Roedd Nia Holt yn meddwl ei bod wedi gadael ei dyddiau rasio ar feic y tu cefn iddi.
Ond ar ôl seibiant o 10 mlynedd, a oedd yn cynnwys magu teulu, mae hi ar fin cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad flwyddyn yn unig ar ôl mynd yn ôl ar gefn y beic.
I Nia, mae hynny'n golygu jyglo ei hamser rhwng hyfforddi a threulio amser gyda'i theulu ifanc.
Ond ar ôl bod i ffwrdd cyhyd o'r gweithgaredd roedd hi mor hoff ohono, mae'r ferch 28 oed wrth ei bodd ei bod wedi dod o hyd i le yn ei bywyd eto i chwaraeon.
Dechreuodd Holt, a aned yn Sir Gaerfyrddin, feicio o oedran cynnar, cyn ymuno â Chlwb Beicwyr Tywi yng Nghaerfyrddin pan oedd yn 13 oed.
Yn y felodrom enwog ym Mharc Caerfyrddin y syrthiodd Holt mewn cariad â'r gamp.
Yn 17 oed, dechreuodd ei golwg ddirywio. Yn ffodus, daeth o hyd i raglen anabledd yng Nghasnewydd.
Yn nes ymlaen, rhoddodd y beic i gadw a dechrau teulu gyda'i phartner, Adam Holt.
Mae’r teulu hwnnw wedi gwirioni ar feicio, felly nid oedd yn syndod i lawer iddi ddychwelyd i rasio. Ond sioc i ambell un, efallai, ei bod hi wedi sicrhau lle mor gyflym yng ngharfan Tîm Cymru ar gyfer y para-feicio yn Birmingham.
Bydd Holt yn cystadlu yn y gystadleuaeth Tandem B gyda’r peilot Amy Cole.
“Roeddwn i wedi gadael y beic i ryw raddau,” meddai.
“Fe wnes i feichiogi ac mae’n debyg ei fod yn un o’r pethau hynny lle wnes i ddweud wrtha’ i fy hun, mae’n debyg nad ydw i’n mynd i fynd yn ôl ar y beic nawr.
“Ond eto, dyma fi heddiw. Fe wnaethon ni fagu ein plant, a rhoi cynnig ar y bennod honno. Roeddwn i wedi colli mwy o olwg bryd hynny, ac roeddwn i'n meddwl beth oeddwn i'n mynd i'w wneud i mi fy hun.
“Roedd yn anodd i ddechrau oherwydd doeddwn i ddim yn ffit. Ond fe neidiais i yn ôl ar y beic, ac fe ddaeth y cyfan yn ôl i mi.
“Roeddwn i wir yn mwynhau bod yn ôl ar y beic a chael hwyl. Wedyn, yn sydyn, fe sylweddolais i bod gen i gyfle i fynd i Gemau’r Gymanwlad, felly fe wnes i feddwl, ‘beth am fynd amdani!’”
“Mae wedi bod yn anodd jyglo bywyd teuluol gyda hyfforddiant. Mae fy ngŵr i, Adam, wedi cael swydd yn ddiweddar gyda Beicio Cymru hefyd fel newyddiadurwr, felly mae e’n brysur iawn hefyd.”
Holt fyddai’r person cyntaf i ddweud wrthych chi nad oedd hi’n disgwyl cystadlu mewn twrnamaint mawr fel Gemau’r Gymanwlad flwyddyn neu ddwy yn ôl.
A hithau ond wedi ailddechrau beicio flwyddyn yn ôl, mae hi wedi cyflawni llawer iawn.
Er ei bod hi wedi herio rhai disgwyliadau o ran cyrraedd y sefyllfa yma, mae hi'n canolbwyntio ar fod yn yr achlysur a mwynhau ei hun.