“Gyda phêl droed, doeddwn i ddim wir yn teimlo ’mod i’n mynd i unrhyw le. Roeddwn i’n un o’r rhai yn y cefndir, ond mewn rygbi, roedd pobl yn canmol y ffordd roeddwn i’n chwarae yn fuan iawn ac roeddwn i’n teimlo mai dyma oeddwn i eisiau ei wneud.
“Roedd fy nhad i’n gôl-geidwad hefyd, ond nawr mae’n mwynhau fy ngwylio i’n chwarae rygbi.
“Mae rhai o’r merched wnes i chwarae pêl droed gyda nhw wedi mynd ymlaen i fod yn aelodau o garfan hŷn Cymru, sy’n braf i’w weld. Ond rydw i’n gwybod ’mod i wedi gwneud y dewis iawn.”
Cafodd Crabb ei magu yn Ynystawe ger Abertawe a bu yn Ysgol Gynradd Ynystawe cyn mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Treforys. Dechreuodd ei gyrfa rygbi yn Academi Llandarsi, cyn mynd ymlaen i brifysgol Met Caerdydd, lle mae’n astudio ar hyn o bryd i fod yn hyfforddwr cryfder a chyflyru.
Chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf yr adeg yma y flwyddyn ddiwethaf yn erbyn Hong Kong, ar ôl brwydro’n ôl wedi blwyddyn allan gydag anaf difrifol i’w phen-glin.
Mae wedi cymryd rhan mewn un ymgyrch Chwe Gwlad eisoes, ond gallai’r gêm yn erbyn y Barbariaid fod yn rhywbeth arbennig iawn i’r garfan gyfan oherwydd mae’n codi’r llen cyn gêm y dynion rhwng yr un timau.
Dim ond unwaith o’r blaen mae merched Cymru wedi gwneud hyn, ond nid gyda chyn lleied o amser newid drosodd, gyda dim ond rhyw awr rhwng y ddwy gêm.
Gyda chefnogwyr yn cael eu hannog i ddod i’r stadiwm yn gynnar am resymau diogelwch, mae hynny’n golygu y gallai merched Cymru ddenu torf fwy nag erioed, a mwy na’u record o 11,062 ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal yn 2018.
Ychwanegodd Crabb: “Ry’n ni’n gobeithio am dorf fawr iawn ac mae hwn yn gyfle gwych i gêm y merched. Hon fydd y dorf fwyaf i mi chwarae o’i blaen yn sicr.
“I ni, gallai hwn fod y cipolwg cyntaf ar y dyfodol proffesiynol ar gyfer gêm y merched, sy’n rhywbeth rydw i wir eisiau bod yn rhan ohono.
“Ym Madrid yn erbyn Sbaen, roedd torf dda a’r gwahaniaeth mwyaf mae’n ei wneud yw’r sŵn anhygoel. Pan mae rhywun yn torri, rydych chi’n cael eich taro gan y sŵn mawr yma, ac mae hynny’n grêt.”
Fe gollodd Cymru y gêm honno yn erbyn y Sbaenwyr, ond mae’r tîm wedi adfer mewn ffordd nodedig iawn yn ystod yr hydref i drechu Iwerddon a’r Alban oddi cartref, ynghyd â thrydedd buddugoliaeth yn erbyn y tîm gwahoddiad dethol, y Crawshays.
I Crabb, mae’r cyfle am fuddugoliaeth arall wrth i Gymru adeiladu tuag at y Chwe Gwlad yn 2020 yn gyfle i symud ymlaen ymhellach tuag at ei harwyr rygbi – Sarah Hunter, un o sêr gêm y merched yn Lloegr, a chapten dynion Cymru, Alun Wyn Jones.
Mae dau fodel rôl iddi’n chwaraewyr proffesiynol llawn amser, rhywbeth nad yw gêm y merched yng Nghymru’n ei gynnig eto.
Meddai Crabb wedyn: “Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael chwarae yn erbyn Sarah Hunter yn y Chwe Gwlad, ac roedd yn teimlo’n eithaf anhygoel. Yn sydyn, roedd rhywun roeddwn i wedi’i hedmygu erioed yn elyn mawr i mi nawr.
“Ond roedd yn gymhelliant mawr i mi. Rydw i eisiau bod y gorau y galla’ i fod a does gen i ddim bwriad stopio nes ’mod i’r gorau. Dyna sut rydw i’n gweld pethau.
“Alun Wyn Jones yw fy arwr mawr arall i. Rydw i wir yn hoffi’r ffordd mae’n cyflwyno’i hun ar y cae. Mae mor ddigynnwrf bob amser, ond yn gwneud y sylfeini i gyd yn iawn.
“’Dyw e ddim bob amser yn amlwg iawn, ond mae wastad yn gwneud ei waith yn y cefndir, beth bynnag arall sy’n digwydd. Mae bob amser yno i’r chwaraewyr eraill, sy’n beth mawr.
“Mae wedi bod yn gapten gwych i Gymru, sy’n rhywbeth arall rydw i’n ceisio anelu ato, felly ’dyw e ddim yn syndod ei fod e’n arwr i mi.”