Wrth i chwaraeon ar lawr gwlad barhau â'u hadfywiad yng Nghymru yn dilyn y pandemig, mae clybiau chwaraeon yn cael eu hatgoffa y gallant gael cyllid i'w helpu i gael mwy o bobl i fod yn actif.
Ar hyn o bryd mae Chwaraeon Cymru yn cynnig dau fath o gymorth cyllido ar gyfer clybiau a sefydliadau cymunedol sy'n darparu gweithgareddau corfforol.
Gall clybiau sydd eisiau uwchsgilio gwirfoddolwyr, prynu offer newydd, neu gyllido syniadau arloesol sydd ganddynt ar gyfer defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o gyfranogwyr wneud ceisiadau i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.
Hefyd gall clybiau wneud cais i Gronfa Cymru Actif gyda chynigion i wella eu cyfleusterau ar y cae, fel arwynebau a llifoleuadau. Yn y cyfamser, mae ‘Cronfa Lle i Chwaraeon’ Chwaraeon Cymru ar gael i glybiau sydd eisiau gwneud gwelliannau ‘oddi ar y cae’ fel uwchraddio ystafelloedd newid ac adeiladau clwb.
Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid sydd wedi cael pwrpas newydd o'r Loteri Genedlaethol, mae grantiau Cronfa Cymru Actif yn amrywio o £300 hyd at uchafswm o £50,000.
Ymhlith y clybiau sydd wedi elwa’n ddiweddar o Gronfa Cymru Actif mae Clwb Pêl Droed Undy Athletig yn Sir Fynwy a ddefnyddiodd grant o £8,409 i greu cae maint llawn ychwanegol, gan roi lle i ddau dîm merched newydd cystadleuol chwarae eu gemau.
Yng Nghaerdydd, llwyddodd Clwb Badminton Iau Llanisien gyda’i gais am £350 yr oedd ei angen er mwyn hyfforddi hyfforddwr arall i helpu i ymdopi â’r cynnydd o 50% mewn chwaraewyr newydd yn ymuno â'r clwb.
Roedd gwirfoddolwyr yng Nghlwb Criced Malpas wrth eu bodd gyda'u peiriant torri gwair newydd a brynwyd diolch i Gronfa Cymru Actif, yn ogystal â sbyngau sychu newydd i alluogi i fwy o gemau fynd yn eu blaen.
Gall grwpiau cymunedol wneud cais am gyllid hefyd. Llwyddodd Sefydliad Lles y Glöwyr yn Llai yn Wrecsam i roi arwyneb newydd ar eu MGADd (cwrt gemau aml-ddefnydd) cymunedol a hefyd gosod rhwyd uwchben diolch i grant o £26,612.
Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Ers sefydlu Cronfa Cymru Actif i ddechrau yr haf diwethaf i helpu clybiau i oroesi ac addasu i ganllawiau Covid, rydyn ni wedi dyfarnu mwy na £5.1m i 1,308 o glybiau.
“Wrth i weithgareddau llawr gwlad barhau i helpu cymunedau i ddod yn ôl i chwaraeon, rydyn ni eisiau atgoffa clybiau a sefydliadau cymunedol bod Cronfa Cymru Actif ar gael i'ch cefnogi chi.
“Fis diwethaf, fe wnaethom hefyd lansio ail gronfa - Lle i Chwaraeon - mewn partneriaeth â Crowdfunder. Rydyn ni'n gyffrous iawn am y dull cyllido newydd yma sydd â'r nod nid yn unig o helpu clybiau i uwchraddio eu cyfleusterau ond hefyd i wella eu cysylltiadau cymunedol a'u sgiliau codi arian. Rydw i'n annog clybiau i fynd i'n gwefan ni i gael gwybod mwy.”