Mae Michael Jordan a LeBron James yn eiconau chwaraeon byd-eang ond cyn bo hir gallwn weld llwybr i arwyr NBA o'r fath sy’n cychwyn yma yng Nghymru.
Mae Pêl Fasged Cymru a’r NBA yn ymuno i greu cynghrair newydd yma yng Nghymru, a allai olygu, rhyw ddiwrnod, bod sêr chwaraeon mawr y dyfodol yn cael eu cynhyrchu yn rhywle yn eich ardal chi.
Mae'r fenter newydd hon yn rhan o fenter Iau yr NBA a bydd yn cael ei gweithredu fel twrnamaint mewn ysgolion, sy'n agored i fechgyn a merched rhwng 11 a 13 oed.
Mae Caelan Carson-Jones, 14 oed, sy'n chwarae i Glwb Pêl Fasged Swansea Storm ac yn un o sêr pêl fasged posib Cymru yn y dyfodol, yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y gynghrair drwy ledaenu'r gair i'w hathrawon yn yr ysgol.
“Dim ond un gair sydd ei angen gennych chi neu eich ffrindiau,” meddai Caelan.
“Fe ddylech chi fynd at eich athrawon AG a dweud wrthyn nhw fod yr NBA wedi dechrau ymwneud ag ysgolion yng Nghymru.
“Rydw i’n siŵr y byddan nhw’n fwy na hapus i gael tîm yn cystadlu yn y twrnamaint.
“Does dim ffi yn gysylltiedig ac rydw i 100% yn siŵr y bydd yn brofiad positif i bobl ifanc.”
Un o atyniadau mawr y cyswllt gyda’r NBA yw y bydd yr holl ysgolion yn cael eu paru ag un o dimau gorau America. Bydd hyn yn cael ei benderfynu ar hap mewn digwyddiad ‘drafft’ yn Aberystwyth ym mis Tachwedd.
Mae’n golygu y bydd y chwaraewyr ifanc yn gallu gwisgo’r un cit â thimau’r NBA fel tîm James, yr LA Lakers, y Chicago Bulls - lle gellir dadlau y daeth Jordan yn seren chwaraeon fwyaf y byd - neu’r Brooklyn Nets a’u seren fawr Kevin Durant.
Gan ysbrydoli chwaraewyr ifanc o Gymru drwy wisgo'r un lliwiau, gobaith NBA Iau yw y gallant fynd ymlaen i ddal ati gyda’r gamp a chwilio am lwybrau datblygu i mewn i bêl fasged coleg yn UDA.
Un o brif nodau'r twrnamaint yw hyrwyddo gwerthoedd allweddol fel parch, mwynhad a phwysigrwydd cadw'n heini.
Gyda chyfyngiadau’r coronafeirws yn llacio bellach, mae Caelan o'r farn mai dyma'r amser perffaith i bobl ifanc ymgymryd â champ newydd fel pêl fasged.
“Yn amlwg, fe wnes i golli chwarae gan fy mod i wedi arfer chwarae dair gwaith yr wythnos felly doedd e ddim yn ddelfrydol peidio â chwarae o gwbl am ychydig.
“Doeddwn i ddim yn gallu aros i fynd yn ôl i chwarae ac rydw i’n siŵr bod llawer mwy o bobl ifanc allan yna sy’n methu aros i gymryd rhan yn eu camp eto hefyd.
“Mae rhwyd pêl fasged yn rhywle yn eich cymuned chi bob amser, felly dylai pawb roi cynnig arni.
“Rydw i wedi cael cymaint o wahanol gyfleoedd i deithio ledled y byd drwy bêl fasged.
“Mae’n gallu agor cymaint o ddrysau newydd i bobl ifanc fel fi.
“Pan ddechreuais i chwarae gyntaf, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am bêl fasged. Jyst gweld y gamp ar y teledu a meddwl ei bod yn edrych yn cŵl, rydw i am roi cynnig arni.
“Ymarfer sy’n bwysig, i berffeithio eich chwarae. Does neb yn dechrau ar y brig, mae'n rhaid i chi weithio'ch ffordd i fyny.”