Rydyn ni i gyd yn gwybod bod newid hinsawdd yn effeithio ar y ffordd rydyn ni'n byw ac rydyn ni'n teimlo ei effaith mewn chwaraeon hefyd. Yn anffodus, mae caeau dan ddŵr, gwres eithafol ac ansawdd aer gwael yn dod yn fwy cyffredin a dyna pam ei bod yn bwysig ein bod ni’n gwneud yr hyn a allwn ni ar gyfer yr amgylchedd.
Dyma rai awgrymiadau da i helpu eich clwb i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.
1. Dechrau gwneud newidiadau syml i arbed ynni
Os oes gan eich clwb chi ei eiddo ei hun, mae newidiadau cyflym a hawdd y gallwch chi eu gwneud i fod yn fwy ynni-effeithlon a lleihau eich allyriadau carbon.
Mae pethau syml fel troi eich gwres i lawr hicyn, ychwanegu thermostatau at reiddiaduron, atal drafftiau a diffodd cyfarpar yn y soced i gyd yn ein helpu ni i arbed ynni – ac arbed arian!
Gallwch hefyd fod yn ofalus gyda'ch goleuadau, gan newid eich bylbiau golau am rai LED ynni-effeithlon, a gall goleuadau synhwyrydd symudiad mewn ystafelloedd newid, cynteddau a thoiledau fod yn syniad da hefyd. Yn y cyfamser, gall pennau cawodydd eco helpu i arbed ynni a dŵr a chostio cyn lleied â £15.
2. Gwneud eich cyfleusterau yn fwy ynni-effeithlon
Ymunwch â’r nifer cynyddol o glybiau ledled Cymru sy’n newid eu hen lifoleuadau sy’n defnyddio llawer o ynni am lifoleuadau LED modern. A’r newyddion gwych ydi y gall Chwaraeon Cymru eich cefnogi chi gyda hyn drwy Gronfa Cymru Actif.
Neu beth am newid i ynni solar? Yn dibynnu ar eich cyfleuster, gallai gosod paneli solar arbed miloedd oddi ar eich biliau ynni yn y tymor hir a gwneud rhyfeddodau i'r amgylchedd.
Os byddai eich clwb yn elwa o fesurau arbed ynni fel gwell inswleiddio, boeler mwy modern, paneli solar a goleuadau LED, cadwch lygad am fanylion Grantiau Arbed Ynni newydd sbon Chwaraeon Cymru, a fydd yn cael eu lansio ym mis Mai 2023.
3. Teithio mewn ffordd werdd
Mae teithio i hyfforddiant a chystadlaethau i gyd yn ychwanegu at ein hamgylchedd a’r effeithiau arno. Un ffordd o leihau allyriadau tanwydd yw drwy annog aelodau'r clwb i gerdded neu feicio i'ch sesiynau hyfforddi a'ch gemau, pan mae hynny’n bosibl. Neu os oes raid iddyn nhw ddefnyddio car, gallent rannu lifft yn lle gyrru ar eu pen eu hunain. Ar gyfer gemau pell, bydd archebu bws mini yn helpu i leihau eich ôl troed carbon ar y cyd. Efallai y byddwch eisiau ystyried datblygu cynllun teithio gwyrdd hyd yn oed ar gyfer eich clwb, i helpu i annog yr aelodau i leihau eu dibyniaeth ar geir.
4. Lleihau eich gwastraff plastig
Gall newid diwylliant eich clwb o amgylch y defnydd o blastig gael effaith fawr. Mae'n cymryd ychydig o gynllunio ond mae'n bosibl yn sicr.
Beth am roi cynnig ar y camau syml yma:
- Dywedwch hwyl fawr wrth boteli dŵr. Oeddech chi’n gwybod bod 725,000 o boteli plastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd? Maen nhw'n cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu ac yn cyrraedd ein moroedd ni yn y diwedd, gan niweidio bywyd gwyllt. Gwrthodwch werthu dŵr potel a darparu mynediad hawdd at ddŵr yfed yn lle hynny, gan annog pobl i ail-lenwi.
- Cynigiwch ostyngiadau ar ddiodydd poeth i'r rhai sy'n dod â'u cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio eu hunain.
- Os oes angen cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc untro, chwiliwch am rai papur a phren y gellir eu compostio a'u hailddefnyddio.
5. Gwneud eich caeau chwaraeon yn eco-gyfeillgar
Ledled Cymru, mae cannoedd o gaeau pêl droed a rygbi, cyrsiau golff, meysydd criced a lawntiau bowlio. Ac mae angen eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da.
Ond mae gwrtaith cemegol a phlaladdwyr yn creu hafoc, yn llygru'r cyflenwad dŵr lleol ac yn peryglu bywyd gwyllt lleol. Fodd bynnag, mae mwy a mwy o gwmnïau bellach yn cynnig dewisiadau gwyrddach i'ch helpu chi i gynnal caeau chwaraeon organig.
A thra rydych chi wrthi, beth am geisio cynaeafu eich dŵr glaw i helpu gyda dyfrio yn ystod misoedd yr haf a chompostio eich toriadau glaswellt? Yn y tymor tawel, gadewch y glaswellt i dyfu i ddenu bywyd gwyllt.