Mae troeon rhewllyd, neidiau trawiadol a’n pencampwyr hollol cŵl ni yng Ngemau’r Gaeaf 2022 yn Beijing yn sicr yn ein hudo ni ar y llethrau ac i rinciau.
Does dim amheuaeth y bydd chwaraeon fel sgïo, eirafyrddio, hoci iâ, cyrlio a sglefrio ffigwr yn gweld cynnydd enfawr oherwydd Beijing ymhlith y rhai sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Ond pa mor hygyrch yw chwaraeon y gaeaf yng Nghymru? Fe aethon ni i ddarganfod….
SGÏO AC EIRAFYRDDIO
Braidd yn uchel-ael a drud ydyn nhw de?
“Na, dim o gwbl, fe allwch chi gymryd rhan am brisiau rhesymol iawn,” meddai Robin Kellen o Snowsport Cymru Wales.
Yng Nghymru, mae chwe llethr artiffisial lle gallwch chi archebu gwersi fforddiadwy, rhoi cynnig am hwyl neu hyd yn oed symud ymlaen i’r cylch cystadlu. Fe allwch chi sgïo hamdden am tua £10 ac mae llogi offer yn gynwysedig.
Mae’r cyfleusterau yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd, Pont-y-pŵl yng Ngwent, Parc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, Llangrannog ym Mae Ceredigion, Llandudno yng Ngwynedd a Dan-Yr-Ogof ym Mannau Brycheiniog.
Drwy gydol mis Mawrth 2022, mae Snowsport Cymru yn cynnal sesiynau blasu am bris is mewn canolfannau ledled Cymru, a bydd rhai ohonynt am hanner pris. Cysylltwch â'ch canolfan leol i gael gwybod mwy.
Ond ydi hi’n gamp i ferched?
Ydi, mae hi! Mae mwy o ferched nag erioed yn cymryd rhan. Dywedodd Robin wrthym ni: “Yn ein Cystadleuaeth Genedlaethol i Ysgolion yn 2020, roedd gennym ni fwy o ferched na bechgyn yn cymryd rhan.”
Dechreuodd Katie Ormerod o Dîm Prydain Fawr - a hogodd ei sgiliau ar lethrau sgïo sych y DU - ar fwrdd eira i fechgyn am nad oedd neb yn eu gwneud ar gyfer merched. Ond mae amseroedd yn newid!
Ac mae sêr Prydain Fawr – gan gynnwys Menna Fitzpatrick o Gymru – yn fodelau rôl gwych, gan annog mwy o ferched i gamu ar y llethrau.
I ddod o hyd i'ch clwb agosaf, ewch i Snowsport Cymru Wales.