Dechreuodd y dathliadau ar gyfer pen-blwydd Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn 50 oed mewn steil wrth i ddynion Hoci Cymru gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes yng Ngerddi Sophia y penwythnos diwethaf.
Sicrhaodd Cymru eu seddi ar yr awyren i India ar gyfer Cwpan y Byd 2023 gyda buddugoliaeth mewn ciciau cosb yn y rownd gynderfynol yn erbyn eu cymdogion o Iwerddon ddydd Sadwrn. Yr eisin ar y gacen ben-blwydd oedd trechu Ffrainc o 2-1 yn y rownd derfynol i ennill y twrnamaint cyfan.
Mae wedi bod yn hir yn dod i Hoci Cymru sydd wedi gorfod aros 38 mlynedd ers i dîm y merched gymhwyso ddiwethaf ar gyfer Cwpan y Byd.
Enillodd Ria Burrage-Male 33 o gapiau ar lefel hŷn gyda Merched Cymru ac mae bellach yn Brif Swyddog Gweithredol yn Hoci Cymru. Canmolodd y tîm a'r sefydliad am eu cyflawniad nodedig.
“Mae Hoci Cymru a’r Dynion wedi bod ar daith anhygoel yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae sicrhau lle yng Nghwpan y Byd yn dyst i ymdrechion pawb cysylltiedig.
“Mewn 6 blynedd, maen nhw wedi symud o’r 36ain i’r 15fed safle yn y Byd ac maen nhw bellach wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, a’r cyfan gydag adnoddau cyfyngedig.
“Rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn dyrchafu’r Dynion ac yn darparu llwyfan i ni arddangos y gamp ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn Hoci. Fel chwaraewr, hyfforddwr, aelod pwyllgor, swyddog neu gefnogwr.”
Roedd y cyflawniad yn felysach fyth wrth iddynt sicrhau eu lle yn India 2023 o flaen torf gartref gyda phob tocyn wedi’i werthu yng Ngerddi Sophia - ac ar ben-blwydd y Ganolfan Genedlaethol yn 50 oed.
“Mae chwarae o flaen torf gartref yn hudolus; mae’n anodd iawn ei esbonio,” meddai Ria.
“Nid yw’r Dynion wedi chwarae o flaen torf gartref ers cryn amser. Roedd cynhesrwydd a sŵn y dorf yn codi'r chwaraewyr yn sicr. Roedd bwrlwm gwirioneddol yn y cyfnod cyn ac yn ystod y digwyddiad.
“Pan oedd y ciciau cosb yn cael eu cymryd, roedd tensiwn anhygoel ond yr eiliad wnaethom ni gymhwyso, fe aeth y lle i gyd yn drydanol.”