Cafodd athletwyr, hyfforddwyr, clybiau a gwirfoddolwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol sydd wedi cael effaith yn eu cymunedau drwy chwaraeon eu dathlu yng Ngwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig cyntaf Cymru (WEDSA) ym mis Rhagfyr.
Yn ddigwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru, lansiodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) y gwobrau i greu cyfle i’r unigolion ysbrydoledig hyn gael eu cydnabod.
Gweledigaeth Rajma Begum, y Rheolwr Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol yn WCVA, oedd y gwobrau. Dywedodd: “Mae gwobrau WEDSA yn ddigwyddiad unigryw ac effeithiol sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol athletwyr, hyfforddwyr, clybiau, grwpiau cymunedol a chyfranwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol sydd wedi cymryd camau mawr yn y sector chwaraeon yng Nghymru.
“Mae’r gwobrau’n llwyfan sy’n rhoi sylw mawr i’r unigolion a’r grwpiau cymunedol hyn, gan roi cyfle iddyn nhw fod yn ffigurau ysbrydoledig a modelau rôl o fewn eu cymunedau.”
Yma, rydyn ni'n tynnu sylw at ddau o'r enillwyr hynny sydd ar gamau gwahanol iawn ar eu siwrneiau - Steve Khaireh ac Eleeza Khan.