Ac mae hi wedi dilyn cynnydd Phil yn frwd:
“Rydw i wrth fy modd yn ei wylio fe’n chwarae.” meddai Jo. “Rydyn ni bob amser yn dal i fyny pan fydd e’n ôl ac mae’n ymweld â’r criw iau yn aml, gan gyflwyno tystysgrifau ar ddiwedd y tymor.”
Fe wnaeth hi, ynghyd â sawl hyfforddwr arall, feithrin doniau Phil fel llanc ifanc, cyn i Caroline Matthews - cyn Baralympiad ei hun - ddod yn hyfforddwr iddo ar lefel hŷn.
Roedd y clwb yn allweddol wrth gefnogi Phil yn ei ddyddiau cynnar yn y gamp, ac ers hynny mae wedi ennill efydd yng Ngemau Paralympaidd Rio 2016, wedi ennill Pencampwriaethau Ewrop a chafodd ei enwi yn yr All-Star Five ym Mhencampwriaethau’r Byd 2022, lle hawliodd Prydain Fawr fedal arian.
Ac mae'r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan enfawr yn ei siwrnai hefyd. Nid yn unig y mae’n derbyn cefnogaeth y Loteri Genedlaethol fel athletwr elitaidd, ond mae’r clwb o Gaerdydd hefyd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol drwy Chwaraeon Cymru:
“’Fydden ni ddim wedi gallu dechrau’r clwb hyd yn oed oni bai am y grantiau rydyn ni wedi’u derbyn gan Chwaraeon Cymru – na’i gadw i fynd wedyn. Rydyn ni wedi derbyn mwy na £21,000 ers 2007. Rydyn ni wedi gallu prynu fflyd o gadeiriau chwarae. Heb y rhain, ’fyddai dim clwb wedi bod i Phil ymuno ag e, gan fod rhaid cael cadair chwaraeon.”
Ym mis Mawrth eleni, derbyniodd y clwb grant arall ar gyfer sefydlu adran newydd i ddechreuwyr:
“Rydyn ni wedi bod ag adran iau ers amser maith, ond roedd angen rhywbeth ar y rhai dros 14 oed sydd newydd ddechrau yn y gamp. Er mwyn ehangu, roedd angen mwy o gadeiriau, mwy o offer a mwy o hyfforddwyr.
“Dim ond oherwydd Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol rydyn ni wedi gallu gwneud hynny a chwarae rhan yn siwrnai Baralympaidd Phil.”