Dylai clybiau a grwpiau fod yn ymwybodol na fydd ceisiadau i Gronfa Cymru Actif a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2022 yn cael eu hystyried tan fis Ebrill 2022 (y flwyddyn ariannol newydd).
Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn derbyn eich cyllid yn ein dyraniad blwyddyn ariannol 2022/2023 ac ni fyddwch yn gallu cael grant arall gan Gronfa Cymru Actif tan fis Ebrill 2023.
Dim ond un cais llwyddiannus y gall ymgeiswyr ei wneud mewn blwyddyn ariannol – rhwng Ebrill 1af a Mawrth 31ain.
Fodd bynnag, os caiff eich cais ei wrthod, byddwch yn gallu ailgyflwyno neu wneud cais newydd.
Yn gyffredinol, ein nod ni yw rhoi penderfyniad i chi am eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith i'w gyflwyno.