Skip to main content

Dyma'r gwirfoddolwyr sy'n gwneud gwahaniaeth yn y byd chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dyma'r gwirfoddolwyr sy'n gwneud gwahaniaeth yn y byd chwaraeon yng Nghymru

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr, rydyn ni’n siarad â phedwar gwirfoddolwr sy’n gwneud byd o wahaniaeth yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

O blentyn yn ei arddegau sy'n hyfforddi rygbi i bâr o dadau sy'n torchi eu llewys yn y clwb criced lleol i nyrs wedi ymddeol sydd wedi troi'n swyddog athletau, mae ganddyn nhw i gyd eu straeon ysbrydoledig eu hunain i'w hadrodd yn ogystal â chynghorion i'w rhannu ag unrhyw un sy'n ystyried gwirfoddoli yn eu clwb chwaraeon lleol.

Arif Saad a Paul Graham – Clwb Criced Aberaeron

Paul ac Arif yn mwynhau gêm griced ar Faes Criced Lord's
Paul ac Arif, gwirfoddolwyr yn CC Aberaeron

 

Mae dau dad i gricedwyr ifanc addawol, Arif Saad a Paul Graham, wedi dod yn fwyfwy cysylltiedig â Chlwb Criced Aberaeron. Mae'r ddeuawd wedi ei gwneud yn genhadaeth i ddatblygu'r clwb, gyda mwy o blant ac oedolion yn chwarae nag erioed o'r blaen bellach. Mae eu hymdrechion wedi ennill clod mawr iddyn nhw gan Griced Cymru am Gysylltu Cymunedau.

Sut wnaethoch chi ddechrau gwirfoddoli?

Fe ddaethon ni yn rhan o'r clwb i ddechrau pan roddodd aelod o'r clwb y gorau i'w swydd. Roedd bob amser wedi bod yn allweddol i redeg a datblygu’r clwb a, gyda’n gilydd, fe benderfynon ni helpu mwy fel na fyddai’r clwb yn llithro’n ôl ar ôl y cynnydd oedd wedi’i wneud. 

Beth ydych chi’n ei wneud?

Rhyngddon ni, rydyn ni’n hyfforddi’r rhai dan 13 ac yn rhedeg rhaglen Dynamos sydd ar gyfer plant wyth i 11 oed. Rydyn ni hefyd yn ceisio creu tîm pêl galed dan 11 oed. Rydyn ni’n trefnu hyfforddiant gaeaf ar gyfer timau oedolion ac ieuenctid, yn rheoli dewis y timau, yn helpu i baratoi’r maes, sgorio / dyfarnu gemau (pan nad ydyn ni’n chwarae!) ac uwchlwytho’r canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau. Dros y ddau dymor diwethaf, rydyn ni hefyd wedi sefydlu tîm pêl feddal i ferched sydd bellach yn rhan fywiog o’r clwb a’r gymuned. Mae pawb yn siarad amdano!

Un o'n tasgau mwyaf ni yw moderneiddio ein cyfleusterau i fod yn fwy hygyrch a chynhwysol. Rydyn ni eisiau sicrhau les ar dir y cyngor fel ein bod ni’n gallu gwella’r cyfleusterau a datblygu fel clwb.

Pam ydych chi'n gwneud hyn?

Rydyn ni'n ei wneud oherwydd mae angen ei wneud! Ond mae'n rhoi boddhad mawr, cyflwyno plant i griced a'u cadw nhw'n rhan o'r gêm.

Rydyn ni’n credu bod clybiau chwaraeon yn adnoddau cymunedol gwerthfawr sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn gallu bod yn ysbrydoliaeth i bobl, hen ac ifanc, fod yn fwy actif a mwynhau chwaraeon. Rydyn ni nawr yn ceisio datblygu pob agwedd ar y clwb.

Ar lefel fwy hunanol, rydyn ni'n mwynhau chwarae'r gêm ac eisiau clwb llwyddiannus i chwarae drosto! Rydyn ni hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau da.

Sut mae'n gwneud i chi deimlo?

Rydyn ni'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni - mae'n werth chweil pan fydd rhywbeth rydych chi wedi neilltuo amser ac ymdrech iddo yn dwyn ffrwyth. Fe fu rhai achlysuron yn ddiweddar pan rydyn ni wedi edrych o gwmpas a meddwl mai dyma'r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni. Mae'n eich cymell chi i ddal ati i wneud ymdrech.

Mae'n rhoi ymdeimlad enfawr o hapusrwydd i ni pan fydd pawb yn dod at ei gilydd, pawb yn gwneud eu rhan i gynnal gemau ac i wella'n gyffredinol fel clwb.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl sy'n meddwl am wirfoddoli i glwb chwaraeon?

Mae pob clwb chwaraeon yn gweiddi am fwy o bobl i gymryd rhan. Mae cymaint i'w wneud i redeg clwb chwaraeon llwyddiannus ac mae angen pobl gyda chymaint o sgiliau a phrofiadau gwahanol - neu dim ond amser i helpu.

Fe all fod yn ddieithr pan fyddwch chi’n newydd a phawb yn adnabod pawb arall ond mae clybiau chwaraeon yn dueddol o fod yn amgylcheddau anhygoel o groesawgar, yn dyheu am fwy o bobl i dorchi eu llewys. Felly, taflwch eich hun i mewn a byddwch yn gwneud ffrindiau gwych ar hyd y ffordd.

Cyngor Doeth Arif a Paul: Peidiwch â gorfeddwl pethau – dim ond gofyn beth allwch chi ei wneud i helpu.

Darllen mwy am wirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth yn y byd criced.

Tracey Weetman - Trac a Chae Menai

Tracey yn gwirfoddoli fel swyddog mewn digwyddiad Athletau Cymru
Mae Tracey wedi dechrau gwirfoddoli fel swyddog

 

Fe ymddeolodd Tracey Weetman ac adleoli gyda'i gŵr o Swydd Stafford i Ynys Môn yn 2020. Ar ôl ymweld â ‘Trac a Chae Menai’ i gynnig ei gwasanaethau, mae hi bellach yn wirfoddolwr gweithgar iawn ac mae hyd yn oed wedi ennill Gwobr Newydd Ddyfodiad i Ddyfarnu Athletau Cymru.

Sut wnaethoch chi ddechrau gwirfoddoli?

Mae fy ngŵr i bob amser wedi bod yn ymwneud â chlybiau athletau ac roeddwn i’n arfer eistedd a gwylio. Roeddwn i'n gweithio shifftiau fel nyrs felly roedd hi'n anodd cynnwys gwirfoddoli hefyd. Ond pan wnes i ymddeol ac ail-leoli i Ynys Môn yn 2020, fe ofynnodd e i'r clwb a oedd arnyn nhw angen hyfforddwr sbrintio ac fe wnes i benderfynu rhoi cynnig ar ddyfarnu.

Beth ydych chi’n ei wneud?

Rydw i bellach yn swyddog maes Lefel 2 a fi hefyd yw Swyddog Lles y clwb, sy’n golygu fy mod i’n sicrhau bod gan bawb yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau diogelu ac rydw i’n ateb ymholiadau.

Pam ydych chi'n gwneud hyn?

Mae’n ffordd wych o ymuno a dod i adnabod pobl. Mae’r clwb fel un teulu mawr – mae’n fendigedig. Rydw i hefyd wedi penderfynu dysgu Cymraeg felly mae’n ffordd wych o ymarfer fy sgiliau iaith!

Sut mae gwirfoddoli’n gwneud i chi deimlo?

Mae’n hwyl ac yn rhoi boddhad ac mae’n gwneud i chi deimlo fel rhan o’r gymuned. Roedd yn ffordd wych i ni integreiddio pan wnaethon ni adleoli.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl sy'n meddwl am wirfoddoli i glwb chwaraeon?

Os ydych chi eisiau ymuno a rhoi help llaw, rhowch gynnig arni. Mae’n ffordd wych o ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad mewn ffordd gadarnhaol iawn.

Cyngor Doeth Tracey: Gofynnwch i wirfoddolwyr eraill yn y clwb pam maen nhw’n hoffi gwneud hyn.

Mwy o wybodaeth am sut i ddod yn wirfoddolwr gydag Athletau Cymru yma.

Ieuan Pilliner – Clwb Rygbi a Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr

 

Dim ond 16 oed yw Ieuan, ond mae eisoes wedi bod yn hyfforddi yng Nghlwb Rygbi a Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr ers tua blwyddyn. Os nad yw'n hyfforddi, mae'n dyfarnu neu'n helpu i baratoi’r cyfleuster ar ddyddiau gemau. Mae ei ymdrechion wedi cael eu cydnabod ac mae wedi ennill Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn URC eleni.

Sut wnes di ddechrau gwirfoddoli?

Mae fy nhad yn Rheolwr Tîm yn y clwb ac fe wnes i ofyn iddo allwn i ddechrau hyfforddi tîm. Wedyn fe wnes i ddechrau hyfforddi'r rhai dan 10 oed.

Beth wyt ti'n ei wneud?

Yn ogystal â hyfforddi, rydw i hefyd yn dyfarnu ar ddydd Sul ac rydw i'n helpu pan allaf i. Mae llawer o dasgau bach i’w gwneud ar ddyddiau gemau felly rydw i’n dueddol o helpu gyda beth bynnag sydd angen ei wneud. Rydw i hefyd yn chwarae i dîm Ieuenctid Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr.

Pam wyt ti'n gwneud hyn?

Rydw i wrth fy modd yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gamp a'r clwb sydd wedi rhoi cymaint i mi. Mae’n rhoi boddhad mawr, helpu i ddatblygu pobl iau a rhoi llwybr iddyn nhw. Mae hefyd yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl ac mae’r sesiynau’n llawer o hwyl.

Fel rhan o fy Mhrosiect Sgiliau ar gyfer Bagloriaeth Cymru, roedd rhaid i mi wneud 30 awr o wasanaeth cymunedol felly fe helpodd gyda hynny ac rydw i wedi sylwi bod fy sgiliau cyfathrebu i wedi gwella’n aruthrol. Roeddwn i ychydig yn swil i ddechrau ond rydw i'n siarad llawer mwy nawr.

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth bobl sy'n meddwl am wirfoddoli i glwb chwaraeon?

Mae bob amser bobl o gwmpas i helpu ac ateb unrhyw gwestiynau. Mae cymaint o glybiau angen pâr sbâr o ddwylo felly cymerwch ran a pheidiwch ag amau eich hun.

Cyngor Doeth Ieuan: Peidiwch â bod ofn torchi eich llewys – rhowch gynnig arni!

Gwybodaeth am sut i wirfoddoli mewn rygbi yma.

Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru? Os ydych chi eisiau rhoi yn ôl i'ch cymuned leol, mae gan Chwaraeon Cymru rywfaint o gyngor ar sut gallwch chi ddechrau gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon lleol yn eich ardal chi.

Angen mwy o ysbrydoliaeth? Dyma resymau Run4Wales dros fynd ati i wirfoddoli mewn chwaraeon.

Ieuan yn cario'r bêl mewn gêm rygbi i Bridgend Sports
Mae Ieuan yn gwirfoddoli ac yn chwarae yng Nghlwb Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy