Pan benodwyd Warren Abrahams yn brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru ym mis Tachwedd 2020, hawliodd y penawdau ymhell ac agos.
Wedi'r cyfan, ef oedd yr hyfforddwr cyntaf o gefndir DALlE i gael swydd hyfforddwr tîm cenedlaethol yn y byd rygbi yng Nghymru, a’i gynorthwy-ydd oedd Rachel Taylor - y fenyw gyntaf i gael rôl hyfforddi broffesiynol yn y wlad hon.
Felly, mae'n ymddangos fel amser da i Rwydwaith Hyfforddi Cymru - rhaglen y bu’n rhaid ei gohirio yn ystod misoedd y cyfnod clo - ddychwelyd gyda ffocws ar amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb mewn hyfforddi ar draws sbectrwm chwaraeon Cymru.
Mewn adroddiad diweddar yn edrych ar amrywiaeth yn y byd chwaraeon yn Awstralia, nododd yr ymchwilwyr, er bod llawer o sefydliadau, clybiau a chyrff rheoli chwaraeon wedi mynd ati’n frwdfrydig i ddefnyddio iaith amrywiaeth a chynhwysiant mewn swyddi arwain a hyfforddi, mae eu cofnodion am benodiadau a datblygu’n llawer llai nodedig. *
Mewn geiriau eraill, maen nhw’n gwybod beth i’w ddweud. Ond dydyn nhw ddim wir ar y siwrnai.
Mae Rhwydwaith Hyfforddi Cymru yn gyfle i ddatblygwyr hyfforddiant ddod at ei gilydd a chysylltu i rannu syniadau a chreu diwylliant o gydweithredu.
Gall hynny ymwneud â hyfforddiant perfformiad, neu ddim ond gwella profiad cyfranogwyr ar bob lefel, neu, fel gyda'r sesiynau cyfredol, edrych ar ffyrdd o ehangu’r sylfaen o bobl sy'n dod i mewn i hyfforddi.
Cynhaliodd Chwaraeon Anabledd Cymru sesiwn ar hyfforddwyr yn edrych ar eu rôl gyda meddylfryd cynhwysol.
Y nod yw cryfhau cydweithredu ar draws gwahanol chwaraeon ac ysbrydoli ffordd newydd o feddwl.
Dywedodd Simon Jones, swyddog llywodraethu a datblygu pobl yn Chwaraeon Cymru: “Mae pawb yn arbenigwyr ym meysydd technegol a thactegol eu camp, ond y pethau o gwmpas hynny rydyn ni eisiau canolbwyntio arnyn nhw.
“Weithiau, y sgiliau rhyngbersonol ydyn ni eisiau edrych arnyn nhw a'u datblygu ac ar adegau eraill mae'n ymwneud â gwella'r amgylchedd.
“Mae'n ymwneud â chael pobl mewn ystafell a gofyn sut gallwn ni ddatblygu hyfforddwyr ar y cyd.
“Mae cymaint o waith da yn digwydd mewn cyrff rheoli a sefydliadau cenedlaethol, felly sut allwn ni rannu hynny? Mae'n ymwneud â dysgu, cysylltu a datblygu. ”