Er gwaethaf gwelliannau sylweddol, mae bron i filiwn o oedolion yng Nghymru nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol rheolaidd.
Yn ôl ‘Chwaraeon a Ffyrdd Actif o Fyw: Adroddiad Cyflwr y Genedl 2022-23’ a gyhoeddwyd heddiw gan Chwaraeon Cymru, dywedodd 40% o oedolion yng Nghymru (998,000 o bobl) nad oeddent wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol* yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Mae’r data, a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23**, hefyd yn dangos er bod y bwlch yn cau, mae lefelau cyfranogiad yn dal yn is na’r cyfartaledd ar gyfer menywod, oedolion anabl a’r rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol***.
Ond canfu’r arolwg fod lefelau gweithgarwch yn gyffredinol uwch eleni nag oeddent y llynedd, ac roedd 39% o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Canfu’r arolwg hefyd fod oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn well, eu bod yn teimlo’n llai unig, bod ganddynt fwy o foddhad mewn bywyd a’u bod yn hapusach.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi sector chwaraeon Cymru i wneud defnydd da o’r canlyniadau, a’r mewnwelediad arall sydd ar gael, i’w helpu i barhau i leihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn cyfranogiad chwaraeon ledled Cymru.
Mae’r corff cyhoeddus hefyd yn annog y rheini mewn sectorau eraill, megis iechyd, i edrych ar sut y gellir defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i gefnogi eu ffyrdd o weithio.
Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni wedi gweld gwelliannau eleni o ran nifer yr oedolion sy’n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, ond mae cyfran fawr o’r cyhoedd yng Nghymru nad ydynt yn actif o hyd.
“Am lawer o wahanol resymau, mae yna nifer sylweddol o bobl nad ydyn nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol o gwbl, tra bod eraill naill ai'n dewis, neu'n cael eu gadael heb unrhyw opsiwn ond rhoi'r gorau i chwaraeon oherwydd nad yw'r profiad yn addas iddyn nhw. Mae hynny’n drist iawn ac mae’n peri pryder i iechyd a hapusrwydd hirdymor y genedl.
“Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw y gall pawb gael mwynhad gydol oes o chwaraeon.Er mwyn cyflawni’r uchelgais hwnnw, bydd angen i ni gyda’n gilydd sicrhau bod chwaraeon Cymru yn ddiogel, yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy.
“Gall chwaraeon gael effaith ddofn ar les cyffredinol y genedl, felly mae’n rhaid i ni edrych ar sut rydyn ni'n manteisio i’r eithaf ar yr effaith honno ar draws cymdeithas.”
Canfu'r arolwg hefyd fod lefelau gweithgarwch yn disgyn yn gyffredinol wrth i bobl fynd yn hŷn. Cymerodd dros 80% o bobl 16-24 oed ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, ond roedd llai na 60% o bobl 55-64 oed wedi gwneud hynny.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r cynnydd mwyaf mewn lefelau gweithgarwch wedi’i ganfod ymhlith y grŵp oedran 16 i 24 oed lle mae 29,000 o bobl ychwanegol bellach yn cymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol bob wythnos o’i gymharu â’r llynedd.
Mae bwlch amlwg o hyd (8 pwynt canran) rhwng canran y merched sy’n ymarfer corff yn rheolaidd a chanran y dynion, er bod y bwlch hwnnw wedi cau 1 pwynt canran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gwahaniaeth o 11 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o’i gymharu â’r rhai sy’n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru.
Fodd bynnag, cymerodd 86,000 yn fwy o oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol ran yn 2022-23 o’i gymharu â 2021-22, sy’n golygu bod y bwlch cyfranogiad rhwng y rhai mewn amddifadedd materol, a’r rhai nad ydynt, wedi lleihau o wahaniaeth pwynt canran o 21, i 14 pwynt canran.
Parhaodd Owen: “Mae’n gadarnhaol gweld bod rhai o’r bylchau cyfranogiad ymhlith rhai grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol wedi cau ychydig, ond mae’n amlwg bod llawer iawn o waith i’w wneud i ddarparu opsiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n addas i anghenion pawb.
“Mae canlyniadau’r arolwg yn dweud wrthym yr hoffai 685,000 o oedolion yng Nghymru gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gwyddom hefyd fod 183,000 o’r rheini’n dod o’r grŵp nad ydynt yn gwneud unrhyw beth actif yn rheolaidd ar hyn o bryd. Felly, mae galw mawr gan bobl sydd naill ai eisiau bod yn gwneud mwy o ymarfer corff, neu sydd eisiau dechrau arni.”
Gall clybiau a sefydliadau chwaraeon llawr gwlad chwarae eu rhan i helpu i wneud chwaraeon yn fwy cynhwysol i bawb drwy wneud cais am gyllid gan Chwaraeon Cymru. Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig arian loteri rhwng £300 a £50,000 i helpu i brynu offer chwaraeon, talu am gyrsiau hyfforddi a mwy.
*Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ystyried chwaraeon neu weithgaredd corfforol naill ai fel Gweithgaredd Ffitrwydd (ymarfer corff yn y cartref, ymweld â champfa, dosbarth ffitrwydd, cerdded dros 2 filltir, beicio, nofio, loncian ac ati) neu Chwaraeon a Gemau (pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, hoci, chwaraeon raced, athletau, golff ac ati) neu Weithgareddau Awyr Agored (marchogaeth, dringo, chwaraeon dŵr ac ati).
Yn ystod 2022-23, cymerodd 56% o oedolion yng Nghymru ran mewn o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, cymerodd 16% ran mewn o leiaf un ‘Chwaraeon a Gemau’, a chymerodd 6% ran mewn o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos flaenorol. (Nodyn: Gallai oedolion adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lluosog).
** Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg sampl ar raddfa fawr o gartrefi o tua 12,000 o oedolion (16 oed a hŷn) sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau. Mae’n rhedeg drwy'r flwyddyn, ar draws Cymru gyfan. Cynhelir Arolwg Cenedlaethol Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’i gydgysylltu gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
***Mae amddifadedd materol yn fesur sydd wedi’i gynllunio i gyfleu canlyniadau tlodi hirdymor ar aelwydydd.