Skip to main content

“Dydw i ddim yn gallu aros i gael y ddraig yna ar fy mrest” – Brinn Bevan ar Birmingham 2022

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. “Dydw i ddim yn gallu aros i gael y ddraig yna ar fy mrest” – Brinn Bevan ar Birmingham 2022

Dywed seren Gymnasteg Cymru, Brinn Bevan, nad yw’n all aros i gael y ddraig ar ei frest wrth iddo geisio anrhydeddu ochr ei ddiweddar dad o’r teulu a chynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.

Mae Bevan wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2016 ac mae hefyd wedi ennill medal ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop - gan ennill arian ac efydd, yn y drefn honno.

Ond nid yw wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad eto ac mae'n gobeithio cystadlu yn ei Gemau cyntaf yn Birmingham y flwyddyn nesaf.

“Gemau’r Gymanwlad yw’r un olaf i’w thicio oddi ar y rhestr i mi,” eglura Bevan, sy’n hanu o Essex ond yn cynrychioli Cymru drwy ochr ei dad o’r teulu.

“Roedd newid i Gymru yn benderfyniad rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers amser hir iawn. Rydw i wedi bod yn ceisio ers pan oeddwn i'n 10 oed i wneud y newid yma. 

“Fe fydd yn arbennig iawn gan fy mod i'n teimlo y byddaf yn cystadlu dros fy nhreftadaeth gartref. Rydw i eisiau gwneud fy nhad a'i ochr e o'r teulu yn falch.

“Ers cyn cof, rydyn ni bob amser wedi ceisio ymweld ag Aberystwyth bob blwyddyn i weld y teulu. 

“Hyd yn oed pan rydw i gartref, rydw i bob amser yn cefnogi Cymru mewn chwaraeon eraill, fel rygbi. Mae'n deimlad gwych gallu cynrychioli Cymru.

“Dydw i ddim yn gallu aros i gael y ddraig ar fy mrest.”

Mae Bevan, 24 oed, sy'n hanu o Southend, yn gefnogwr angerddol i gymnasteg Cymru ac mae'n gobeithio helpu'r gamp i ddatblygu ymhellach yng Nghymru.

“Nid yw gymnasteg ymhlith y campau mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd ond rydw i’n credu ei bod yn rhywbeth a all dyfu,” meddai.

“Os gallaf i ysbrydoli’r genhedlaeth iau - wel gwych. Mae cael athletwyr mwy a gwell yn siŵr o helpu.”

“Yn arwain at Gemau’r Gymanwlad, rydw i’n credu bod gennym ni siawns wych o ennill medal tîm.

“Mae llawer o unigolion cryf ac rydw i’n credu y byddwn ni’n dod at ein gilydd yn dda fel tîm, a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli pobl i ddechrau cymryd rhan mewn gymnasteg.

Os yw caledi meddyliol wedi bod yn hanfodol i bob athletwr yn ystod 18 mis diwethaf y pandemig, roedd gan Bevan ddigon ohono.

Bu’n rhaid iddo fod yn gryf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ôl i’w obeithion o gyrraedd Tokyo gael eu chwalu yn y digwyddiad prawf olaf oherwydd torri asgwrn yn ei goes dde yn ystod ymarfer.

Nid dyma’r tro cyntaf i asgwrn wedi torri amharu ar ei gynnydd.

“Fe gefais i anaf anffodus yn y treial Olympaidd diwethaf gan dorri fy nghoes, unwaith eto, ond rydw i bellach wedi cael dod yn ôl ac rydw i’n falch o fod yn ôl yn cymryd rhan,” meddai’r gymnast a wnaeth hefyd orfod goresgyn torri ei goes yn y cyfnod cyn Gemau Olympaidd Rio yn 2016.

“Roedd yn anodd iawn, ond mae llawer o bobl wedi bod mewn sefyllfa anodd hefyd, gyda’r coronafeirws ac fel mae hynny wedi tarfu ar hyfforddiant.

“Yn y trydydd treial, roeddwn i wir yn teimlo fy mod i’n ôl yn fi fy hun. Roeddwn i'n teimlo fel cystadleuydd a gymnast eto. 

“Wrth lamu gefais i fy anaf ac yn rhwystredig iawn, hwnnw oedd fy narn olaf.

“Roeddwn i’n meddwl bod popeth wedi mynd yn dda tan hynny. Ond yn syth, fe drodd fy ffocws i ar adfer, wnaeth fy helpu i’n feddyliol. ”

Brinn Bevan yn cystadlu ar y modrwyau.
Llun: British Gymnastics

 

Mae Bevan eisoes wedi cael blas ar gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn 2016. Dywed y llanc a oedd yn 19 oed ar y pryd iddo ddysgu llawer iawn o gystadlu yn y Gemau hynny.

“Roedd Rio yn brofiad anhygoel. Y Gemau hynny oedd y Gemau cyntaf y gallwn i eu mynychu oherwydd cymhwysedd oedran. Roeddwn i'n teimlo fel athletwr ifanc iawn ar y pryd.

“Fe wnes i ddysgu llawer o’r profiad hwnnw, fel ymdopi â phwysau torf, mynd i wahanol wledydd ac ymdopi â pharthau amser newydd.

“O ran fy mherfformiad unigol, fe wnes i daro pob symudiad yn dda a ’wnes i ddim gwneud unrhyw gamgymeriadau.

“Fel tîm fe ddaethon ni’n bedwerydd, ond roedd yn deimlad rhyfedd iawn.

“Rydych chi mor falch o’ch perfformiadau ond ar yr un pryd rydych chi'n rhwystredig oherwydd eich bod chi'n teimlo mor agos at ennill y fedal honno mae pawb yn breuddwydio amdani.

“Fe allwch chi bob amser feddwl ‘beth os?’ ond yn bendant mae wedi helpu i symud gweddill fy ngyrfa yn ei blaen.”

Coronwyd Bevan yn bencampwr Prydain yn ddiweddar yng Nghaerdydd ar ôl ennill aur ar y barrau cyfochrog.

Efallai y bydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Japan ym mis Hydref, ond mae eisiau sicrwydd am y protocolau cwarantîn gan nad yw eisiau colli ychydig wythnosau o amser hyfforddi ar ôl dychwelyd i'r DU.

Ar ôl Birmingham, mae cyrraedd Gemau Olympaidd arall yn darged mawr.

“Breuddwyd pob athletwr yw cystadlu mewn Gemau Olympaidd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n Gemau cyntaf i chi. Y Gemau Olympaidd yw'r pinacl mawr. Mae bendant yn fy nghynlluniau i i geisio cymhwyso. 

“Byddaf yn hyfforddi yn y cefndir mor galed ag y gallaf i geisio gwneud i hynny ddigwydd.

“Wrth gwrs, dydych chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd gydag anafiadau ac amgylchiadau eraill ond rydw i'n mynd i wneud fy ngorau glas.”

Mae Bevan yn siarad gyda balchder am y cyfleoedd mae wedi’u cael drwy gymnasteg a byddai wrth ei fodd yn gweld mwy o bobl yn cymryd rhan yn y gamp.

“Mae'n rhaid i chi fynd amdani,” meddai.

“Rhaid i bawb ddechrau yn rhywle. ’Dyw e ddim bob amser y peth tlysaf ond byddwch yn actif, mwynhau’r hyn rydych chi'n ei wneud, a dim ond pethau da all ddod o hynny.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy