Mae strategaeth newydd i helpu i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru wedi cael ei chroesawu gan Chwaraeon Cymru.
Nod y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, sydd wedi cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael â'r ffigurau sy'n dangos bod 60% (1.5 miliwn) o'r boblogaeth o oedolion dros eu pwysau neu'n or-dew.
Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at rai meysydd allweddol ar gyfer chwaraeon, gan gynnwys y canlynol:
- Hybu gofod gwyrdd lleol a hawliau tramwy ar gyfer hamdden yn well, a sicrhau mwy o gyfleoedd i gael mynediad atynt.
- Cynnwys gweithgarwch corfforol yn rheolaidd mewn seilwaith a phenderfyniadau cyllido, fel Ysgolion yr 21ain Ganrif, safleoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Tai ac Adfywio.
- Buddsoddiad cynyddol mewn cyfleusterau chwaraeon o safon uchel a chefnogaeth gynyddol i gymunedau fuddsoddi mewn asedau cymunedol.
- Amrywiaeth o nodau'n gysylltiedig â Theithio Llesol.
- Cydnabyddiaeth i bwysigrwydd llythrennedd a gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o amgylchedd ysgol, yn ogystal â'r angen am sicrhau bod ysgolion yn amgylcheddau egnïol.