Main Content CTA Title

CYNLLUNIAU EHANGU MAWR AR DROED AR GYFER CLWB YM MHEN-Y-BONT AR OGWR

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. CYNLLUNIAU EHANGU MAWR AR DROED AR GYFER CLWB YM MHEN-Y-BONT AR OGWR

Efallai bod y dyddiad cau ar gyfer trosglwyddo chwaraewyr wedi mynd heibio, ond mae clwb ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn agos at selio trosglwyddiad cyffrous ei hun a fydd yn cael mwy o bobl ifanc i chwarae pêl droed.

Mae Clwb Bechgyn a Merched Athletig Pencoed wrthi'n cwblhau Trosglwyddiad Ased Cymunedol sy'n golygu y bydd Parc Woodlands, sy'n eiddo cyhoeddus i'r awdurdod lleol ar hyn o bryd, yn trosglwyddo i'r clwb.

Mae'r gofod eisoes yn gartref i ddau gae pêl droed yn ogystal â rhai caeau rygbi. Gyda chefnogaeth grant o fwy na £12,000 o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, bydd y clwb yn gwneud gwaith ailwynebu a draenio ar y safle i greu mannau chwarae ychwanegol.

Mae'n brosiect ehangu mawr a fydd yn golygu bod y clwb yn gallu cynyddu nifer ei garfannau grwpiau oedran a chroesawu mwy o ferched a genethod.

Boys Football Team

 

Yn edrych tua'r dyfodol bob amser, mae'r clwb yn gobeithio y gall wneud cais yn y tymor hir i'w dîm hŷn fynd i fyny i haen tri pêl droed Cymru; symudiad a fyddai'n gofyn am stand a ffensys.

Dyma Lyn Williams o'r clwb i egluro: "Mae'r grant o Gronfa Cymru Actif yn ffactor enfawr yn ein cynlluniau ni a bydd yn gwneud byd o wahaniaeth. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith o Drosglwyddo’r Ased wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror ac y gallwn ni ddechrau gweithio yn y gwanwyn. Rydyn ni eisiau cynnig mwy i'r dref a chael mwy o bobl leol i chwarae.

"Mae chwaraeon wedi bod yn bwysig iawn yn ystod y pandemig. Mae plant wrth eu bodd yn gweld eu ffrindiau a gyda phrotocolau llym yn eu lle gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru, mae wedi bod yn amgylchedd diogel."

Am nawr, mae'r clwb yn aros yn amyneddgar nes bod yr amser yn iawn i bêl droed gael ei chwarae eto, ond mae'n dangos doethineb rhagorol drwy wneud cais am y cyllid sydd ar gael a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor hir.

Daeth yr arian a ddyfarnwyd i Glwb Bechgyn a Merched Athletig Pencoed o elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif, sy'n darparu grantiau rhwng £300 a £50,000 i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19.

Mae elfen 'Diogelu' y gronfa yn parhau ar agor hefyd. Gan feddwl am y cyfyngiadau symud presennol, mae'n bosibl y bydd llawer o glybiau a sefydliadau chwaraeon yn croesawu’r ffrwd gyllido’n fawr iawn unwaith eto. Yn ogystal â bod yn agored i helpu ymgeiswyr newydd i dalu eu costau sefydlog (e.e. rhent, cyfleustodau) tra maent yn delio â cholli refeniw yn ystod y cyfnod hwn, mae'r cyllid hefyd yn agored i unrhyw glybiau sydd wedi derbyn cyllid Diogelu o'r blaen, ar yr amod bod tri mis o leiaf wedi mynd heibio ers eu dyfarniad diwethaf.

Hefyd mae clybiau sydd wedi cael eu heffeithio gan broblemau llifogydd diweddar yn gallu gwneud cais i elfen ‘Diogelu’ y gronfa am gefnogaeth ariannol.

Ers i’r pandemig ddechrau, mae bron i 900 o glybiau a sefydliadau chwaraeon chwaraeon wedi elwa o gyfran o fwy na £2.5m drwy Gronfa Cymru Actif, ac mae mwy ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru ei ddosbarthu diolch i arian gan Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol. 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy