Main Content CTA Title

Diwrnod Llyfr y Byd - Ein newyddiadurwyr chwaraeon gorau sy’n datgelu beth yw eu hoff lyfrau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diwrnod Llyfr y Byd - Ein newyddiadurwyr chwaraeon gorau sy’n datgelu beth yw eu hoff lyfrau

Dydi pandemig ddim yn gallu effeithio ar bopeth ac un o’r pethau hynny yw Diwrnod Llyfr y Byd, sy’n cael ei gynnal ddydd Iau Mawrth 4.

Mae'r dathliad byd-eang o ddarllen yn mynd yn ei flaen, gyda gwerth llyfr da’n ymddangos yn bwysicach nag erioed yn ystod y 12 mis diwethaf.

I nodi'r diwrnod, pa well ffordd nag awgrymu hoff lyfrau chwaraeon – hen a newydd – wedi’u dewis gan newyddiadurwyr chwaraeon o Gymru.

 

Peter Jackson – The Rugby Paper

Pe bai'n rhaid i mi ddewis un llyfr chwaraeon, The Sweet Science gan A J Liebling fyddai hwnnw. Fe greodd Tony Liebling, sy’n cael ei adnabod fel AJ, y cofnod atgofus gwych yma o focsio yn nyddiau Sugar Ray Robinson a Rocky Marciano. O safbwynt Cymru, mae cyfeiriad anrhydeddus at Tommy Farr hyd yn oed.

Mae'r straeon yn troi o amgylch brwydrau mawr y cyfnod. Dywedodd y diweddar Hugh McIlvanney wrthyf ei fod yn credu mai Tony Liebling oedd yr awdur gorau yn y busnes, felly mae hynny'n dipyn o argymhelliad.

Ffefryn arall gen i yw Jacob’s Beach: The Mob, the Garden and the Golden Age of Boxing gan Kevin Mitchell. Fe wnes i ei ddarllen ar fy ngwyliau ryw flwyddyn ac roedd mor dda fel ’mod i wedi ffonio Kevin i ddweud hynny wrth orwedd yn yr haul.

Llyfr gwych arall yw The Silent Season of a Hero gan awdur mawr arall o America, Gay Talese. Mae'n newyddiaduraeth pryf ar y wal go iawn am y chwedlonol Joe DiMaggio – gwych iawn. 

Pam llyfrau bocsio? Rwy'n credu mai'r rheswm am hyn yw am fod bocswyr, a hefyd jocis hela cenedlaethol, ymhlith y bobl ddewraf yn y byd chwaraeon, felly mae eu straeon nhw’n teimlo mor amrwd.

 

Beth Fisher – ITV Wales

Does dim digon o lyfrau chwaraeon am fenywod, a dim digon o lyfrau chwaraeon wedi’u hysgrifennu gan fenywod. Dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.

Fe wnes i fwynhau It's Not About The Bike gan Lance Armstrong. Ond, wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod ei hanes nawr, felly mae e oddi ar y rhestr.

Felly, byddai'n rhaid i mi argymell Proud: My Autobiography gan Gareth Thomas a Michael Calvin, oherwydd mae cymaint o wirionedd personol ynddo fe, ac am yr un rheswm, hunangofiant gwych Andre Agassi, Open.

Gyda'r ddau ohonyn nhw, rydych chi'n cael mynd at graidd pwy ydyn nhw – y da a'r drwg. Rydych chi'n teimlo eich bod chi’n dod i adnabod y person go iawn, nid dim ond y bersonoliaeth gyhoeddus.

 

Alex Bywater – The Sunday Times

Fel cefnogwr chwaraeon wrth dyfu i fyny a newyddiadurwr chwaraeon bellach, rydw i wedi darllen hunangofiannau chwaraeon o oedran ifanc ac wedi cael fy nghyfareddu gan bersonoliaethau unigol sêr y byd chwaraeon bob amser.

Beth sy'n eu sbarduno nhw? Pwy ydyn nhw oddi ar y cae? 

Dau bwerus iawn yw A Life Too Short: The Tragedy of Robert Enke gan Ronald Reng a Beware of the Dog gan Brian Moore.

Mae'r ddau lyfr yn delio â phethau trasig, ond maen nhw wedi'u hysgrifennu'n wych ac yn rhoi cipolwg rhyfeddol i ni ar y person sy’n ganolog yn y stori.

Yn Enemy Number One mae’r gamblwr rasio ceffylau proffesiynol Patrick Veitch yn adrodd ei stori am sut cafodd y gorau ar y bwcis ar ôl bod yn rhan o fyd o droseddu. Darllen hynod ddiddorol.

Yn fwy diweddar yn ystod y cyfyngiadau symud, rydw i wedi mwynhau sawl hunangofiant rygbi. Roedd The Battle gan Paul O'Connell yn ymwneud â llawer mwy na rygbi, ac roedd The Hurt gan Dylan Hartley yn yr un categori.

 

Dot Davies – BBC, S4C

Yn syml, y llyfr chwaraeon gorau rydw i wedi'i ddarllen erioed yw Open - hunangofiant anhygoel Andre Agassi.

Mae'n debyg ei fod o flaen ei amser. Fel ffan tennis, ac fel rhiant, mae'n ddarllen gwych ac yn rhoi cipolwg i ni ar sut a pham y daeth yn seren fyd-eang.

Mae'r cyfan ynddo - rôl ei dad a'i ffrindiau enwog niferus (a'i gariadon) cyn iddo ddod o hyd i hapusrwydd gydag un o'r chwaraewyr tennis benywaidd gorau erioed, Steffi Graf.  Mae'n graff, yn onest, ac fel mae'r teitl yn awgrymu, yn 'Agored'.

Roeddwn i wrth fy modd gyda Serious gan John McEnroe hefyd. Mae'n cynnwys popeth – ei berthnasoedd, ei blant, ei gasgliad o gelf. Roeddwn i’n ddigon digywilydd i’w gael i lofnodi copi clawr caled i mi ychydig flynyddoedd yn ôl yn Wimbledon.

Fe ysgrifennodd neges hyfryd iawn. I amddiffyn fy hun, dyma'r unig hunangofiant rydw i erioed wedi gofyn amdano yn fy swydd! Ac roeddwn i wedi gweithio gydag e am 11 mlynedd cyn magu digon o hyder i ofyn! 

 

Rob Cole – Westgate Sports Agency

Fe fyddwn i’n dechrau drwy fynd yn ôl ymhell – i 1981 a Quest for Adventure gan Chris Bonnington.

Mae'n llyfr gwych am y mympwy sydyn sy'n gyrru pobl ar yr anturiaethau mwyaf anhygoel. Mae rhywbeth am straeon mynydda sy'n eu gwneud nhw mor afaelgar.

Os ydych chi eisiau darllen am rygbi, un lle sydd i ddechrau i gefnogwyr Cymru - Fields of Praise: The Official History of the Welsh Rugby Union, 1881-1981.

Wedi'i ysgrifennu gan Gareth Williams a Dai Smith, mae nid yn unig yn canmol y chwaraewyr gwych, ond hefyd yn rhoi popeth yn ei gyd-destun. Mae'n rhoi rygbi Cymru yn ei fframwaith cymdeithasol a hanesyddol a gallwch ei ddarllen fel nofel bron.

Os ydych chi'n hoffi straeon rygbi o'r maes chwarae, rhowch gynnig ar Mud in Your Eye gan ChrisLaidlaw, cyn hanerwr Seland Newydd, a aeth i chwarae yn Ffrainc. Mae'n llawn straeon gwych, lliwgar.

 

Michelle Owen – Sky Sports News

Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe ddarllenais i One Man’s Everest gan Kenton Cool, cofnod o fynydda sy'n siwrnai ryfeddol iawn o wydnwch a goresgyn heriau enfawr i ddilyn eich angerdd yn rhai o'r amodau mwyaf bygythiol ar wyneb y ddaear.

Mae'n fynyddwr anhygoel, y person cyntaf i ddringo tri chopa Everest, ac mae'r llyfr yn werth ei ddarllen hyd yn oed os nad ydych chi’n hoff o fynyddoedd!

Os ydych chi'n hoffi pêl droed – fel fi – un o’r llyfrau gorau gan chwaraewr yw Steven Gerrard - My Autobiography.

Mae’n gipolwg gwych ar feddylfryd enillydd, ei fagwraeth, a'r hyn mae Lerpwl yn ei olygu iddo.

Cafodd anaf difrifol pan oedd yn ifanc iawn ond mae’r manylion am sut achubodd ei yrfa bêl droed yn ei wneud yn llyfr hynod ddifyr, yn ogystal â chipolwg pleserus iawn tu ôl i'r llenni.

 

Graham Thomas – Dai Sport

Mae rhywbeth am focsio sy'n denu awduron gwych, yn enwedig awduron gwych o America.

Felly, os cymerwch chi fywyd Muhammad Ali a gofyn i awdur cystal â David Remnick ei bwyso a’i fesur, rydych chi’n cael King of the World, llyfr hynod ddramatig a manwl. Rhagorol! 

Moneyball gan Michael Lewis yw'r clasur o hyd o ran sicrhau dealltwriaeth o chwaraeon modern ac a yw gwyddoniaeth wedi disodli doethineb, a dylai unrhyw un sy'n chwilio am stori Gymreig wych sy'n haeddu bod yn ffilm Hollywood edrych ar Lost In France, stori'r gôl-geidwad Leigh Richmond Roose, gan Spencer Vignes.

Wrth siarad am ffilmiau, os ydych chi'n hoffi Escape To Victory – gyda Sylvester Stallone a Michael Caine a'u gêm bêl droed enwog, ond ffuglennol, yn erbyn y Natsïaid – darllenwch Dynamo gan Andy Dougan, am dîm arwrol Dynamo Kiev yn 1942.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy