Skip to main content

Cyllid y Loteri yn helpu pêl korf i ruo mlaen yn Abertawe

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyllid y Loteri yn helpu pêl korf i ruo mlaen yn Abertawe

Mae’r gamp amgen, pêl korf – sy’n cael ei hystyried yn un o’r campau mwyaf cynhwysol yn y byd – wedi cael ei chefnogi yn Abertawe diolch i arian y loteri. 

Yn ddiweddar dyfarnwyd £1,694 i Glwb Pêl Korf newydd sbon Swansea Roar gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, sy’n defnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol, i’w helpu i ennill ei blwyf fel opsiwn chwaraeon arall i drigolion y ddinas. 

Mae’r clwb wedi defnyddio’r cyllid i dalu am beli a chonau, cwrs hyfforddi, a'u costau cychwynnol o logi lleoliad. 

Dywedodd Matthew Milum, sylfaenydd clwb Pêl Korf Swansea Roar: “Mae Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn wych oherwydd maen nhw wedi rhoi’r sylfeini i ni roi rhywle i’r gymuned leol ddod i gymdeithasu, cadw’n heini, dysgu sgil newydd, a theimlo’n rhan o dîm.” 

Wedi'i chreu yn wreiddiol yn yr Iseldiroedd, mae Pêl Korf yn gêm bêl gyflym sy'n ymgorffori agweddau ar bêl rwyd a phêl fasged. Pêl Korf yw un o'r unig chwaraeon gwirioneddol gyfartal o ran y rhywiau gan fod rhaid i bob tîm o wyth chwaraewr gynnwys pedwar dyn a phedair menyw. 

Roedd y natur gynhwysol yma’n golygu ei bod yn gamp unigryw yr oedd Chwaraeon Cymru yn awyddus i’w chefnogi, gydag Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru yn dweud: “Rydyn ni’n gwybod bod llai o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae chwaraeon rhywedd cymysg fel Pêl Korf yn ffordd wych o gael mwy o ferched i fod yn actif drwy greu amgylcheddau diogel, croesawgar a chynhwysol i bawb.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi clybiau chwaraeon newydd yng Nghymru drwy Gronfa Cymru Actif, sydd wedi’i gwneud yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.” 

Ers iddo gael ei sefydlu yn gynharach eleni, mae’r clwb wedi denu aelodau newydd yn gyson, gan gynnwys Alice Johnson, a ddywedodd: “Mae’n gallu bod yn anodd gwneud ffrindiau newydd fel oedolyn, ond un o fanteision mawr Swansea Roar yw ei fod wir yn glwb cyfeillgar lle mae pawb yn cael croeso.” 

Yn benderfynol o wneud eu clwb yn hygyrch i bawb, mae Clwb Pêl Korf Swansea Roar yn cynnig aelodaeth am bris is i bobl ddi-waith, pobl sy’n derbyn gostyngiad ar y dreth gyngor, neu'n derbyn PIP. Mae'r clwb hefyd yn cynnig tri sesiwn blasu am ddim i ddarpar chwaraewyr. I gael rhagor o fanylion am Glwb Pêl Korf Swansea Roar, dilynwch nhw ar Facebook ac Instagram @swansearoarkorfballclub. 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Dysgwch fwy am ein cyllid isod

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy