Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi buddsoddi mewn rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer ein partneriaid ers blynyddoedd lawer i helpu pobl i fod y gorau y gallant fod ac i gael y gorau gan eraill.
Ond, eleni, rydyn ni wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth gynhwysol.
Fe wnaethom, wrth gwrs, ystyried y dylai sgiliau arwain cynhwysol fod yn rhan o raglen ehangach yn unig ond, yn y diwedd, fe wnaethom benderfynu y gallai newid y ffordd o feddwl a’r ddealltwriaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newid y gêm yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Felly beth am fynd amdani.
Ni fydd yn dasg hawdd i'r 15 ymgeisydd. Yn dod o bartneriaid fel Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol a phartneriaid cenedlaethol ehangach, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu herio ynghylch y canlynol:
- Sut maen nhw'n gweld cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
- Sut maen nhw wedi ymddwyn o'r blaen tuag at eraill?
- Ydyn nhw wedi gwneud penderfyniadau gyda rhagfarn ymwybodol neu anymwybodol? A fyddent yn gwneud penderfyniadau gwahanol nawr?
Mae'r broses yn debygol o fod yn feichus a bydd gofyn i’r ymgeiswyr fod yn gwbl onest gyda hwy eu hunain ond mewn gofod sy'n ddiogel. Dan arweiniad AKD Solutions, byddwn yn dod ag arbenigwyr i mewn ar gyfer trafodaethau manwl.