Main Content CTA Title

Cynnydd golff yng nghanol diflastod Covid

“Golf is a good walk ruined” - dyfyniad a briodolwyd weithiau i Mark Twain, ond efallai mai'r realiti yng Nghymru fyddai bod y gamp bellach yn gwella cerdded i lawer o bobl.

Yn ystod y gwahanol gyfnodau clo dros y misoedd diwethaf, mae cerdded wedi bod yn un ymarfer y mae llawer o bobl wedi'i deimlo fel un amhrisiadwy i'r corff a'r ysbryd.

Ond os nad yw cerdded yn teimlo'n ddigon weithiau, gallai golff fod yn ateb i'r rhai sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i bleserau chwaraeon eraill.

Mae'n gamp sy'n ymddangos yn fwy addas na'r rhan fwyaf i fyd cyfyngedig. Wedi'r cyfan, gallwch gyrraedd yn barod i chwarae heb orfod newid, gallwch gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eich partneriaid chwarae, ac eto mwynhau tair i bedair awr o ymarfer sy'n gofyn am ddigon o sgiliau a strategaeth.

 

Nid yw'n fawr o syndod, felly, bod y lefelau aelodaeth mewn clybiau golff wedi dechrau cynyddu yn dilyn cyfnod pan oeddent yn dirywio ledled y DU. 

Dioddefodd golff fel chwaraeon eraill yn nyddiau cynnar y cyfyngiadau symud cenedlaethol gyda chlybiau ar gau am gyfnod estynedig.

Ond gyda rhai chwaraeon eraill yn ei chael yn anodd dychwelyd yn llawn, dywed prif weithredwr Golff Cymru Richard Dixon: "Rydw i'n credu bod hwn yn gyfle enfawr i golff.

"Mae llawer o'r aelodau newydd mae'r clybiau golff yn eu cael yn dod o glybiau chwaraeon lleol eraill sydd ar gau am y dyfodol rhagweladwy. 

"Mae pobl eisiau bodloni’r dyhead yna i gystadlu ac eisiau bod yn gwneud rhywbeth - a golff yw un o'r ychydig bethau maen nhw’n gallu ei wneud.

"Yn realistig, efallai na fydd chwaraeon cyswllt ar lawr gwlad yn ôl am flwyddyn arall.

"Rydyn ni'n ceisio gweithio gyda chlybiau ar ffordd o ddal gafael ar y bobl newydd yma fel aelodau, hyd yn oed os yw hynny dim ond er mwyn cynnal eu diddordeb nhw tan ar ôl i'w dyddiau chwarae yn eu prif chwaraeon ddod i ben.

"Mae llawer o glybiau golff ledled Cymru wedi gweld cynnydd mewn aelodaeth, yn rhannol am fod llai o chwaraeon eraill yn cael eu cynnal ac yn rhannol am fod golff nomadig wedi bod yn anoddach. 

"Yr amcangyfrifon cyn Covid oedd bod tua hanner y bobl oedd yn chwarae golff yn aelodau o glybiau, felly roedd bob amser y grŵp hwnnw o ddarpar aelodau yn yr hanner arall.

"Ond rhaid i ni beidio â barnu nes bod pethau'n mynd yn ôl i normalrwydd."

Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, roedd llawer o gyrsiau golff ar gau ac roedd rhai clybiau yng Nghymru mewn trafferthion ariannol.

 

Mae golff bob amser wedi bod yn gamp gymdeithasol bwysig i lawer o bobl gyda phedwar y cant o'r boblogaeth o oedolion yn chwarae i ryw raddau neu'i gilydd.

Ond lluniodd y gamp gynllun ariannol effeithiol i sicrhau y gallai clybiau oroesi a hyd yn oed ffynnu ar ôl eu hailagor.

"Fe hoffwn i feddwl ein bod ni wedi gweithredu'n eithaf cyflym pan gyhoeddwyd cyfyngiadau symud gwreiddiol Covid nôl ym mis Mawrth," meddai Dixon.

"Fe wnaethon ni sefydlu ein pwyllgor ein hunain a'i alw'n bwyllgor COBRA, gan ladrata’r term gan lywodraeth San Steffan.

"Roedd yn cynnwys y cadeirydd, fi ac un neu ddau o bobl eraill sy’n allweddol i’r penderfyniadau, yn hytrach na'i wneud ar lefel bwrdd a fyddai wedi cynnwys dwywaith cymaint o bobl.

"Fe wnaethon ni benderfynu peidio â rhoi gormod o staff ar ffyrlo oherwydd roedden ni’n gwybod y byddai angen cryn dipyn o help ar ein 142 o glybiau i'w cael nhw drwy’r cyfnod ac i gael gafael ar grantiau.

"Fe wnaethon ni gadw ein holl brif staff a dim ond rhoi dau ar ffyrlo yn y pen draw, ond roedd pawb arall yn parhau i gynnig cefnogaeth i'r clybiau i gyd. Fe brofodd hwnnw'n benderfyniad da iawn.

"Fe gymerodd yr uwch reolwyr i gyd doriad cyflog gwirfoddol o 20% am bedwar mis a’i adfer ym mis Awst.

"Roedd yn cyd-daro â thanysgrifiadau'r clybiau ar gyfer y flwyddyn nesaf felly fe wnaethon ni rewi'r rheini am bum mis hefyd.

"Fe gostiodd hynny tua £220k i ni o'n cronfeydd wrth gefn, felly roedden ni’n meddwl bod rhaid i ni gefnogi clybiau oherwydd byddai llawer ohonyn nhw wedi cael eu gadael mewn sefyllfa eithaf amheus gyda phopeth a oedd yn digwydd. Roedd y gweddill yn helpu ac yn cefnogi clybiau."

Ac, yn ôl Golff Cymru, mae’r aelodaeth a’r cyfranogiad yn parhau i gynyddu.   

Mae Golff Cymru yn awyddus i gynnal y momentwm ac meddai Dixon: "Rydych chi'n gweld llawer mwy o deuluoedd a merched yn chwarae golff y dyddiau hyn nag oeddech chi yn y gorffennol.

"Dylai merched deimlo yr un mor gyfforddus â dynion yn chwarae golff, ac rydyn ni am wneud y gamp mor hygyrch â phosib i bawb.

"Does gan neb bêl grisial a dydyn ni ddim yn gwybod sut bydd y pandemig yma’n datblygu o ran chwaraeon ar lawr gwlad.

“Ond rydw i’n dawel hyderus y gall golff ffynnu yng Nghymru wrth i ni symud ymlaen.”

Stori gan Dai Sport.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy