Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.
2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau, pryd darganfyddodd mwy o blant hoffter o chwaraeon, a phryd daeth mwy o gymunedau at ei gilydd drwy glybiau a phrosiectau chwaraeon.
O helpu chwaraeon i ddod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar i ddyfarnu ein 30,000fed dyfarniad gan y Loteri Genedlaethol, dyma rai o'n huchafbwyntiau ni.
Cefnogi Cynaliadwyedd
2024 oedd y flwyddyn pryd wnaeth sector chwaraeon Cymru roi sylw mawr i gynaliadwyedd….
Lleihau allyriadau carbon
Eleni, buddsoddodd Chwaraeon Cymru £3.5 miliwn o Gyllid Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith cymunedau, gyda llawer o’r prosiectau wedi’u hanelu at leihau allyriadau carbon. Bydd yn arwain at gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru yn:
- troi'r switsh i oleuadau LED
- gosod paneli solar yn eu lle
- cyflwyno systemau ecogyfeillgar
Mae Stadiwm Queensway yn Wrecsam a chanolfannau hamdden ym Mhowys a Blaenau Gwent i gyd ymhlith y prosiectau sydd wedi cael y golau gwyrdd.
Grant Arbed Ynni
Rhannodd 97 o brosiectau ledled Cymru fwy na £1.7 miliwn mewn Grantiau Arbed Ynni.
Mae ein clybiau ni bellach:
- wedi'u hinswleiddio'n well
- yn cael eu pweru gan ynni solar
- yn gosod synwyryddion symudiad a goleuadau LED yn eu lle
- a mwy…
Rydyn ni’n helpu i adeiladu dyfodol cynaliadwy i chwaraeon yng Nghymru – bydd y grantiau’n helpu clybiau i arbed arian ar eu biliau ynni fel eu bod nhw’n gallu parhau i wneud eu gwaith gwych o redeg chwaraeon cymunedol fforddiadwy.
Ailddefnyddio ac ailgylchu hen git
Yn 2024, mae’r sector chwaraeon wedi bod yn gwneud ei ran i fynd i’r afael â gwastraff hefyd.
Mae ystafelloedd cit cymunedol a chynlluniau cyfnewid esgidiau yn cael eu sefydlu ledled Cymru, gan ein hannog ni i ailddefnyddio, yn hytrach nag anfon pethau i safleoedd tirlenwi.
Mae’r dull cylchol hwn yn lleihau ein heffaith ni ar y blaned ac mae’n helpu chwaraeon i ddod yn fwy fforddiadwy i’n cymunedau ni. Pawb ar eu hennill!
Mwy o wybodaeth am rai o’n hoff brosiectau ailgylchu.
Arwain y sector i ddyfodol mwy cynaliadwy
Yn 2024, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn rhan hefyd o Gyngres Chwaraeon, yr Amgylchedd a Hinsawdd (SECC), sydd wedi darparu hwb adnoddau ar-lein.
Mae wedi cael ei chynllunio i helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon i gymryd camau defnyddiol tuag at ddyfodol gwyrddach.