Skip to main content

Cyfle partneriaeth cyffrous i wella enw da Plas Menai fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyfle partneriaeth cyffrous i wella enw da Plas Menai fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol

Mae Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai, yn ystod y 39 mlynedd diwethaf, wedi creu enw da iddi’i hun am ddarparu anturiaethau awyr agored o'r radd flaenaf ar gyfer pob oedran. 

Yn 2021, ar ôl cyfnod o adolygu, cytunodd Bwrdd Chwaraeon Cymru y byddai datblygu partneriaeth gyda sefydliad priodol yn helpu i sicrhau bod Plas Menai yn gallu gwneud y gorau o'i botensial am flynyddoedd i ddod.

Hwylio ar Afon Menai

 

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn ystod y deuddeg mis diwethaf ac mae Chwaraeon Cymru bellach mewn sefyllfa i lansio'r chwilio yn ffurfiol am bartner newydd gyda'r bwriad o ddechrau'r bartneriaeth erbyn mis Ionawr 2023. Mae natur bwrpasol y cyfle partneriaeth yn gosod tri pheth creiddiol yn rhan ohono:

  • partneriaeth arloesol gyda diwylliant a gwerthoedd sy’n cyd-fynd
  • diogelu a hyrwyddo lles a datblygiad staff;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghym

Dywedodd Graham Williams, Cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru: "Mae Plas Menai wedi cael effaith gadarnhaol ar niferoedd enfawr o bobl dros nifer o flynyddoedd ac mae ganddo rôl hanfodol i'w chwarae wrth drawsnewid Cymru yn genedl actif. Ein nod ni yw sicrhau bod gan y ganolfan ddyfodol cynaliadwy yn yr hirdymor, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau’r cyfleuster pwysig yn ei leoliad rhagorol. Rydym yn credu, drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliad arloesol ac uchelgeisiol, sy’n angerddol am yr effaith y gall gweithgareddau antur awyr agored ei chael, y gall Plas Menai barhau i fynd o nerth i nerth.

"Rydym yn awyddus i sefydlu partneriaeth gyda sefydliad sy'n cyd-fynd â'n diwylliant a'n gwerthoedd, sy’n darparu sgiliau ategol y mae eu gwir angen ac a fydd yn ein helpu i wella enw da ac effaith Plas Menai. Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i wneud byd o wahaniaeth a byddwn yn annog unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni i gofrestru eu diddordeb."

Er mai datblygu partneriaeth fydd y flaenoriaeth yn ystod y misoedd nesaf, mae prosiectau allweddol eraill eisoes ar y gweill i gefnogi dyfodol cynaliadwy hirdymor Plas Menai. O ganlyniad i fuddsoddiad helaeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r Ganolfan ar gau dros dro ar hyn o bryd (gyda’r nod o ailagor ym mis Ebrill 2022) tra mae gwaith i osod system wresogi carbon effeithlon newydd ar y gweill, ynghyd â gwaith atgyweirio ac uwchraddio'r system awyru. Mae'r ganolfan yn arwain drwy esiampl wrth leihau allyriadau carbon a chefnogi'r symud tuag at y sector cyhoeddus cyfan yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Dylai unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y cyfle gofrestru eu diddordeb ar GwerthwchiGymru a darllen drwy'r wybodaeth sydd wedi’i darparu.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy