Main Content CTA Title

Cyngor doeth ar gyfer creu clwb chwaraeon cynhwysol

Os ydych chi’n rhan o glwb chwaraeon ac eisiau bod yn fwy cynhwysol, edrychwch ar Glwb Rygbi Cynhwysol Rhinos Wrecsam.

Sefydlwyd y tîm yn 2022 gan Stevie Harris a Ben Brown – fel man diogel i ddynion LGBTQ+ chwarae rygbi.

Drwy greu amgylchedd croesawgar a chanolbwyntio ar gynhwysiant a chyfeillgarwch, mae’r hyn a ddechreuodd fel tîm hoyw wedi esblygu i groesawu chwaraewyr o bob cefndir. O bum chwaraewr yn eu sesiwn hyfforddi gyntaf, mae'r tîm bellach yn gymuned o fwy na 60 o chwaraewyr.

Os ydych chi’n strêt, yn hoyw, heb chwarae rygbi o’r blaen (neu’n teimlo braidd yn rhydlyd), ag anhawster dysgu, cefndir o gaethiwed i sylwedd neu’n mynd drwy gyfnod heriol yn eich bywyd, fe gewch chi groeso cynnes ar y cae yn Wrecsam.

Fe aethon ni draw i’w sesiwn hyfforddi wythnosol nhw yng Nghlwb Rygbi Wrecsam a holi’r tîm ynghylch sut gall clybiau chwaraeon Cymru fod yn fwy cynhwysol i gymunedau amrywiol…

Ffocws ar fwynhad  

“Mae croeso i bawb yma. Does dim rhaid i chi chwarae gemau yn syth os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Dewch draw i hyfforddi ac i gadw’n ffit. A phan rydych chi’n teimlo’n barod, fel allwch chi ddod yn rhan o’r tîm. 

“Mewn clybiau eraill, rydych chi'n hyfforddi i fynd â'r sgiliau hynny i'r gêm nesaf. Ond yma, rydych chi'n hyfforddi i fwynhau eich hun a chael hwyl,” Harry Cope, blaenasgellwr

Sefydlu tîm datblygu neu gynhwysol

“Sefydlwch dîm datblygu sy’n gyfeillgar ac yn anffurfiol. Mae’n ffordd dda o ymgysylltu â’r gymuned, beth bynnag yw eich gallu chi. Fe allwch chi fynd at y rhieni ar y llinell ochr ac awgrymu eu bod nhw’n rhoi cynnig ar y tîm datblygu.

Llun o Dan Challinor yn ei git Rhinos Wrecsam.
Rydyn ni’n dîm sy’n canolbwyntio ar fod yn gymuned ac yn rhwydwaith cefnogi cymdeithasol.
Dan Challinor, blaenasgellwr

Hyrwyddwch eich cyfeillgarwch i gymunedau LGBTQ+

“Ar gyfryngau cymdeithasol, gallai clybiau wneud mwy i ddangos eu cefnogaeth i gymunedau LGBTQ+ ac eraill o gefndiroedd gwahanol i wneud i bobl deimlo bod mwy o groeso iddyn nhw. Mae’n helpu i ddatblygu diwylliant cynhwysol,” Stuart Valentine, capten a mewnwr

Byddwch yn agored, yn onest ac yn gyfeillgar

“Fy nghyngor pennaf i os ydych chi’n sefydlu tîm cynhwysol yw bod yn agored, yn onest ac yn gyfeillgar. Mae gennym ni chwaraewyr hoyw, mae gennym ni chwaraewyr strêt – rydyn ni i gyd yr un fath. 

Rydyn ni jyst eisiau chwarae ychydig o rygbi! Mae gennym ni chwaraewr sydd ag atal dweud ac mae ei hyder o wedi cynyddu'n aruthrol. Yn aml, mae ymuno â thîm cyntaf neu ail dîm mewn clwb yn ormod. Yma, fe allwch chi ddysgu'r pethau sylfaenol a jyst mwynhau.

“Rydyn ni'n gofalu am bobl. Mae'n ofod diogel. Rydyn ni'n cynnwys pawb ac rydyn ni'n neis – dydi o ddim yn anodd mewn gwirionedd!” Brendan O’Malley, hyfforddwr

Ymgysylltu y tu hwnt i'r gymuned LGBTQ+

“Pan wnaethon ni ddechrau, fe gawson ni ein sefydlu a’n labelu fel clwb LGBTQ+ ond mae bellach wedi datblygu i fod yn gwbl gynhwysol. Rydyn ni’n mynychu’r holl Prides lleol ac yn gwahodd pobl o’r gymuned LGBTQ+ i ymuno, ond rydyn ni jyst eisiau rhoi lle diogel i bobl fwynhau ein camp ni, dim ots beth yw eu rhywioldeb.

Llun o Stevie Harris yn ei git Rhinos Wrecsam.
Rydyn ni'n hygyrch i bawb. Mae ein chwaraewyr ni’n strêt, yn hoyw, mae un neu ddau yn draws, mae gan rai anawsterau dysgu, mae rhai yn dod o gefndiroedd dibyniaeth, mae rhai eisiau chwarae er lles eu hiechyd meddwl. Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod yn gynhwysol i bobl y tu hwnt i’r gymuned LGBTQ+ oherwydd ei fod yn hybu dealltwriaeth,
Stevie Harris, sylfaenydd

Peidio â barnu

“Rydw i’n gyn-filwr yn y Fyddin ac rydw i’n dioddef o PTSD. Roedd gadael y fyddin bum mlynedd yn ôl yn bwynt isel iawn yn fy mywyd i. Mae’r tîm yma wedi fy helpu i’n fawr. Dydi rhywioldeb ddim yn bwysig. Dydych chi ddim yn mynd i gael eich barnu yma. Mae'r clwb yma’n gwneud i chi deimlo bod croeso mawr i chi. Ond mae’n fwy na dim ond clwb. Mae’n achubiaeth,” Taff Williams, Blaenasgellwr

Cynnal diwrnod agored 

“Rydw i’n meddwl y dylai mwy o glybiau fod â thimau cynhwysol ac fe ddylen nhw gynnal dyddiau agored i ledaenu’r gair. Ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol. Eglurwch nad oes pwysau, dim barn – mae croeso i bawb dim ots beth yw eu rhywedd, eu hoedran, eu rhywioldeb, eu gallu – dewch i weld beth rydych chi’n ei feddwl. Dyna’r ffordd orau i ddenu rhywun at gamp i dimau,” Matthew Warburton, canolwr

Creu amgylchedd croesawgar

“Yn aml mae diwylliant y “bois” yn rhan o rygbi. Os gallwn ni symud oddi wrth hynny ryw ychydig a gweithio i fod yn fwy cynhwysol, bydd pawb ar eu hennill. Ar ôl y gêm, dydi gwatwar a chlecio peintiau ddim yn apelgar bob amser. Mae rygbi’n llawn dynion mawr dros 16 stôn sy’n gallu codi ofn, felly mae’n rhaid i ni weithio fymryn yn galetach i fod yn groesawgar,” Tom Robinson, Canolwr (Hyfforddwr Chwaraewr)

Canolbwyntio ar anghenion unigolion

“Roeddwn i’n chwarae i Glwb Rygbi Wrecsam ac fe wnes i sylwi ar bump neu chwech o fechgyn yn gwneud rhywbeth eu hunain ar y cae nesaf. Fe wnes i sylweddoli bod arnyn nhw angen ychydig o hyfforddiant a dyna pryd wnes i neidio i mewn fel chwaraewr-hyfforddwr.

Fy nghyngor i fyddai chwilio am bobl sydd angen ychydig o help,” Tom Robinson, Canolwr (Hyfforddwr Chwaraewr)

Penodi Swyddog Cynhwysiant

“Mae bywyd yn esblygu ac mae angen i chwaraeon esblygu hefyd.

Llun o Craig Crebbin yn ei git Rhinos Wrecsam.
Rhaid i ni fod yn fwy cynhwysol i bob cymuned. Gallai clybiau benodi Swyddog Cynhwysiant neu gael pwyllgor cynhwysiant.
Craig Crebbin, Blaenwr

Addasu i lefelau sgiliau 

“Fe ddois i’n ôl at rygbi ar ôl seibiant o 15 mlynedd. Fe es i ymarfer gyda’r ail dîm yng Nghlwb Rygbi Wrecsam ond darganfod ei fod yn ormod, yn rhy fuan. Rydw i’n defnyddio’r tîm cynhwysol fel carreg gamu. Mae pawb wedi bod yn hynod groesawgar, dim cwestiynau am fy nghefndir i – dim ond os ydw i’n mwynhau rygbi ac eisiau chwarae, ac os felly, chwarae. Mae'r Rhinos yn ystyried lefel sgiliau pawb. Mae pawb yn cael hwyl ac yn cael amser da,” Andy Purviss, Ail Reng

Cydweithredu â sefydliadau lleol

“Mae’n syniad da gweithio gyda gwahanol sefydliadau sy’n rhannu eich gwerthoedd chi er mwyn i chi allu cyrraedd mwy o bobl. Fe fu ein tîm ni’n cydweithredu gyda The Counselling Hub i helpu i godi arian ar eu cyfer nhw. Rydyn ni’n awyddus iawn i wella ein hiechyd meddwl drwy ddod at ein gilydd a chwarae rygbi felly roedd yn teimlo fel partneriaeth dda ac roedden ni’n gallu hyrwyddo’r hyn rydyn ni’n ei wneud i bobl newydd,” Stuart Valentine, capten a mewnwr.

Bod yn ymwybodol o’r rhai sydd ddim yn ymuno

“Fel hyfforddwyr, os ydyn ni’n gweld rhywun wrth yr ystlys ddim yn ei lawn hwyl neu ddim yn ymuno, mae un ohonon ni’n mynd draw ar unwaith i weld beth sy’n digwydd, beth allwn ni ei newid ac rydyn ni’n ei sortio ar unwaith.

“Mae gennym ni chwaraewr ifanc ag awtistiaeth. Pan ddechreuodd o gyda ni, roedd yn wyliadwrus o gyffyrddiad corfforol, doedd o ddim yn siarad gyda neb ac roedd yn gwisgo menig lledr i ddal y bêl. Nawr mae yng nghanol pethau, yn chwarae cyswllt llawn, yn sgwrsio â phawb, yn dathlu gyda phawb ac yn dal y bêl. Mae'n berson cwbl wahanol. Mae'n stori o lwyddiant mawr," Tom Robinson, Canolwr (Hyfforddwr Chwaraewr)

Holi eich clwb lleol

“Os ydych chi’n ystyried dechrau tîm LGBTQ+ neu gynhwysol, cysylltwch â’ch clwb lleol ac egluro eich bod eisiau bod yn hygyrch i bawb – mae hynny’n golygu y byddwch chi’n addasu eich hyfforddiant i weddu i bawb a bod y ffocws ar gyfeillgarwch a dealltwriaeth. Hyrwyddwch eich tîm ar gyfryngau cymdeithasol ac egluro eich bod yn croesawu pobl o bob rhywedd a rhywioldeb,” Stevie Harris, sylfaenydd

Os hoffech chi gael mwy o gyngor, cysylltwch â Rhinos Wrecsam ar Facebook neu eu dilyn nhw ar Instagram neu TikTok.

Newyddion Diweddaraf

Academi dartiau’n taro’r targed gyda phobl ifanc

Mae academi dartiau’n boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc wrth i effaith Luke Littler gydio.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan.

Darllen Mwy

Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd

Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried…

Darllen Mwy