falch iawn o allu cefnogi eu syniadau ar gyfer lleihau eu defnydd o ynni a allai arbed symiau sylweddol o arian iddynt yn y tymor byr a'r tymor hir. At hynny, mae datblygiadau arloesol o'r fath hefyd yn helpu i gyfrannu at yr argyfwng hinsawdd. 

“Rydym yn hyderus y bydd yr elw ar ein buddsoddiad o £1m sawl gwaith yn fwy na hynny o ran yr arbedion ariannol cyffredinol i glybiau, gan eu helpu i gadw cost chwaraeon mor isel â phosibl i gyfranogwyr.”

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus roedd Clwb Rygbi’r Rhyl, a gafodd grant o £20,473 i osod paneli solar ac mae disgwyl iddynt arbed tua £4,500 y flwyddyn i’r clwb tra hefyd yn lleihau ei ôl troed carbon.

Bydd Clwb Golff Penarlâg yn defnyddio ei grant £22,996 i osod system newydd i ddal ac ailgylchu dŵr glaw fel y gellir ei ddefnyddio i olchi'r peiriannau amrywiol a ddefnyddir yn y clwb golff, fel tractorau, peiriannau torri gwair a bygis. Bydd hyn yn lleihau dibyniaeth y clwb ar ddŵr prif gyflenwad yn fawr.

Yng Nghlwb Tenis Lawnt Parc Stow yng Nghasnewydd, mae'r gwres ar hyn o bryd yn dianc o'r clwb yn gynt na serfiad Novak Djokovic. Diolch i’w uchafswm grant o £25,000, byddant yn uwchraddio eu ffenestri a’u drysau, yn gosod goleuadau LED arbed ynni yn eu lle, yn prynu gwresogydd dŵr poeth newydd, ac yn gosod paneli solar ynghyd â storfa batri.

Ychwanegodd Brian: “Dyma’r tro cyntaf erioed i ni gynnig Grant Arbed Ynni. Yn seiliedig ar y galw y mae clybiau wedi’i ddangos i gael cefnogaeth o’r fath, gan gydnabod manteision amgylcheddol ac ariannol mesurau arbed ynni, rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu dyfarnu mwy o’r grantiau hyn yn y dyfodol.”

Mae’r holl grantiau wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £10.3m o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, sydd wedi’i ddyrannu i Chwaraeon Cymru. 

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld y cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y wlad i ystod eang o glybiau chwaraeon.  Heb unrhyw arwydd bod costau byw a chostau busnes am ostwng yn fuan - mae’n hollbwysig ein bod yn helpu ein clybiau chwaraeon i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol, fel y gallant barhau i wasanaethu ein cymunedau a chadw pobl yn actif.”

Newyddion Diweddaraf

Ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa Cymru Actif

Bydd Cronfa Cymru Actif yn cael ei rhedeg gyda thair ‘ffenestr’ ymgeisio yn ystod 2025-26.

Darllen Mwy

Rhoi llais i bobl ifanc ym maes diogelu

Darganfod pam y dylech gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau diogelu yn eich clwb neu sefydliad chwaraeon.

Darllen Mwy

Cyngor doeth ar gyfer creu clwb chwaraeon cynhwysol

Wrecsam Clwb Rygbi Cynhwysol Rhinos yn rhannu eu cyngor ar sut y gallwch greu amgylchedd cynhwysol

Darllen Mwy