Credwch neu beidio, mae posib dod o hyd i falans rhwng danteithion Nadoligaidd a dewisiadau iach er mwyn goroesi dathliadau’r ŵyl.
Dyma rai syniadau hwyliog ac actif i chi eu mwynhau dros y Nadolig.
Credwch neu beidio, mae posib dod o hyd i falans rhwng danteithion Nadoligaidd a dewisiadau iach er mwyn goroesi dathliadau’r ŵyl.
Dyma rai syniadau hwyliog ac actif i chi eu mwynhau dros y Nadolig.
O draethau i fynyddoedd, afonydd a rhaeadrau; mae cerdded yn opsiwn eithriadol braf yn ein gwlad hardd ni - Cymru.
Gallai cerdded ar gyflymder o 5mya losgi 544 o galorïau yr awr. Gan ddefnyddio polion cerdded gallech losgi hyd at 46% yn rhagor o galorïau o gymharu â cherdded heb bolion.
Beth am roi rhai o fapiau cerdded Cymru o dan y goeden y Nadolig yma, fel awgrymodd Siôn Corn, a rhoi’r hwb mae rhywun ei angen iddo. Rhowch gynnig ar rai o awgrymiadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymrui ddechrau arni.
Does dim angen i chi fentro allan o'ch cegin hyd yn oed i losgi rhai calorïau y Nadolig yma. Dathlwch drwy droi’r sŵn i fyny ar y tiwns Nadolig a chael bwgi bach gyda’ch teulu.
Beth am fod yn un o'r plant. Dau funud fyddan nhw’n dysgu'r campau TikTok diweddaraf i chi. Efallai y byddwch chi'n edrych braidd yn wirion ond bydd digon o chwerthin a digon o chwys.
Beth am gerdded o amgylch cwrs golff yn taro peli gyda'ch ffrindiau? Does dim rhaid i chi fod rownd bwyd a diod bob amser er mwyn cael sgwrs gyda’ch ffrindiau. Cydiwch mewn ffon a chael hwyl a gollwng stêm ar y cwrs golff y Nadolig yma.
Mae mwy i ymarfer corff na dim ond iechyd corfforol, wedi'r cyfan. Mae golff yn ffordd wych o roi hwb i’ch lles meddyliol - oni bai eich bod chi'n sgorio gormod o bogeys trebl, wrth gwrs!
Edrychwch ar Golff Cymru am le i chwarae. Eisiau chwarae wrth y traeth? Mae Croeso Cymru yn rhestru ei hoff gyrsiau arfordirol yma.
Dyma'r amser o'r flwyddyn pryd mae Siôn Corn yn dod â digon o feiciau i lawr y simnai. Pa amser gwell i ddechrau newid arferion a mynd allan i feicio?
Mae beicio'n weithgaredd effaith isel ac yn un o'r ffyrdd mwyaf diogel o ymarfer corff heb risg o orymestyn neu straen ar gyhyrau a chymalau.
Beth am edrych ar wefan yr elusen feicio Sustransam y llwybrau mwyaf diogel ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Neu chwilio am opsiynau eraill felbeicio BMX, beicio mynydd a chroesfeicio drwyBeicio Cymru
Yr ymarfer perffaith ar gyfer y Nadolig? Sglefrio Iâ wrth gwrs. Camp sy'n galluogi i chi fod yn actif ac yn Nadoligaidd ar yr un pryd. Ar ôl i chi feistroli aros ar eich traed, gallwch losgi llawer o egni ar rinc sglefrio iâ a gweithio cyhyrau sydd ddim fel arfer yn gweithio - i gyd wrth fod yn Nadoligaidd iawn!
Rhowch gynnig arni gyda'r teulu mewn ‘Winter Wonderland.’ Neu, yng nghartref Devils Caerdydd yn y De neu yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn y Gogledd.
Yn aml, gall tywydd y gaeaf yng Nghymru amharu llawer iawn ar eich cynlluniau chi i ymarfer yn yr awyr agored.
Un peth mae’r pandemig wedi'i ddangos i ni yw y gallwn fod yn greadigol ac ymarfer corff gartref, heb fod angen offer drud – cylchedau, sesiwn HIIT neu ychydig o Pilates.
Gallai sesiwn 30 munud losgi rhwng 150 a 500 o galorïau, gan ddibynnu ar bob person a pha mor galed rydych chi'n gweithio.
Rydyn ni wedi llunio rhai sesiynau i chi roi cynnig arnyn nhw – o sesiynau ysgafn i lefel uwch.
Gall rhedeg ar gyflymder cyson losgi hyd at 600 o galorïau yr awr, ond os ydych chi'n newydd i redeg peidiwch â cheisio rhedeg marathon cyn rhedeg milltir! Dechreuwch yn araf drwy redeg gan ddefnyddio egwyliau. Rhedwch am ddau funud ac wedyn cerdded yn gyflym am un munud, gan ailadrodd hyn saith gwaith nes cael ymarfer 20 munud ac, wrth i chi wella, ychwanegwch funud arall at eich amser rhedeg nes eich bod yn gallu rhedeg heb stopio a heb fod angen cerdded yn y canol.
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddillad cyfforddus ar gyfer hyn, ac esgidiau priodol, ac fe allwch chi redeg Cymru ben baladr.
Ymunwch â chymuned am ddim Parkrun, neu gysylltu ag Athletau Cymruam gyngor, syniadau a heriau.
Cyn i chi ddiystyru tennis bwrdd fel dim ond rhyw fath o bing pong dros y gwyliau, ystyriwch bod cyflymder y gêm yn gallu cyrraedd dros 100 milltir yr awr.
Does dim angen bwrdd drud. Gallai dechrau arni fod yn gymharol rad gydag ychydig o ddychymyg.
Fel dechreuwr, gallwch lacio eich cyhyrau'n ysgafn a gwella gallu’r meddwl i ganolbwyntio. Wrth i chi wella, gallwch gael eich calon i rasio am ymarfer mwy actif.
Gan ddibynnu ar eich maint a'ch ffitrwydd, gallech losgi hyd at 250 o galorïau yr awr. Dim bwrdd tennis bwrdd? Beth am fod yn greadigol a chreu un gartref.
Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…
Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…
Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…