Main Content CTA Title

Cymryd Rhan mewn Chwaraeon ac Ymarfer yng Nghymru – y Cyfarwyddyd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cymryd Rhan mewn Chwaraeon ac Ymarfer yng Nghymru – y Cyfarwyddyd

DIWEDDARWYD AR 18FED IONAWR 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cyngor i gampfeydd, canolfannau hamdden, clybiau chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill i weithredu mesurau rheoli rhesymol. Plîs darllenwch y canllawiau ar gyfer mesurau i helpu i leihau’r risg.

Rhaid i bob digwyddiad a drefnir gael ei drefnu gan gorff cyfrifol a chael asesiad risg.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori bod pobl yn gwneud profion llif unffordd rheolaidd os ydych chi’n cyfarfod ag eraill y tu allan i'ch cartref. Os yw eich prawf llif unffordd yn bositif, dylech hunanynysu a dilyn y canllawiau hunanynysu.

Mae Cymru yn parhau i fod ar Lefel Rhybudd 2 ar hyn o bryd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai newidiadau diweddar sy’n effeithio ar chwaraeon:

O 15fed Ionawr ymlaen

Gall hyd at 500 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiadau awyr agored. Nid yw hyn yn cynnwys y rhai sy'n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon tîm, sy'n golygu y gall 500 o wylwyr fod yn bresennol.

O 21ain Ionawr ymlaen

Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol mwyach ar nifer y bobl a all gyfarfod yn yr awyr agored. Bydd angen Pas COVID ar gyfer digwyddiadau awyr agored mawr.

O 28ain Ionawr ymlaen

Bydd angen pasys COVID ar gyfer digwyddiadau mawr dan do.

MWY O WYBODAETH

Gallwch ddarllen y canllawiau a’r diweddariadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r canllawiau Chwaraeon a hamdden.

Byddwn yn diweddaru ein canllawiau cyn gynted ag y bydd gwybodaeth ar gael.

NODYN PWYSIG: Mae'n rhaid i chi ddilyn canllawiau swyddogol eich corff rheoli i ailddechrau gweithgareddau a drefnir.

 

Newyddion Diweddaraf

Cyngor doeth ar gyfer creu clwb chwaraeon cynhwysol

Wrecsam Clwb Rygbi Cynhwysol Rhinos yn rhannu eu cyngor ar sut y gallwch greu amgylchedd cynhwysol

Darllen Mwy

Academi dartiau’n taro’r targed gyda phobl ifanc

Mae academi dartiau’n boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc wrth i effaith Luke Littler gydio.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan.

Darllen Mwy