Gall Clybiau Chwaraeon yng Nghymru wneud cais nawr am ddiffibriliwr am ddim gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Save a Life Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dosbarthu tua 500 o ddiffibrilwyr am ddim i glybiau chwaraeon a chymunedau ledled Cymru diolch i £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod haf 2021, cafodd chwaraeon Cymru eu siglo gan farwolaethau dau chwaraewr yn dilyn ataliadau ar y galon ar gaeau cymunedol.
Dioddefodd y cricedwr Maqsood Anwar drawiad angheuol ar y galon wrth chwarae i Sully Centurions, gyda’r drasiedi’n cael ei hailadrodd ychydig wythnosau’n ddiweddarach yng Nghlwb Rygbi Cwmllynfell pan ddioddefodd Alex Evans yr un dynged.
Heb ddiffibriliwr yng nghanolfan bêl-droed 5-bob-ochr Gôl, efallai na fyddai Kevin Martin wedi bod mor ffodus. Arbedwyd ei fywyddiolch i ddiffibriliwr cyfagos.
Nod y cynllun yw gwella mynediad cymunedol at ddiffibrilwyr a hybu cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru.
Bydd diffibrilwyr yn cael eu neilltuo i alluogi mynediad at ddiffibrilwyr sydd wedi'u lleoli yn strategol ar adeiladau cymunedol neu feysydd chwaraeon a fydd yn sicrhau'r budd mwyaf mewn cymunedau.
Ydw i’n gymwys am ddiffibriliwr am ddim?
Bydd diffibriliwr (os bydd y niferoedd yn caniatáu) yn cael ei neilltuo i glwb chwaraeon / cymuned unwaith y gallant gadarnhau eu bod wedi gwneud y canlynol:
- nodi gyda rhesymeg y lle gorau i leoli diffibriliwr (nid oes diffibriliwr o fewn 500m i'r safle arfaethedig ar hyn o bryd)
- prynu neu godi arian ar gyfer cabinet diffibriliwr wedi'i gynhesu a’i fod wedi'i osod ar wal allanol mewn ardal sy'n hygyrch 24/7
- bod â chyflenwad trydan fel bod y diffibriliwr yn cael ei gynnal ar y tymheredd cywir, er mwyn atal y batri a'r padiau rhag dirywio
- sicrhau y bydd y diffibriliwr ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio 24/7
- cofrestru'r diffibriliwr ar gronfa ddata’r Gylched
- penodi gwarcheidwad diffibriliwr (i'w gynnal a'i gadw'n rheolaidd)
- penodi gwarcheidwad wrth gefn i lenwi dros absenoldeb
- sicrhau eu bod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â'r sefydliad / grŵp ar sgiliau CPR / diffibrilio