Wrth dyfu i fyny yn Llanelli, roedd Elizabeth Popova yn llawn edmygedd o’r gymnastwyr hŷn yn ei champfa.
Cymaint felly fel ei bod hi, fel plentyn bach, yn copïo ac yn dysgu eu perfformiadau, gan ddechrau hoffter oes o’r gampfa a gymnasteg rhythmig.
Ond cafodd y ferch 15 oed a anwyd yng Nghaerfyrddin – ac a fydd ymhlith yr athletwyr ieuengaf i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ym mis Gorffennaf – ei magu i hoffi pob math o chwaraeon, yn dod o deulu a oedd yn byw ac yn anadlu mwynhad o chwaraeon a rhagoriaeth.
Cystadlodd ei mam, Ioana, dros Fwlgaria mewn twrnameintiau gymnasteg rhyngwladol, ac roedd ei thad, Petar, yn chwaraewr pêl fasged proffesiynol i Fwlgaria.
Yn hanu o'r brifddinas Sofia, symudodd y teulu i Gymru tua 20 mlynedd yn ôl. Fel athletwyr brwd eu hunain, ceisiodd Ioana a Petar Popova ennyn hoffter o chwaraeon yn eu dau blentyn ifanc.
Cafodd Elizabeth gyfle i fwynhau llawer o chwaraeon gartref ac yn yr ysgol cyn dewis gymnasteg rhythmig, ond mae'n pwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn llawer o wahanol chwaraeon gyda'i ffrindiau a'i theulu.
“Roeddwn i bob amser yn y gampfa pan oeddwn i ddim hyd yn oed yn cerdded, yn cwympo hyd y lle ac yn cropian o gwmpas. Fe ddechreuais i ymuno â’r dosbarthiadau yn iawn pan oeddwn i tua phedair oed. Roeddwn i’n eithaf ifanc, ond roeddwn i wrth fy modd, felly doedd dim ots gen i,” eglura.
“Roeddwn i hefyd yn arfer mynd i gemau pêl droed fy mrawd. Fe fyddwn i'n chwarae o gwmpas yn y caeau, yn rhoi cynnig ar bethau newydd. Fe wnes i chwarae ychydig o bêl droed, dim ond cicio pêl o gwmpas i gael ychydig o hwyl.
“Pan oeddwn i’n iau, doeddwn i ddim mor ddifrifol am chwaraeon ag ydw i nawr. Roeddwn i'n arfer cael hwyl a gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, ac yn y pen draw, dewis rhythmig.
“Mae’n meithrin llawer o gymeriad, bod mewn amgylchedd chwaraeon. Rydych chi'n dysgu sut i weithio mewn tîm a sut i gefnogi'ch gilydd.
“Mae wedi fy helpu i gyda fy hyder ac os ydw i’n cael anhawster, fe all fy rhieni fy nghynghori i bob amser gan eu bod nhw wedi bod drwy bethau tebyg.”
Nid yn unig y mae rhieni Elizabeth wedi cystadlu ar lefel ryngwladol, ond mae ei brawd Chris hefyd wedi bod yn creu argraff gyda'i sgiliau pêl droed.
Mae wedi chwarae i Fanceinion Unedig a Dinas Caerlŷr yn eu timau dan 18, gan sgorio 15 gôl mewn 20 ymddangosiad i Gaerlŷr mewn un tymor cyn symud ymlaen i Uwch Gynghrair 2.
Mae Chris hefyd wedi mynd ymlaen i ymuno â’r teulu fel athletwr rhyngwladol – gan gynrychioli timau pêl droed grŵp oedran Cymru ar lefel Dan 18 a Dan 21.
Tyfodd Elizabeth i fyny yn gwylio ei mam yn hyfforddi gymnasteg a chafodd ei swyno gan y gamp o oedran ifanc.