Mae pedwar Cyngor Chwaraeon y Wlad Gartref wedi gwneud penderfyniad unfrydol yn dilyn Adolygiad Cydnabod
Mae Cynghorau Chwaraeon y Wlad Gartref wedi canfod nad yw Cymdeithas Ju Jitsu Prydain (BJJAGB) yn bodloni meini prawf Polisi Cydnabod y Cynghorau Chwaraeon fel y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CRhC) cydnabyddedig ar gyfer y gamp yn y Deyrnas Unedig.
Yn dilyn Adolygiad Cydnabod cynhwysfawr a gynhaliwyd gan Sport England yn unol â’r meini prawf, penderfynodd Byrddau Chwaraeon Lloegr, Chwaraeon yr Alban, Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Gogledd Iwerddon yn unfrydol dderbyn canfyddiadau’r Adolygiad a symud ymlaen i ddadgydnabod y BJJAGB.
Rhaid i'r BJJAGB nawr ddangos ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'r meini prawf cydnabod erbyn 1 Hydref, 2023 neu bydd dadgydnabod yn dod i rym ar unwaith.
Yn dilyn dadgydnabod, ni fyddai Cymdeithas Ju Jitsu Prydain (BJJAGB), na chwaraeon Ju Jitsu, yn gymwys i gael arian cyhoeddus gan Chwaraeon Cymru na'r Cynghorau Chwaraeon cenedlaethol eraill. Ni all crefft ymladd, neu unrhyw gamp a ddynodir fel un risg uchel, dderbyn arian cyhoeddus yng Nghymru heb Gorff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig.
Lansiodd Sport England, ynghyd â Chynghorau Chwaraeon eraill y Gwledydd Cartref, Adolygiad o’r CJJA ar 3 Tachwedd 2022 ar ôl derbyn gwybodaeth am lywodraethu trefniadaeth ac ymddygiad unigolion yn y corff llywodraethu.
Canfu’r Adolygiad, a archwiliodd naw maen prawf, fod y CJJA wedi methu â bodloni’r rhain mewn chwe maes:
- Strwythur cyfansoddiadol
- Methodd BJJAGB â dangos bod ganddi gyfansoddiad cyfoes neu addas i'r diben.
- Strwythur llywodraethu
- Nid yw polisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a gwrth-gyffuriau BJJAGB yn bodloni’r gofynion cydnabod. At hynny, ni ddarparodd y sefydliad unrhyw wybodaeth rheoli diogelwch.
- Hanes y sefydliad
- Methodd BJJAGB â darparu cofnodion o'i gyfarfodydd cyffredinol blynyddol am y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Dylanwad y corff llywodraethu
- Ni wnaeth BJJAGB ddadl dros ei fod y CRhC mwyaf dylanwadol yn ei gamp.
- Gweledigaeth a datblygiad y sefydliad
- Ni ddarparodd BJJAGB gynllun(iau) datblygu chwaraeon na CRhC fel rhan o'r broses Adolygu.
- Datblygiad chwaraeon
- Ni ddarparodd BJJAGB gynllun(iau) datblygu chwaraeon na CRhC fel rhan o'r broses Adolygu.
Ysgrifennodd Cynghorau Chwaraeon y Wlad Gartref at CJJJ y bore yma i gyfleu’r penderfyniad hwn a dechrau’r broses dadgydnabod yn ffurfiol.
Bydd clybiau, prosiectau a chymdeithasau jiu-jitsu Brasil yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn grantiau gan Chwaraeon Cymru ar yr amod eu bod yn gysylltiedig â Chymdeithas Jui-Jitsu Brasil y DU (UKBJJA). Yr UKBJJA yw'r corff llywodraethu cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer jiu-jitsu Brasil ac mae ar wahân i'r BJJAGB.