Dechreuodd hoffter Mojeid Ilyas o griced fel gêm pan oedd yn blentyn, yn chwarae pêl tâp yn y parciau lleol gyda'i frodyr am oriau di-baid.
Mae bellach wedi defnyddio’r angerdd hwnnw a’i droi’n gynghrair Pêl Tâp Ramadan i ddod â phobl o bob rhan o’r gymuned at ei gilydd, gyda’r gobaith o wneud criced yn gêm fwy cynhwysol yng Nghymru.
Yn dilyn yr helyntion diweddar yn y byd criced yn y DU, penderfynodd Ilyas, sydd bellach yn gwasanaethu fel Swyddog Datblygu Cymunedau Amrywiol Criced Cymru, sefydlu ‘Gŵyl Griced Ramadan’, sef twrnamaint pêl tâp pedair wythnos ar gyfer y rhai sy’n ymprydio ar gyfer Ramadan.
Mae Ramadan yn ŵyl grefyddol Fwslimaidd, sy'n cynnwys ymprydio rhwng codiad haul a machlud haul am fis cyfan fel ffordd o fyfyrio a thyfu'n ysbrydol.
Mae Criced Cymru wedi bod yn cymryd camau pwysig yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roedd sefydlu sesiynau am ddim yn hwyr y nos ym mis Ebrill yng Ngerddi Sophia yn caniatáu i Fwslimiaid a oedd yn cadw at Ramadan chwarae criced ar ôl torri eu hympryd.
Yr ymrwymiad yw datblygu cysylltiadau â'r gymuned leol gyfan a chymryd y camau cyntaf at feithrin ymddiriedaeth.
Yn ei dro, y gobaith yw y bydd mwy a mwy o bobl yn dechrau cymryd rhan yn y gêm yng Nghymru.
Wrth siarad am yr ŵyl newydd, dywedodd Ilyas: “Rydw i’n meddwl ei bod yn llwyddiant mawr.
“Fe gawsom ni tua 45 i 50 o bobl yn dod draw, o bob ethnigrwydd a diwylliant gwahanol. Roedd pobl sydd ddim yn dod o'r gymuned Fwslimaidd yn helpu ac yn gwirfoddoli i ni hyd yn oed.
“Pan mae pobl yn ymprydio, dydyn nhw ddim yn disgwyl triniaeth arbennig. Ond mae'n braf i bobl o'u cwmpas nhw wybod am eu sefyllfa, fe fydd yn cyfrif llawer i'r bobl yma.
“Mae llawer o’r problemau yn deillio o anwybodaeth, ddim yn ymwybodol o ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol bobl.
“Yr ymwybyddiaeth yna o’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau yma fydd yn helpu i alluogi i griced ddod yn gêm fwy cydlynol wrth symud ymlaen.”
Mae Ilyas wedi gwirioni ar griced ers chwarae ar gaeau Grangetown yng Nghaerdydd.
Dechreuodd chwarae yng Nghlwb Criced Asiaid Cymru, sydd bellach yn cael ei alw yn Glwb Criced Llandaf, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Siroedd Lleiaf Cymru ac MCCU Caerdydd.