Bydd pen blwydd rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn ddeg oed yn cael ei nodi mewn digwyddiad arbennig yr wythnos nesaf sydd wedi'i drefnu gan Chwaraeon Cymru a'r elusen blant, yr Youth Sport Trust.
Nod rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yw grymuso pobl ifanc fel modelau rôl ysbrydoledig fel eu bod yn gallu annog eu cyfoedion segur i fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae'n faes gwaith allweddol i'r Youth Sport Trust yng Nghymru gyda'r elusen yn cefnogi datblygiad sgiliau a hyder pobl ifanc.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae sgwad gwych o tua 20,000 o Lysgenhadon Ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen ac mae miloedd yn rhagor wedi cael eu hysbrydoli ganddynt i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ddechrau gwirfoddoli.
Mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau ledled Cymru, gellir gweld y Llysgenhadon Ifanc bob wythnos yn arwain sesiynau chwaraeon, yn hyfforddi disgyblion iau, yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau, yn dyfarnu mewn gemau ac, yn gyffredinol, yn annog eraill i hoffi chwaraeon gymaint â hwy.
Ar hyn o bryd mae tua 4,000 o Lysgenhadon Ifanc gweithredol ledled Cymru, yn amrywio o Lysgenhadon Ifanc Efydd mewn ysgolion cynradd i Lysgenhadon Ifanc Arian, Aur a Phlatinwm mewn ysgolion uwchradd, colegau, prifysgolion ac yn y gymuned.
Mewn arolwg ar Lysgenhadon Ifanc Cymru y llynedd, dywedodd 96% ohonynt bod y rhaglen wedi rhoi mwy o hyder iddynt, ac roedd 98% yn teimlo ei bod wedi gwella eu sgiliau arwain.
Bydd cyflawniadau'r rhaglen yn ystod y degawd diwethaf yn cael eu dathlu yn 10fed Cynhadledd Genedlaethol y Llysgenhadon Ifanc Aur sy'n cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener 8 Tachwedd.