Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan fawr yn hanes Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni dros y blynyddoedd ac nid yw eleni’n eithriad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi helpu’r clwb i adeiladu cyfleusterau, goroesi pandemig Covid-19 ac ehangu ei waith i ddenu’r bobl mwyaf agored i niwed yn ei gymuned at y gamp.
Yn 2017, adnewyddodd y clwb ganolfan gymunedol i fod yn gampfa focsio. Eleni, derbyniodd y clwb £440 o gronfa Cymru Actif oedd o help iddo ailddechrau’n ddiogel ar ôl y cyfnod clo, a £295,543 o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i ehangu gwaith y clwb i gynnwys pobl agored i niwed yn ei gymuned yn y gamp.
Dyfarnwyd grant y Loteri Genedlaethol o £17,000 i Glwb Bocsio Phoenix Llanrhymni gan Chwaraeon Cymru yn 2017 i helpu i droi canolfan gymunedol oedd yn prysur ddadfeilio yn gampfa bocsio. Nawr mae 150 o bobl ifanc yn ymweld â champfa’r clwb bocsio bob dydd.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r clwb wedi bod yn pryderu am effaith Covid ar iechyd meddwl ei focswyr. Mae wedi annog ei aelodau i gysylltu os ydynt yn teimlo'n bryderus neu ar eu pen eu hunain a bellach mae’n cynnig cwrs iechyd a lles y meddwl am ddim.
Meddai'r Prif Hyfforddwr Tony Richards:
"Mae'n bwysig i ni ein bod ni’n rhoi'n ôl i'r gymuned lle rydyn ni wedi tyfu i fyny. Mae llawer o amddifadedd yma ac nid yw llawer o blant yn mynd i'r ysgol, sy'n dorcalonnus i'w weld.
"Fe hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol oherwydd ni fyddem yn gallu cefnogi'r gymuned heb y buddsoddiad yma. Mae'n gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn ein hardal ni."
"Rydyn ni’n gweithio gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i geisio helpu i gefnogi plant sy'n cael anawsterau."