Ac nid dyna ddiwedd stori lwyddiannus Cymru yn y Gemau Olympaidd hyn, chwaith.
Chwalodd Jake Heyward record 1500m Cymru yn rownd gynderfynol y trac cyn gorffen yn nawfed yn y rownd derfynol yn ei Gemau Olympaidd cyntaf yn 22 oed.
Roedd Matt Richards nid yn unig wedi nofio trydydd cymal rhyfeddol ar ei siwrnai at aur y cyfnewid yn y pwll, ond fe dorrodd record Cymru hefyd am y 200m dull rhydd yn y treialon Olympaidd yn Llundain.
Cyrhaeddodd Alys Thomas a Dan Jervis y rownd derfynol Olympaidd yn y pwll, ac roedd chwech o nofwyr o Gymru, mwy nag erioed, yn cyfrif am 20 y cant o garfan nofio Team GB.
Enillodd Lauren Williams yr arian yn y taekwondo, fel y gwnaeth Elinor Barker yng ngweithgaredd tîm y merched yn y beicio a Tom Barras yn y pedwarawdau rhwyfo heb lywiwr. Ac fe wnaeth yr efydd mewn hoci a rhwyfo arwain at 11 o fedalau i gyd - y cyfanswm mwyaf ar y cyd o enillwyr medalau o Gymru mewn Gemau unigol ochr yn ochr â phedair blynedd yn ôl.
Dywedodd Sarah Powell, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: “Roedd y rhain yn Gemau oedd yn destun siarad am yr holl resymau anghywir yn y cyfnod yn arwain atyn nhw, ond unwaith i’r campau ddechrau hawliodd yr athletwyr y llwyfan ac fe gawsom ni gyfle i fwynhau eiliadau gwirioneddol eiconig o chwaraeon.
“Er ei fod yn amlwg yn brofiad gwahanol iawn i’r rhai allan yn Tokyo, wrth i gefnogwyr wylio’r holl fwrlwm gartref, fe gawsom ni ddigon o gyfle i fwynhau’r rolyrcosdyr cyfarwydd o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau sy’n rhan o chwaraeon a dyma un o’r rhesymau pam mae bod yn gefnogwr yn rhoi cymaint o foddhad.
“I mi, roedd y chwaraeon a’r fformatau newydd yn ychwanegu elfen ffres at y Gemau gan ddod ag egni a chyffro newydd a chynulleidfa newydd gobeithio.
“Mae campau Lauren Price yn dod yn bencampwraig focsio Olympaidd gyntaf Cymru a Hannah Mills yn dod yr hwylwraig gyda’r nifer mwyaf o fedalau yn hanes y Gemau Olympaidd wedi hawlio’r penawdau.
“Fe ddylen ni fod yr un mor falch o’r rhai na chyflawnodd eu nodau personol ond a oedd yn cynrychioli Team GB a Chymru yn wych ar lwyfan y byd gan ddangos bod digon o ffyrdd o gysylltu â’r cyhoedd a’u hysbrydoli heb orfod ennill medal.
“Roedd yn teimlo fel trobwynt i chwaraeon. Dewisodd llawer o'r athletwyr ddefnyddio'r llwyfan a roddwyd iddyn nhw i rannu eu teimladau a siarad yn agored am y pwysau sy'n eu hwynebu.
“Maen nhw wedi helpu i greu dadl iach iawn am bwysigrwydd creu’r amgylchedd cywir. Gobeithio ei bod hi’n sgwrs sy’n parhau ac y byddwn ni’n gweld mwy o gynnydd yn ystod y misoedd sydd i ddod.
“Roedd eu didwylledd yn eu gwneud yn llawer haws uniaethu â nhw ac roedd y ffocws ar siwrnai’r athletwr a’r cymunedau sydd wedi cefnogi a siapio eu profiadau yn wych i’w wylio. Rhaid i mi ddweud bod cyfweliad Lauren ddoe wedi dod â deigryn i'm llygad.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at droi fy sylw at y Gemau Paralympaidd sydd i ddechrau mewn dim ond 15 diwrnod a pharhau i chwerthin a chrïo ochr yn ochr â’n hathletwyr anhygoel ni.”
OLYMPIAID CYMRU
Rhestr Anrhydeddau Medalau’r Gemau Olympaidd
1908 LLUNDAIN 5 medal
Paulo Radmilovic, Polo Dŵr – AUR
Paulo Radmilovic, 4x200 nofio dull rhydd – AUR
Albert Gladstone, Wythawd y Dynion – AUR
Reginald Brooks-King, Saethyddiaeth (Rownd Iorc Dwbl y Dynion) – ARIAN
Tîm Cymru, Hoci – EFYDD
1912 STOCKHOLM 5 medal (1 fenyw)
David Jacobs, 4x100m ras gyfnewid sbrint – AUR
Irene Steer, 4x100m nofio dull rhydd – AUR
Paulo Radmilovic, Polo Dŵr – AUR
William Titt, gymnasteg – EFYDD
William Cowhig, gymnasteg (cyffredinol tîm y dynion) – EFYDD
1920 ANTWERP 4 medal
Paulo Radmilovic, Polo Dŵr – AUR
Christopher Jones, Polo Dŵr – AUR
Cecil Griffiths, 4x400m cyfnewid – AUR
John Ainsworth-Davies, 4x400m cyfnewid – AUR
1932 LOS ANGELES 4 medal (2 fenyw)
Hugh Edwards, Rhwyfo parau heb lywiwr – AUR
Hugh Edwards, Rhwyfo parau heb lywiwr – AUR
Valerie Davies, 100m nofio dull cefn – EFYDD
Valerie Davies, 4x100m nofio dull rhydd – EFYDD
1948 LLUNDAIN 5 medal
Thomas Richards, Marathon – ARIAN
Ken Jones, 4x100m ras gyfnewid sbrint – ARIAN
Ron Davies, Hoci – ARIAN
William Griffiths, Hoci – ARIAN
Syr Harry Llewellyn, Neidio ceffylau tîm – EFYDD
1952 HELSINKI 4 medal
Syr Harry Llewellyn, Neidio ceffylau tîm – AUR
John Disley, 3000m ras ffos a pherth –EFYDD
Graham Dadds, Hoci – EFYDD
John Taylor, Hoci – EFYDD
1960 RHUFAIN 2 fedal
David Broome, Neidio ceffylau – EFYDD
Nick Whitehead, 4x100m cyfnewid sbrint – EFYDD
1964 TOKYO 1 fedal
Lynn Davies, Naid hir – AUR
1968 DINAS MECSICO 3 medal
Richard Meade, Cystadleuaeth farchogol dridiau i dimau – AUR
Martyn Woodroffe, 200m nofio hedfan – ARIAN
David Broome, Neidio ceffylau – EFYDD
1972 MUNICH 3 medal
Richard Meade, Cystadleuaeth farchogol dridiau i dimau – AUR
Richard Meade, Cystadleuaeth farchogol dridiau unigol – AUR
Ralph Evans, Bocsio pwysau pryf ysgafn – EFYDD
1980 MOSCOW 2 fedal (1 fenyw)
Michelle Probert, cyfnewid 4x400m – EFYDD
Charles Wiggin, Pâr rhwyfo heb lywiwr – EFYDD
1984 LOS ANGELES 1 fedal
Robert Cattrall, Hoci – EFYDD
1988 SEOUL 1 fedal
Colin Jackson, clwydi 110m – ARIAN
1992 BARCELONA 1 fedal (1 fenyw)
Helen Morgan, Hoci – EFYDD
1996 ATHEN 2 fedal
Jamie Baulch, 4x400m cyfnewid – ARIAN
Iwan Thomas, 4x400m cyfnewid – ARIAN
2000 SYDNEY 1 fedal
Ian Barker, Hwylio (dosbarth 49) – ARIAN
2004 ATHEN 1 fedal
David Davies, 1,500m nofio dull rhydd – EFYDD
2008 BEIJING 5 medal (1 fenyw)
Nicole Cooke, beicio ras ffordd y Merched – AUR
Tom James, Pedwarawd rhwyfo heb lywiwr – AUR
Geraint Thomas, Gweithgaredd tîm beicio – AUR
Tom Lucy, Rhwyfo wyth dyn – ARIAN
David Davies, Nofio dŵr agored 10km – ARIAN
2012 LLUNDAIN 7 medal (3 menyw)
Tom James, Pedwarawd rhwyfo heb lywiwr – AUR
Geraint Thomas, Gweithgaredd tîm beicio – AUR
Jade Jones, -67kg Taekwondo – AUR
Freddie Evans, bocsio – ARIAN
Chris Bartley, Rhwyfo (pedwarawd ysgafn y dynion) – ARIAN
Hannah Mills, Hwylio (dosbarth 470) – ARIAN
Sarah Thomas, Hoci – EFYDD
2016 RIO – 11 Medal (8 menyw)
Hannah Mills, Hwylio 470 – AUR
Jade Jones, -58kg Taekwondo – AUR
Owain Doull, Gweithgaredd Tîm y Dynion – AUR
Elinor Barker, Gweithgaredd Tîm y Merched – AUR
James Davies, Rygbi Saith – ARIAN
Sam Cross, Rygbi Saith – ARIAN
Victoria Thornley, Sgwlio Dwbl y Merched – ARIAN
Rebecca James, Keirin – ARIAN
Rebecca James, sbrint – ARIAN
Jazz Carlin, 400 metr dull rhydd – ARIAN
Jazz Carlin, 800 metr dull rhydd – ARIAN
2020 TOKYO – 11 Medal (6 menyw)
Hannah Mills, Hwylio 470 – AUR
Lauren Price, Bocsio Pwysau Canol – AUR
Matt Richards, 4 x 200 cyfnewid dull rhydd – AUR
Calum Jarvis, 4 x 200 cyfnewid dull rhydd – AUR
Lauren Williams, -67kg Taekwondo – ARIAN
Elinor Barker, Gweithgaredd Tîm y Merched – ARIAN
Tom Barras, Pedwarawd Rhwyfo heb lywiwr – ARIAN
Sarah Jones, Hoci merched – EFYDD
Leah Wilkinson, Hoci merched – EFYDD
Oliver Wynne-Griffith, Wythawd rhwyfo’r dynion – EFYDD
Josh Bugajski, Wythawd rhwyfo’r dynion – EFYDD
Cyfanswm: 68 o fedalau (31 Aur – 25 Arian – 12 Efydd)