Skip to main content

Dau dîm cenedlaethol Cymru sy'n anelu at ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dau dîm cenedlaethol Cymru sy'n anelu at ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwaraeon menywod yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth mewn penwythnos hollbwysig mewn hanes. 

Mae timau pêl-droed a rygbi cenedlaethol y menywod yn ceisio manteisio ar y don o gefnogaeth mewn mis cyffrous i gadarnhau newid anferthol o ran diddordeb, gweithredaeth ac apêl fasnachol.

Nos Wener, bydd Cymru'n croesawu Ffrainc ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, gyda'r gobaith o gymryd cam enfawr ymlaen tuag at gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd i Fenywod FIFA.

Mae'n ymddangos yn anochel y byddwn yn gweld y dorf uchaf erioed ar gyfer gêm i fenywod yng Nghymru gyda bron i 5,000 o docynnau eisoes wedi'u gwerthu.

Ddydd Sadwrn, tro'r tîm rygbi yw hi i gael sylw. Maen nhw'n wynebu Lloegr yn Kingsholm yng Nghaerloyw, lle byddai buddugoliaeth yn sicrhau Coron Driphlyg y Chwe Gwlad iddynt.

Mae dros 14,000 o docynnau eisoes wedi'u gwerthu ac mae'r gêm yn fyw ar deledu’r BBC – prawf, pe bai ei angen, fod chwaraeon menywod bellach yn creu ei refeniw masnachol ei hun o ddarlledu a nawdd.

Mae'r hen ddadleuon a honnwyd gan rai – nad oedd chwaraeon menywod ar y lefel uchaf yn hyfyw yn ariannol, neu na allent gynnig gyrfaoedd proffesiynol – yn cael eu gwrthbrofi gan ddiddordeb cynyddol.

Mae'r rhan fwyaf o dîm pêl-droed Cymru – sêr fel Jess Fishlock a Sophie Ingle - wedi bod yn chwarae pêl-droed proffesiynol dros y blynyddoedd diwethaf, yn Uwch Gynghrair y Merched yn ogystal â ledled y byd.

Yn ddiweddar, rhoddodd Undeb Rygbi Cymru ei 12 contract proffesiynol cyntaf i dîm y merched ym mis Ionawr.

Ers y symudiad hanesyddol hwn, mae rygbi merched wedi gwella gyda buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a'r Alban yn y Chwe Gwlad yn profi'r hyn y gall y tîm ei wneud gyda chyllid priodol. 

Mae'r holl sylw bellach ar y ddau dîm gyda diddordeb ymysg y cyhoedd yng Nghymru a byddant yn gobeithio perfformio'n dda yn erbyn dau o'r timau gorau yn y byd yn eu campau. 

Mae chwaraeon menywod yn tyfu yng Nghymru ac mae'r ddau dîm bellach yn torri cofnodion presenoldeb yn rheolaidd.

Mae tîm pêl-droed Gemma Grainger yn gobeithio cymhwyso ar gyfer eu Cwpan y Byd cyntaf, ond mae tasg anodd o'u blaenau i orffen ar frig eu grŵp.   

Maen nhw bum pwynt y tu ôl i Ffrainc, arweinwyr y grŵp, ond byddai pwynt nos Wener yn eu rhoi dri phwynt ar y blaen i Slofenia yn yr ail safle, gan eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer gêm ail-gyfle ar gyfer Cwpan y Byd.

Gemma Grainger yn gwenu wrth hyfforddi merched ysgol
Mae Gemma Grainger yn hyfforddi merched ifanc. Llun: FAW
Mae'n un o'r pethau mwyaf positif i ni - y twf yn y dorf. Mae bod yn siarad am dros 4,000, bron i 5,000 o bosib, o gefnogwyr yn wych.
Gemma Grainger

Mae Grainger, y prif hyfforddwr, yn falch o’r diddordeb cynyddol yn ei thîm ac mae'n dweud: "Mae'n un o'r pethau mwyaf positif i ni - y twf yn y dorf.

“Mae bod yn siarad am dros 4,000, bron i 5,000 o bosib, o gefnogwyr yn wych.

“Mae'n golygu llawer, ond mae'n rhaid i ni berfformio, yna gobeithio y bydd y canlyniad yn ddigon. Rydyn ni'n sôn am chwarae yn erbyn y tîm gorau yn y byd yma. 

“Ond byddwn yn cystadlu o'r chwiban gyntaf un tan yr olaf un.” 

Meddai Ingle, y capten: "Mae'n dangos pan fydd pobl yn gwneud ymdrech, edrychwch beth y gellir ei gyflawni. 

"O ran tîm rygbi'r merched, rwy'n gwybod mai dim ond 12 chwaraewr sydd wedi mynd yn broffesiynol, ond edrychwch pa mor dda maen nhw'n ei wneud yn y Chwe Gwlad. Mae hynny oherwydd bod rhywun wedi eu cefnogi o'r diwedd.

"Gobeithio dros yr ychydig flynyddoedd nesaf y bydd pethau hyd yn oed yn well. Mae’r un fath yn wir amdanom ni.”

Ar ôl curo Iwerddon a'r Alban, mae gan chwaraewyr rygbi Cymru gyfle i ennill y Goron Driphlyg am yr eildro yn unig.

Lloegr yw'r wlad sy’n rhif 1 drwy’r byd, ond yn dilyn dwy fuddugoliaeth ar ôl bod yn colli ar ddechrau'r gystadleuaeth, bydd Cymru'n hyderus y gall ddod o hyd i'r fuddugoliaeth yn erbyn ei gelynion am y tro cyntaf ers 2015.

Meddai Ioan Cunningham, y prif hyfforddwr: "Mae'n gyfle i fynd amdani a mynegi ein hunain o flaen torf fawr a dangos ein talent.

"Mae'r dilyniant wedi bod yn dda iawn. Mae’n braf iawn ei weld. Mae'r rhaglen wedi dangos y gall weithio'n dda iawn. Mae'n gyffrous iawn lle gall gyrraedd.”

Mae Siwan Lillicrap, capten rygbi Cymru, wedi cael ei llorio gan y gefnogaeth y mae'r tîm wedi'i chael yn ddiweddar. 

"Dydw i erioed wedi profi unrhyw beth tebyg iddo," meddai.

"Mae'n teimlo fel ein bod wedi gwneud cylchdro llawn ers 12 mis yn ôl. O fod wedi cael cryn dipyn o sylwadau negyddol yn y wasg a phobl ddim yn siarad yn bositif iawn am ein gêm - i nawr, lle mae pawb yn siarad yn bositif iawn am gêm y merched.

“Mae'n ymwneud â dod i gefnogi Cymru i chwarae rygbi. Mae pawb i weld yn gwneud hynny ac erbyn hyn rydyn ni wedi gweld dwy gêm wych, mae pawb y tu ôl i ni.

“Pan gyrhaeddais adref o gêm Iwerddon, fe wnes i fynd i'r siop i brynu llaeth a'r person cyntaf i mi ei weld oedd gŵr bonheddig a'i ferch, sy'n chwarae.

“Dywedodd y ddau ohonyn nhw 'Da iawn, fe wnaethon ni eich gwylio chi ddoe ac roedden ni wrth ein boddau!’

"Ym mhob man rydyn ni'n mynd nawr, dyna'r math o adborth a negeseuon cadarnhaol rydyn ni'n eu cael.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy