Skip to main content

Cronfa Cymru Actif - Mae Clwb Rasio Sgi Pont-y-pŵl

Mae chwaraeon yn gweithio fel adnodd yn aml i godi pobl allan o anghydraddoldeb cymdeithasol sy’n llawer rhy amlwg yng Nghymru. 

Ond gall yr effaith honno fod wedi cael ei cholli wrth i effeithiau ariannol cyfyngiadau symud cychwynnol Covid-19 wthio llawer o glybiau chwaraeon ledled Cymru at ymyl y dibyn. 

Mae Clwb Rasio Sgi Pont-y-pŵl yn ceisio cyflawni’r rôl hon gyda phobl yn cael platfform i roi cynnig ar gamp y mae llawer ond yn ei gweld ar y teledu yn blant. 

Mae rhai wedi mynd yn eu blaen o’r clwb i gystadlu ar frig y gamp. Mae llond dwrn wedi mynd ymlaen i serennu ar lefel rynglwadol hyd yn oed, ar ôl cael y blas cyntaf ar y gamp ar y llethr artiffisial ym Mharc Pont-y-pŵl.

Mae’n lwcus felly bod Cronfa Cymru Actif – sy’n cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru – wedi gallu cynorthwyo’r clwb Rasio sgi gyda grant o £840 i sicrhau bod y cyfleoedd hynny’n parhau i fodoli. 

Mae’r clwb yn ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol ac i Lywodraeth Cymru am wneud y cyfan yn bosib drwy’r gronfa ac mae’r cadeirydd Sara Jones yn credu bod yr arian wedi bod yn allweddol i alluogi’r clwb i gadw pris y sesiynau’n £13.

“Roedden ni’n obeithiol y gallai’r gronfa sicrhau ein bod yn gallu cadw’r gost yn isel am y tymor nesaf oherwydd rydyn ni’n gwerthfawrogi bod llawer o’n haelodau ni’n wynebu sefyllfa ariannol anodd,” meddai Sara.

“Hefyd, oherwydd y cyfarwyddyd gan y corff rheoli cenedlaethol, roedd rhaid i ni gapio niferoedd o ran nifer y bobl sy’n cael mynd ar y llethr, er mwyn ei gadw’n ddiogel o ran Covid. Bydd y grant o’r gronfa’n galluogi i ni wasgaru’r sesiynau.           

“Mae’n golygu nad yw pobl yn colli cyfleoedd oherwydd y cap ar niferoedd. Dyna oedd ein prif sbardun ni i wneud cais am y cyllid. 

“Y rheswm arall oedd am ein bod angen help gyda buddsoddi mewn cyfarpar diogelu personol, diheintyddion dwylo a chonau diogelwch er mwyn gallu cynnal sesiynau diogel. 

“Mae hefyd wedi galluogi i ni brynu polion ar gyfer hyfforddiant slalom, ond rhaid i ni roi cyfnod o 72 awr iddyn nhw ar ôl cael eu defnyddio i wneud yn siŵr nad ydyn ni’n trosglwyddo haint.” 

Mae’r llethr sgïo ym Mharc Pont-y-pŵl yn un o’r rhai mwyaf yn y DU, ac mae gan y clwb 42 o aelodau gweithredol gyda’u hystod oedran rhwng chwech a 60 oed.       

Ni fydd pob aelod yn mynd ymlaen i gystadlu ar lefel uchel, ond mae’r clwb wedi cael llwyddiant nodedig yn meithrin rhai o dalentau sgïo gorau’r wlad.         

Maent yn cynnwys Lauren Bloom, sy’n aelod o dîm plant Prydain Fawr, Ffion Lewis a Joe Compton, y ddau yn sgwad Cymru, a Ryan Bloom, sy’n rasiwr FIS ar y gylched ryngwladol.                          

Hefyd mae’r clwb yn gallu cymryd y clod am nifer y plant sydd wedi cael lle yn academi Cymru sy’n cael ei gweithredu gan Chwaraeon Eira Cymru, sef y corff rheoli. Dim ond wyth oed yw’r ieuengaf.         

Ar ôl i’r cyfyngiadau symud gael eu rhoi yn eu lle, mae Sara’n cyfaddef ei bod yn ansicr faint o sgïwyr fyddai eisiau dychwelyd i’r clwb yn syth.    

“Doedden ni ddim yn siŵr sut byddai’r galw oherwydd doedden ni ddim yn gwybod a fyddai’r feirws yn gwneud i bobl beidio â bod eisiau dod yn ôl,” ychwanegodd.

“Ond a dweud y gwir, mae’r gwrthwyneb wedi digwydd. Mae galw enfawr ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi gorfod buddsoddi mewn pethau fel system archebu ar-lein.             

“Un newid yw nad ydyn ni’n cymryd arian parod erbyn hyn. Roedd ein haelodau ni’n arfer dod ag arian parod ar y noson.”

Yn ogystal â chynnig sesiynau sgïo ar gyfer y rhai sy’n datblygu eu sgiliau, mae’r clwb hefyd yn ffocws i’r rhai sydd eisiau cystadlu ar y lefel uchaf.                 

Mae Clwb Rasio Sgi Pont-y-pŵl yn gweithio’n agos gyda Chlwb Sgïo Torfaen er mwyn creu llwybr i’r dechreuwyr symud ymlaen tuag at gystadlu cynrychioliadol, gyda’r goreuon yn gobeithio ennill bri yn cystadlu dros Gymru a Phrydain Fawr. 

“Dyna nod ein clwb ni,” meddai Sara. “Os ydych chi eisiau ymuno, er mwyn cystadlu mae hynny.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy