Skip to main content

Dydych chi byth yn rhy hen i ddringo i’r uchelfannau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dydych chi byth yn rhy hen i ddringo i’r uchelfannau

Mae goresgyn eich ofn o uchder a sgwrsio â ffrindiau newydd yn ddim ond dau o fanteision sesiynau dringo i bobl dros 60 oed yn Abertawe. 

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, mae'r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed yn helpu i roi mwy o fynediad i bobl dros 60 oed i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol fel y gallant fyw bywydau iachach a hapusach. 

Bob blwyddyn, mae £800,000 yn cael ei ddosbarthu i'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru i gyflawni'r cynllun, a dros y pedair blynedd diwethaf mae mwy na 7,000 o bobl hŷn wedi elwa o weithgareddau am ddim a rhai â chymhorthdal. Mae amrywiaeth enfawr o chwaraeon wedi dod ar gael drwy'r cynllun, ac mae dringo yn un o nifer o weithgareddau â gostyngiad sy'n cael eu cynnig gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe.

Dywedodd Sarah McCoubrey, Rheolwr Iechyd a Lles Cyngor Abertawe: "Mae stereoteip penodol am weithgareddau antur fel dringo dim ond yn addas ar gyfer pobl iau, ond nid yw 60 yn hen ac mae dringo'n weithgaredd hwyliog iawn sydd o fudd i'ch lles corfforol a meddyliol. 

"Yr adborth rydyn ni wedi'i gael ers rhedeg y sesiynau hyn yng Nghanolfan Ddringo Dan Do Dynamic Rock yw y gall dringo roi hwb i'ch hyder a gwneud i chi deimlo'n wych. Mae pawb sydd wedi cymryd rhan wir wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu'r rhaglen ymhellach ar draws Abertawe gydag amrywiaeth o weithgareddau sy'n apelio at bobl leol.”

person ar wal ddringo

 

Dywedodd un cyfranogwr, Ron Jenkins, am y sesiynau: "Rwy'n cael amser gwych yn y sesiynau Dringo Creigiau i bobl dros 60 oed. Mae dringo yn fath da o ymarfer corff, ac mae'n gwella fy nghryfder, cydbwysedd, hyder a lles cyffredinol. Rydw i bob amser yn edrych ymlaen at y sesiwn wythnosol nesaf.

"Rydw i wedi bod yn gwella'n raddol ers i mi ddechrau ar ddiwedd 2023 ac yn ddiweddar rydw i wedi llwyddo i ddringo heriau 6b gyda chyngor a llwyth o anogaeth gan hyfforddwyr a chyd-ddringwyr. Everest nesaf!”

Ym mis Ebrill 2024, fe ganfu arolwg Traciwr Gweithgarwch Cymru - a gafodd ei roi at ei gilydd gan Savanta ar ran Chwaraeon Cymru - nad yw 22% o bobl 55+ oed yng Nghymru yn gwneud unrhyw ymarfer corff, gan ddangos yr angen am gynlluniau i ddenu pobl hŷn i fyw bywydau mwy actif. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun yn ymwneud â gwella mynediad at weithgareddau chwaraeon i bobl hŷn yn unig - profwyd hefyd bod mynd i glybiau a gweithgareddau chwaraeon yn helpu i leihau unigedd cymdeithasol. Yn Dynamic Rock, bydd cyfranogwyr yn cyrraedd hanner awr cyn y sesiwn am luniaeth a sgwrs, cyn cymryd rhan mewn sesiwn awr o ddringo gyda hyfforddwr. 

Mae'r cyfranogwr Alan Pritchard wedi gweld ochr gymdeithasol y sesiynau yn fuddiol iawn, gan ddweud: "Rydw i wir wedi mwynhau'r sesiynau dringo dan do am ddim. Roedd hi'n braf cwrdd â phobl eraill a sgwrsio â nhw cyn ac yn ystod y sesiynau. Roedd y fformat yma yn fy ngalluogi i fynd ar fy mhen fy hun ond cael rhywun o oedran tebyg i ddringo gydag ef bob amser.”

Cytunodd Angela Howells, gan ddweud am ei phrofiad yn Dynamic Rock: "Gwelais y cynnig hwn ar-lein a phenderfynu rhoi cynnig arni. Doeddwn i ddim wir yn disgwyl ei fwynhau gan fod gen i ofn uchder ac nid yw fy nghymalau'n dda oherwydd fy oedran ac arthritis, ond rydw i wedi bod wrth fy modd â'r sesiynau dringo. 

"Alla i ddim gwneud cymaint â phobl eraill, ond rydw i'n hapus iawn gyda’r hyn rydw i wedi’i gyflawni. Rydw i wedi cwrdd â phobl hyfryd yno sy'n wirioneddol galonogol, ac rydw i mor ddiolchgar o gael y cyfle i gael profiad newydd.”

 

grwp o bobl mwynhau diod poeth a gwneud puzzle
Grwp yn cymdeithasu cyn yr dringo

 

Mae cyllid ar gyfer y Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed wedi'i gadarnhau tan 2025, fel y gall oedolion hŷn yng Nghymru barhau i elwa ar y manteision. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau i bobl dros 60 oed yn eich ardal chi, ewch i'ch canolfan hamdden leol.

Newyddion Diweddaraf

Megan Barker: Sut mae chwaraeon wedi ei helpu i oresgyn ei swildod

Dywed Megan Barker fod chwaraeon wedi dysgu pwysigrwydd gwaith caled iddi, ac wedi rhoi hwb i'w hyder.

Darllen Mwy

Beth mae clybiau chwaraeon yng Nghymru yn ei ddweud am y Grant Arbed Ynni?

Dyma rai o brofiadau a chyngor y clybiau sydd wedi defnyddio’r Grant Arbed Ynni.

Darllen Mwy

Jeremiah Azu: Y sylfeini cadarn wnaeth feithrin y dyn cyflymaf yng Nghymru

Daeth y sbrintiwr yn ddiweddar yr athletwr cyntaf erioed o Gymru i redeg 100m mewn llai na 10 eiliad.…

Darllen Mwy