Skip to main content

Diwrnod Coffi Rhyngwladol – Sut mae coffi yn rhoi hwb i'r byd beicio yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diwrnod Coffi Rhyngwladol – Sut mae coffi yn rhoi hwb i'r byd beicio yng Nghymru

Mae beicwyr yn gwybod ers tro am bŵer coffi i roi’r hwb ychwanegol hwnnw, ond gall manteision paned neu ddwy gyda ffrindiau roi hwb pwerus mewn ffyrdd eraill.

Mae’r caffis ffyniannus ar gyfer beicwyr ledled Cymru a gweddill y DU yn ymwneud cymaint â’r manteision iechyd meddwl sydd i’w cael o sgwrsio ag eraill ag y maent â ffitrwydd corfforol.

Mae Hydref 1 yn Ddiwrnod Coffi Rhyngwladol, pan fydd coffi’n cael ei ddathlu ledled y byd, a bydd yn esgus gwych i feicwyr ddod at ei gilydd.

“Pan rydych chi’n dod oddi ar y beic rydych chi’n teimlo’n anhygoel, ac wedyn does dim byd gwell na sgwrsio gyda’ch ffrindiau mewn caffi,” meddai’r beiciwr proffesiynol o Gymru, Gruff Lewis.

“Ond mae adegau eraill pan nad yw pobl yn teimlo mor wych. Felly, mae’n dda cael y cyfle hwnnw i gwrdd o bryd i’w gilydd a siarad â ffrindiau.”

Roedd Gruff – a feiciodd drwy ei dref enedigol, Aberystwyth, y llynedd yn ystod y Tour of Britain – yn rhedeg Caffi Gruff yn Nhalybont nes i Covid daro.

Bikelock cafe owner Tom Overton with a new coffee machine

 

Wedyn, trawsnewidiodd ei fusnes i ganolbwyntio mwy ar atgyweirio a gwerthu beiciau, rhywbeth yr oedd hefyd wedi'i wneud wrth redeg y caffi.

Y dyddiau hyn, prif ffocws Gruff yw cystadlu, felly siop apwyntiad yn unig yw’r siop feiciau, ond fel mae’n pwysleisio, “mae’r peiriant coffi yn ei le o hyd ac mae bob amser ymlaen i rywun sydd eisiau paned.

“Mae beicio yn gamp gymdeithasol. Rydyn ni’n hoffi dod at ein gilydd ac mae bob amser yn syniad gwych i drefnu teithiau grŵp, sy’n aml yn golygu y gallwch chi hefyd eistedd i lawr gyda ffrindiau wedyn a siarad am unrhyw beth a phopeth dros baned.”

Mae manteision cymdeithasol beicio wedi golygu bod beicio grŵp wedi ffynnu ymhlith clybiau ledled Cymru, ond nid dim ond dynion canol oed mewn lycra sy’n dyheu am rywle i eistedd, yfed coffi a gollwng stêm gyda’u ffrindiau.

Mae hwn yn bwynt y mae Tom Overton yn awyddus i’w bwysleisio, wrth iddo baratoi i agor The Bike Lock, caffi newydd a lleoliad storio beiciau sydd ar fin lansio yng Nghaerdydd.

Nid lycra, beiciau rasio drud a barfau hipster yw popeth. Mae’n ymwneud ag annog a chefnogi unrhyw un sydd eisiau mynd ar gefn beic yn amlach, i gyrraedd y gwaith, i siopa, neu i gwrdd â ffrindiau am sgwrs.

“Mae syniad bod beicwyr i gyd yn ddynion canol oed mewn lycra, ond rydw i eisiau denu pawb ar gefn beic,” meddai Tom, beiciwr brwd sydd â chenhadaeth i ehangu mynediad i feicio fel gweithgaredd i bawb.

“Rydw i eisiau normaleiddio beicio, fel yn Ewrop, fel y ffordd y mae rhywun yn symud o gwmpas y lle. Rydw i eisiau i hynny fod yn brofiad hwylus i bobl Cymru.”

Mae The Bike Lock yn fenter gymdeithasol a fydd yn cynnig storfa ddiogel ar gyfer hyd at 50 o feiciau, mannau gwefru beiciau trydan, cawodydd, gofod gwaith, a choffi o’r radd flaenaf wedi’i rostio’n lleol.

“Pan rydych chi ar gefn beic, mae gennych chi amser ar gyfer sgyrsiau anffurfiol gyda phobl eraill. Ond mae stopio am goffi a chael dal i fyny yn rhan o hynny,” meddai Tom.

“Yn ystod Covid, roedd yn rhyddhad oherwydd roedd pethau’n anodd i bawb ac rydw i’n meddwl bod y teimlad hwnnw o elwa o drafod pethau gyda ffrindiau wedi parhau. 

“Fy mreuddwyd i yw y bydd The Bike Lock yn cynnig teimlad o dafarn leol, ond bod pobl yn gallu cadw’n iach drwy ddefnyddio beic, gweld ffrindiau a chael sgwrs ar ddiwedd y dydd. Nid dim ond mater o ddod i mewn a chael coffi yw hyn, ac wedyn rhuthro i ffwrdd.”

Ond nid dim ond beicwyr fydd yn lapswchan eu lattes, yn estyn am eu espressos ac yn mwynhau eu mocha cortados ar y Diwrnod Coffi Rhyngwladol.

Mae aelodau Clwb Triathlon Porthcawl yn cyfarfod yn rheolaidd yn Grow and Grind, siop goffi ar Draeth Coney ym Mhorthcawl, lle perffaith i gael sgwrs ar ôl rhedeg, beicio neu nofio.

Mae’r clwb yn rhoi pwyslais mawr ar iechyd meddwl ac mae ganddo gysylltiadau â grwpiau cymorth lleol fel Breaking Free, Andy’s Man Club a Mental Health Matters Wales.

Felly – bobl sy’n hoffi coffi a beicwyr brwd – tynnwch y llwch oddi ar eich beic, mentrwch ar y llwybrau beicio a gwnewch ffrindiau drwy bŵer paned ar y Diwrnod Coffi Rhyngwladol.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy